Bwriad i godi stad newydd ar dir lle bu llifogydd mawr

Ffynhonnell y llun, Taylor Wimpey

Disgrifiad o'r llun, Llun artist o gynlluniau Taylor Wimpey
  • Awdur, Sion Pennar
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

Mae cynlluniau i adeiladu stad newydd ar safle lle roedd llifogydd mawr yn 2012.

Cafodd degau o gartrefi eu difrodi ar stad Glasdir yn Rhuthun saith mlynedd yn 么l.

Nawr mae Cymdeithas Dai Clwyd Alyn eisiau codi 77 o gartrefi fforddiadwy ar safle cyfagos.

Mae'r safle'n cael ei hystyried yn "risg uchel" o ran llifogydd, ond mae profion hydrolig ar ran y datblygwyr yn gwrthddweud hynny.

Disgrifiad o'r llun, Cafodd nifer o gartrefi stad Glasdir ddifrod yn llifogydd 2012

Pan darodd y llifogydd yn 2012, oedodd y datblygwyr Taylor Wimpey y gwaith adeiladu ar y datblygiad gwreiddiol. Ailgychwynnodd y gwaith hwnnw eleni.

Cyfuniad o dai, byngalos a fflatiau ydy cynlluniau gwahanol Clwyd Alyn, fyddai'n cael ei gwireddu ag arian gan Lywodraeth Cymru.

'Mae angen tai'

Dywedodd y cynghorydd lleol Huw Hilditch-Roberts bod Rhuthun "angen tai" ac nad ydy o'n poeni am y risg o lifogydd.

"Y sialens yma ydy cael rhywbeth sy'n mynd efo cymeriad y dref ac sydd ddim yn achosi problemau traffig," meddai.

Dywedodd un o drigolion stad Glasdir, Iola Jones, bod diffyg cynnal a chadw ar afon Clwyd yn "peri pryder" iddi y gallai llifogydd tebyg ddigwydd eto.

Ond ychwanegodd bod angen tai, yn enwedig byngalos, ar y dref.

Disgrifiad o'r llun, Byddai'r tai newydd wrth safle Ysgolion Pen Barras a Stryd Y Rhos

Y datblygiad diweddaraf ar safle Glasdir ydy ysgolion cynradd Pen Barras a Stryd y Rhos, agorodd eu drysau y llynedd.

Yn 么l un rhiant, Emma Logan, mae'r cynnydd posib mewn traffig yn ei phoeni.

"Mae 'na lot o draffig yma beth bynnag, felly os oes 'na fwy o dai a mwy o geir, mi fydd 'na broblemau," meddai.

Wrth ymateb, dywedodd Craig Sparrow, prif weithredwr Clwyd Alyn, bod y safle'n rhan o "gynllun ehangach ar gyfer yr ardal lle mae llawer o dai preifat wedi cael eu hadeiladu... ac mae'r isadeiledd wedi cael ei uwchraddio i liniaru unrhyw risg o lifogydd."

Mae ymgynghoriad ar y cynlluniau'n para tan 27 Tachwedd.