Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Bywyd dwbl pencadlys Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays
- Awdur, Alun Jones
- Swydd, Uned Wleidyddol 大象传媒 Cymru
Mae cynyrchiadau teledu wedi cael eu denu i ffilmio y tu mewn i bencadlys Llywodraeth Cymru "oherwydd y bensaern茂aeth drawiadol sy'n medru ymdebygu yn hawdd i Lundain".
Mae chwe chynhyrchiad wedi cael eu ffilmio y tu mewn i'r pencadlys ym Mharc Cathays, Caerdydd ers 2012.
Ymhlith y gweithiau ffuglennol a ffilmiwyd yno mae Doctor Who, Casualty a His Dark Materials.
Mae dros 2,600 o weision sifil yn gweithio yn y ganolfan.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod Sgr卯n Cymru, sy'n rhan o'u t卯m diwydiannau creadigol, yn helpu cynyrchiadau i gael mynediad i'r eiddo neu'r lleoliad gorau posib gan gynnwys tu mewn a thu allan i Adeiladau'r Goron ym Mharc Cathays "oherwydd y bensaern茂aeth drawiadol sy'n medru ymdebygu yn hawdd i Lundain".
Codwyd ffi o 拢1 ar bob cynhyrchiad gan Lywodraeth Cymru am drwydded i ffilmio ar ei safle, ac eithrio His Dark Materials a ffilmiodd mewn dau gyfnod ac felly wedi talu am ddwy drwydded.
Cafodd unrhyw gostau eraill hefyd eu hadennill, er enghraifft gwasanaethau diogelwch a gwaith cynnal a chadw ychwanegol. Daeth hyn i gyfanswm o 拢26,271.
Esboniodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, "Mae'r amodau sydd ynghlwm wrth Ddeddf Corfforaeth Caerdydd a'r cyfamodau cyfyngu dilynol a osodwyd pan adeiladwyd ein swyddfeydd ym Mharc Cathays (CP1 a CP2) yn cynnwys gwaharddiad rhag ymgymryd 芒 busnes er elw.
"Ar y sail hon mae Llywodraeth Cymru dim ond yn ceisio adennill costau o ran y ffilmio".
Ar 31 Rhagfyr 2019 cofnodwyd bod 2,408 o aelodau staff Llywodraeth Cymru yn gweithio'n barhaol ym Mharc Cathays 2 a 203 ym Mharc Cathays 1.
Gwneir ffilmio y tu allan i oriau gwaith fel nad yw unrhyw aelodau o staff yn cael eu hamharu.
Disgrifiwyd Parc Cathays 2 yn nyddiau'r Swyddfa Gymreig, cyn datganoli, fel "symbol o lywodraeth anhygyrch, gaeedig .... biwrocratiaeth dan warchae". yng Ngwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig.
Yn ei gyfrol Hanes Cymru, fodd bynnag, disgrifiodd John Davies Barc Cathays fel "pencadlys ysblennydd".