Gruffydd Wyn yn ennill C芒n i Gymru 2020
- Cyhoeddwyd
Gruffydd Wyn ddaeth i'r brif yng nghystadleuaeth C芒n I Gymru 2020 yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth nos Sadwrn.
Penderfynodd gwylwyr mai'r g芒n Cyn I'r Llenni Gau oedd yn haeddu'r wobr gyntaf o 拢5,000 a'r cyfle i gynrychioli Cymru yn yr 糯yl Ban-Geltaidd yn Iwerddon fis nesaf.
Dywedodd y canwr o Amlwch, a ddaeth i amlygrwydd ar 么l cyrraedd rowndiau olaf y gyfres deledu Britain's Got Talent: "Roedd y g芒n yma i fy Nain a fu farw'n ddiweddar, a dwi wedi gweld bywyd yn anodd iawn ers ei cholli.
"Dwi'n gobeithio y bydda'i hi yn browd iawn ohona' i heno."
Y g芒n Pan Fyddai'n Wythdeg Oed ddaeth yn ail yn y bleidlais gyhoeddus, gan sicrhau gwobr o 拢2,000 i'r cyfansoddwyr, Rhydian Meilir a Jacob Elwy.
Cafodd Alistair James 拢1,000 am ddod yn drydydd gyda Morfa Madryn.
Roedd yna bum c芒n arall yn y rownd derfynol:
Arianrhod gan Beth Celyn;
Adref yn 么l gan Tesni Jones, Sara Williams a Roo Walker;
Dawnsio'n Rhydd gan Ben Hamer a Rhianna Loren;
Y Tir a'r M么r gan Rhydian Meilir;
ac Anochel gan Aled Mills.
Cafodd caneuon y rownd derfynol eu dewis gan banel o feirniaid - Bryn F么n, Georgia Ruth, Ani Glass ac Owain Gruffudd Roberts.
Mae'r 糯yl Ban-Geltaidd yn cael ei chynnal yn Carlow eleni rhwng 14 a 19 Ebrill.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2019