Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ystyried gorfodi gyrwyr i dalu am gael defnyddio'r ffyrdd
Fe allai gyrwyr gael eu gorfodi i dalu tollau a thaliadau newydd wrth i Lywodraeth Cymru annog pobl i ddefnyddio llai o'u ceir.
Mae taliadau ychwanegol i barcio yn y gweithle a chanolfannau siopa yn cael eu hystyried hefyd.
Mae'r gweinidog trafnidiaeth wedi comisiynu adolygiad annibynnol, fydd yn edrych ar opsiynau fel codi taliadau ar yrwyr i ddefnyddio'r ffyrdd neu yrru i ganol dinasoedd a threfi mawr.
Yn 么l Ken Skates AC mae angen ystyried y camau yma er mwyn annog gyrwyr allan o'u ceir "ac at drafnidiaeth fwy cynaliadwy yng Nghymru".
Derek Turner, a fu'n gweithio i Transport for London, fydd yn arwain yr ymchwiliad ac mae disgwyl iddo gyhoeddi adroddiad yn yr hydref.
Mae'r adolygiad yn edrych ar opsiynau ymhob rhan o Gymru, ac yn cyfrannu at waith y comisiwn sy'n edrych ar leihau tagfeydd ar y M4, yn ogystal 芒 syniad Cyngor Caerdydd i godi tal dyddiol o 拢2 i yrwyr yn y brifddinas.
Y llynedd fe wnaeth Llywodraeth Cymru wrthod cynllun 拢1.6bn i adeiladu ffordd liniaru'r M4 ger Casnewydd.
Mae Arglwydd Burns yn arwain Comisiwn yn sgil y penderfyniad, ac mae eisoes wedi dweud bod angen mwy o fuddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus, er mwyn atal y tagfeydd ar yr M4 yn y de-ddwyrain.
'Newid sylweddol'
Mewn datganiad ysgrifenedig yn cyhoeddi'r adolygiad dywedodd Mr Skates: "Mae'n rhaid i ni wneud pob dim posib i ddad-garboneiddio ein rhwydwaith trafnidiaeth, gwella ansawdd yr aer, a lleihau tagfeydd.
"Bydd cyflawni hyn yn helpu ein hamgylchedd, economi a chymdeithas.
"Mae buddsoddi mewn ac annog trafnidiaeth gyhoeddus a theithio actif yn allweddol er mwyn annog pobl i deithio yn llai aml mewn ceir.
"Serch hynny mae'n bosib bydd angen mesurau i reoli galw er mwyn sicrhau bod newid sylweddol yn digwydd - gan symud o'r ffyrdd i fodel trafnidiaeth fwy cynaliadwy.
"Oherwydd hyn rydw i wedi comisiynu adolygiad annibynnol i'r manteision a'r heriau o ddulliau rheoli galw, fel taliadau, ar gyfer defnyddwyr ffyrdd."
Yn 么l Llywodraeth Cymru mae'r adolygiad yn ymchwil cychwynnol, wedi ei gynllunio i arwain at waith mwy manwl.