Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Rhaid i bobl wybod bod y cofnod o'r haint yn ddibynadwy'
"Rhaid i bobl wybod bod y cofnod o farwolaethau o haint coronafeirws yn gwbl ddibynadwy," medd y Prif Weinidog Mark Drakeford.
Dywed ei fod yn disgwyl adroddiad pam bod tan-gofnodi wedi digwydd ar ei ddesg fore Llun.
Cafodd ymchwiliad ei gynnal wedi iddi ddod i'r amlwg bod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ddim wedi rhoi adroddiad ar eu ffigyrau dyddiol am fis cyfan.
Yn y cyfamser dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Sul bod 14 yn rhagor o bobl wedi marw o'r haint yng Nghymru gan ddod 芒'r cyfanswm i 788 ac mae nifer yr achosion newydd i fyny 178.
Mae cyfanswm yr achosion bellach yn 9,078 ond mae'r nifer yn debygol o fod yn uwch gan nad yw pobl heb symptomau yn cael eu profi.
Ar raglen Politics Wales y 大象传媒 hefyd amddifynnodd Mark Drakeford yr oedi mewn lansio system bwcio profion coronafeirws ar-lein ar gyfer gweithwyr allweddol.
Dywedodd bod "systemau" eraill yn mynd i fod ar gael i gynyddu profion ar gyfer gweithwyr allweddol a byddai'r nifer yn codi yr wythnos hon o 1,300 prawf y dydd i 1,800.
Mae pryderon wedi'u mynegi am y ffordd y mae marwolaethau o'r haint yn cael eu cofnodi yng ngogledd Cymru.
Ddydd Iau, fe wnaeth bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ddweud bod 84 marwolaeth wedi digwydd ar draws y gogledd rhwng 20 Mawrth a 22 Ebrill gan greu y naid ddyddiol fwyaf yn y ffigyrau.
Dywedodd y bwrdd iechyd bod oedi wedi bod oherwydd materion yn ymwneud 芒'r system gofnodi.
Mae'r gwrthbleidiau wedi beirniadu'r diffyg ac wedi gofyn am eglurhad.
- LLIF BYW: Y newyddion diweddaraf ar 24 Ebrill
- CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
- AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
- IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
- DYSGU: Sut i gadw'r plant yn brysur gartref
Ychwanegodd Mr Drakeford: "Mae gweinidogion a'r cyhoedd angen gwybod bod y ffigyrau dyddiol sy'n cael eu cyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru cyn gywired ac y gallant fod.
"Rwyf wedi gofyn am adroddiad a fydd ar fy nesg yfory [ddydd Llun] fel bod modd sicrhau cywiro unrhyw ddiffyg."
Wrth gyfeirio at y camau a fydd yn cael eu cymryd i lacio'r cyfyngiadau dywedodd Mr Drakeford mai'r hyn sy'n bwysig yw gweld beth y gellid ei wneud gyntaf gyda gweddill y DU er mwyn rhoi mwy o ryddid i bobl - ond sicrhau ar yr un pryd fod hynny'n digwydd yn raddol ac yn ddiogel.
Wrth gyfeirio at gyfarpar amddiffyn PPE dywedodd Shavannah Taj o TUC Cymru bod ei hundeb wedi clywed straeon ofnadwy am bobl yn defnyddio sachau bin pan nad oes cyfarpar PPE ar gael.
Nododd hefyd bod un gweithiwr gofal wedi cael cyngor i ailddefnyddio masg wyneb ar gyfer pob claf a'i gadw mewn bach plastig ar gyfer brechdanau pan nad oedd ei angen.
Ond dywedodd Mr Drakeford ei fod yn hyderus bod digon o gyfarpar PPE ar gael "tan wythnos nesaf".