Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Covid-19: Gweinidog yn wfftio cynllun am 36,000 prawf y dydd
Mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi chwarae i lawr amcangyfrifon mewn adroddiad am y nifer o brofion fydd eu hangen i dracio ac olrhain coronafeirws.
Mae'r cynllun drafft yn nodi y bydd angen cymaint ag 36,000 o brofion.
Ond fe ddywedodd Vaughan Gething nad oedd y niferoedd yn "derfynol".
"Nid hwn yw'r cynllun cenedlaethol sydd wedi'i gadarnhau," meddai.
Ychwanegodd y gall Cymru fod angen llai na 9,000 o brofion os ydyn nhw'n mabwysiadu'r cynllun Albanaidd yma.
'Adroddiad yn ddrafft'
Mae Llywodraeth Cymru, a gomisiynodd yr adroddiad, yn cynllunio system o olrhain achosion o coronafeirws felly y gall heintiau gael ei hynysu, ac y gall cyfyngiadau yng Nghymru gael eu llacio.
Wedi ei ysgrifennu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'n amlinellu'r amcangyfrifon am y nifer o brofion fydd eu hangen.
Mae'n dweud y bydd angen rhwng 33,000 a 36,000 prawf y dydd i gael diagnosis i gleifion ysbyty sy'n dangos symptomau, aelodau o'r cyhoedd sydd yn dangos symptomau ac i gyrraedd y nod at y polisi o brofi mewn cartrefi gofal.
Mae'r ddogfen hefyd yn amcangyfrif galw o 3,000-7,000 sampl yr wythnos i brofi gweithwyr allweddol sydd yn dangos symptomau.
Dywed yr adroddiad y bydd angen cadw trac ac olrhain y feirws i barhau tan o leiaf diwedd 2020.
Credir mai 2,100 o brofion y dydd yw'r gallu presennol. Gohiriwyd targed blaenorol o 9,000 o brofion y dydd erbyn diwedd Ebrill.
Mynnodd Vaughan Gething mai drafft oedd yr adroddiad, ond fe ddaeth beirniadaeth o gyfeiriad Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr.
Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried defnyddio ap Llywodraeth y DU, sydd yn cael ei dreialu ar hyn o bryd ar Ynys Wyth.
- CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
- AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
- IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
- DYSGU: Sut i gadw'r plant yn brysur gartref
Ond maen nhw eisiau sicrwydd yngl欧n 芒 phreifatrwydd a'r defnydd o'r data cyn ymrwymo ac fe ddywedodd Mr Gething ei fod wedi mynegi pryder am sut y byddai'r ap yn defnyddio'r data.
Yn 么l y cynllun drafft, fel mae pethau yn sefyll mae holl brofion coronafeirws yn cael eu dadansoddi "o fewn labordy meicrobioleg Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Ysbyty Athrofaol Cymru" yng Nghaerdydd.
Mae'r ddogfen yn galw am ddatblygu "cyfleuster canolog i brofi Covid-19" ac ehangu'r gallu i brofi mewn labordai rhanbarthol Iechyd Cyhoeddus Cymru yng ngogledd Cymru ac Abertawe.