Heb arholiadau ysgol, sut beth yw bywyd y disgyblion?

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Fel arfer yr wythnos hon byddai neuaddau ar draws y wlad yn llawn disgyblion

Yr wythnos hon dylai disgyblion fod yn sefyll eu harholiadau Safon Uwch.

Ond daeth Covid-19 a newid y drefn, gan olygu bod ysgolion wedi gorfod cau.

Sut mae bywyd wedi newid i'r bobl ifanc?

Dyma brofiad rhai ohonyn nhw.

Stori Manon

Disgrifiad o'r llun, Mae Manon Roberts yn gobeithio astudio meddygaeth yn y brifysgol

Mae Manon Roberts yn 17 oed ac ym mlwyddyn 12 yn Ysgol Plasmawr yng Nghaerdydd.

Ei gobaith yw mynd i astudio meddygaeth yn y brifysgol, ond ers y pandemig mae wedi bod yn gweithio fel glanhawraig yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd. Daeth o hyd i'r swydd wedi i ffrind ddweud wrthi am hysbyseb ar Facebook.

Doedd hi ddim yn si诺r beth i ddisgwyl cyn dechrau, ond mae'n mwynhau'r gwaith.

"Dwi ddim wedi gweld unrhyw un sydd yn dioddef o'r feirws eto ond falle fydda' i yn y dyfodol," meddai.

"Dwi'n siarad gyda lot o gleifion sydd yn aml yn teimlo yn eithaf unig ar hyn o bryd, yn enwedig gyda'r polis茂au newydd am bobl yn ymweld, a theuluoedd methu dod i weld nhw."

Ffynhonnell y llun, Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Manon bod gweithio yn yr ysbyty yn waith boddhaus

Mae'n gyfrifol am lanhau coridorau a wardiau ac yn gorfod gwisgo rhywfaint o offer amddiffyn lle nad oes cleifion 芒 Covid-19.

"Mae pob modfedd o'n corff ni yn gorfod cael ei orchuddio gyda rhyw fath o offer amddiffyn," meddai gan ddweud eu bod wedi cael hyfforddiant llawn i'w gwisgo'n ddiogel.

"Mae'n cymryd cymaint o amser i roi ymlaen a cymaint o amser i gymryd off. Chi'n gorfod golchi dwylo rhwng bob eitem o ddillad chi'n cymryd bant. Ond mae'n rhaid 'neud e."

Ffynhonnell y llun, Manon Roberts

Disgrifiad o'r llun, Mae Manon wedi cael ei hyfforddi ar bwysigrwydd offer diogelwch personol

Mae Manon yn teimlo ansicrwydd mawr am ei breuddwyd o astudio meddygaeth. Dydi hi ddim yn glir o hyd pryd fydd yr ysgolion yn ailagor. Ond mae'n cysuro ei hun am fod pawb "yn yr un cwch".

"Mae'n amser newydd i ni gyd, yn athrawon a disgyblion so mae'n rhaid i ni jest dyfalbarhau," meddai.

Ers cychwyn y gwaith mae wedi gwneud ffrindiau newydd ac yn dweud ei bod yn teimlo'n lwcus ei bod yn medru gweld pobl bob dydd.

Mae helpu mewn rhyw ffordd yn bwysig iddi, meddai.

"O'n i yn teimlo yn eithaf rhwystredig gartref ddim yn gwneud dim byd. O'n i'n gwylio'r newyddion a gweld erchyllterau'r clefyd yma ym mhobman. O'n i eisiau helpu."

Stori Callum

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Callum McGuinness fod "y gymuned mor ddiolchgar" o'u gwaith yn y becws

Erbyn hyn mae Callum McGuinness, 18, yn gweithio pum diwrnod yr wythnos ym mecws Pettigrew yn Nhreganna, Caerdydd.

Mae'r oriau'n hir ond mae e'n mwynhau.

"Ni'n gweld pobl yn dod mewn ac maen nhw wir yn gwerthfawrogi'r gwaith ni'n 'neud," meddai.

"Maen nhw yn dweud diolch wrth y drws bob tro. Mae hyn yn 'neud i fi a'r t卯m deimlo fel bod lot mwy o bwrpas gweithio.

"Yn lle jest gweithio er mwyn cael ein talu ni'n mwynhau gweithio gan fod y gymuned mor ddiolchgar."

'Stress' cau ysgol

Roedd Callum fod i wneud ei arholiad Safon Uwch Addysg Gorfforol yr wythnos hon, a dyma mae'n gobeithio astudio yn y brifysgol.

Dywedodd fod y cyfnod cyn i'r ysgol gau yn un anodd.

"O'dd y pythefnos olaf yn yr ysgol yn rhywbeth fi byth mo'yn profi byth eto achos o'dd 'na gymaint o stress gyda'r athrawon, gyda'r disgyblion, a doedd neb yn sicr beth oedd yn mynd i ddigwydd."

Disgrifiad o'r llun, Mae Callum yn bwriadu gweithio am flwyddyn yn lle mynd i'r brifysgol yn syth

Hyd yn oed ar 么l dod i wybod y byddai'r graddau yn cael eu penderfynu ar sail rhai darogan roedd ansicrwydd o hyd, meddai.

"Pwy oedd yn mynd i gael pa raddau, pa waith, pa dystiolaeth o'n nhw mynd i gymryd i 'neud e? O'dd 'na rush jest i orffen cymaint o waith 芒 phosib yn y ddau ddiwrnod olaf yn yr ysgol."

Mae Callum yn bwriadu gweithio am flwyddyn yn lle mynd i'r brifysgol yn syth, ac mae'n dweud efallai y bydd eraill yn gwneud yr un peth os nad ydyn nhw yn cael y graddau maen nhw angen neu am nad ydyn nhw'n gallu mynd i deithio yn sgil y feirws.

"Fi'n credu bod lot o bobl ifanc yn yr un sefyllfa 芒 fi, lle efallai bydd yn well cymryd blwyddyn allan yn lle mynd i'r brifysgol yn syth."