Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Covid: Starmer yn galw am undod rhwng gwledydd y DU
Dyw'r gwahanol ymateb i Covid-19 oddi wrth pedair gwlad y DU "ddim yn mynd i helpu datrys" argyfwng corofeirws, yn 么l Syr Keir Starmer.
Mae'r arweinydd Llafur yn rhoi'r bai ar brif weinidog y DU Boris Johnson am y sefyllfa sydd wedi gweld gwahaniaethau yn datblygu rhwng llywodraethau Cymru a'r DU yngl欧n 芒 llacio cyfyngiadau.
Ond yn 么l Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart AS, mae "yna lawer yn fwy yn debyg nag sydd yna o wahaniaethau yn y modd mae gwahanol wledydd y DU yn gweithredu."
Dywedodd Syr Keir hefyd fod ei alwad am "ffederaliaeth radicalaidd" led led y DU wedi ei "atgyfnerthu" yn ystod cyfnod y pandemig.
Yn ystod y ras ar gyfer arweinyddiaeth Llafur, roedd Sir Keir wedi dweud mai'r ffordd ymlaen oedd i ddaganoli mwy o bwerau i Senedd Cymru gan ddod 芒 "pwerau yn agosach i'r bobl."
Ar raglen Politics Wales 大象传媒 Cymru cafodd yr arweinydd llafur ei holi a fyddai undod y DU yn wannach wedi'r pademig.
Dywedodd: "Rwy'n gobeithio y byddant yn fwy cryf, oherwydd rwy'n credu fod yna deimlad anhygoel o undod wedi bod led led y DU. "
Ond dywedodd y gallai'r berthynas rhwng Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon gael ei "roi dan straen" pe bai mwy o wahaniaethau yn ymddangos yn y modd mae'r gwahanol lywodraethau yn ymateb i'r haint.
"Yn fras, y cynharaf rydym yn dod yn 么l at bedair gwlad sy'n gweithio gyda'n gilydd, y gorau.
"Oherwydd dw i ddim yn credu fod cael gwahanol ymateb mewn gwahanol rannau'r o'r DU yn mynd i'n helpu datrys yr argyfwng.
"Rwy'n credu fod y cyfrifoldeb am hynny yn bennaf gyda'r Prif Weinidog (y DU)".
Ychwanegodd ei fod o'r farn y dylai Mr Johnson fod wedi ystyried y gwahanol oblygiadau cyn gwneud ei araith nos Sul diwethaf.
Yn ei ddarledidad cyhoeddus nos Sul fe wnaeth Mr Johnson gyhoeddi y gallai pobl yn Lloegr yrru "i wahanol lefydd" er mwyn hamddena.
Yng Nghymru dyw pobl ddim yn cael teithio o'u cartrefi er mwyn ymarfer corff.
Mae prif weinidog Cymru Mark Drakeford wedi dweud nad oedd yna ymgynghorid gydag ef cyn i Lywodraeth y DU newid eu slogan o "Arhoswch gartref" i "Byddwch yn wyliadwrus"
Dyw'r neges heb ei newid yng Nghymru.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Simon Hart: "Ni alla'r un rhan o'r DU wynebu y pandeig hwn ar ben ei hunain, ac mae llywodraeth y DU wedi rhoi cefnogaeth ddigynsail i bob rhan o'r DU.
"Fe wnaethom ddod i'r frwydr hon fel Deyrnas Unedig, a byddwn yn ei diweddu'r un mor unedig."
- CANLLAW: Beth yw'r newidiadau i'r cyfyngiadau?
- AMSERLEN: Llinell amser coronafeirws yng Nghymru
- IECHYD MEDDWL: Claf cyntaf Cymru'n annog positifrwydd
- DYSGU: Beth yw'r problemau wrth ailagor ysgolion?