大象传媒

Dyfodol ansicr i berchnogion llety gwely a brecwast

  • Cyhoeddwyd
Mair's B&BFfynhonnell y llun, Mair's B&B/Booking.com
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Mair's B&B yn un o'r llefydd sydd wedi dioddef yn sgil y pandemig

Mae nifer o berchnogion llety gwely a brecwast yn dweud bod eu dyfodol yn ansicr am nad ydyn nhw wedi gallu derbyn yr un lefel o grantiau sydd ar gael i fusnesau bach tebyg mewn rhannau eraill o Gymru a'r DU.

Fe gafodd cynllun grantiau 'top-up' ei sefydlu i gynorthwyo busnesau bach oherwydd y pandemig coronafeirws.

Ond dyw'r cynllun ddim ar gael yng Nghymru onibai bod cwmniau'n talu trethi busnes.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod wedi cyhoeddi canllawiau newydd er mwyn egluro pa feini prawf sy'n angenrheidiol er mwyn ceisio am y grant.

Pryder ail gartrefi

Ond mae 'na bryderon y gallai perchnogion ail gartrefi gael taliadau, ac y gallai hynny ei gwneud yn anoddach i rai perchnogion busnesau gwely a brecwast i gael cymorth ariannol.

"Fedrwch chi ddim trin un busnes un ffordd ac yna trin busnes arall mewn ffordd wahanol," meddai Brian Thomas sy'n rhedeg llety ym mhentre' Dinas ym Mhen Ll欧n.

"Nid dim ond ni sy'n cwyno... rwy'n gwybod bod miloedd ohonom ni yn yr un cwch."

Ychwanegodd y byddai'n hoffi gweld y rheolau yn newid fel yn Lloegr, lle mae gan fusnesau gwely a brecwast sy'n talu trethi domestig yr un hawl am gymorth 芒'r rhai sy'n talu trethi busnes.

Mae gwraig Mr Thomas wedi cael cymorth fel rhan o gynllun seibiant cyflog Llywodraeth y DU i dalu 80% o'i chyflog arferol.

Ond dywedodd bod hynny'n debygol o ddod i ben yn yr haf, ac nad yw hi'n ymddangos y bydd modd ailagor y busnes cyn mis Medi.

"Tan y bydd brechlyn ar gael, dydw i ddim yn credu y bydd yn ddiogel i redeg busnes bach fel hyn lle mae pobl yn aros o dan yr un to... dydych chi ddim yn gwybod os ydyn nhw'n cario'r haint, a dydyn nhw ddim yn gwybod os ydych chi," medd Mr Thomas.

"Rhaid i ni wynebu'r posibilrwydd y bydd rhaid gwerthu'r busnes.

"Dyma'n bara menyn ni, ond fedrwn ni ddim ei gynnal... mae hynny'n ymddangos mor annheg o gymharu 芒 rhai o'r pethau y mae eraill yn ei dderbyn."

'Pobl eraill yn elwa ond nid ni'

Mae Huw Tudur yn rhedeg busnes gwely a brecwast ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

"Mae hi wedi bod yn eithriadol o anodd, does dim cymorth wedi dod i law," meddai wrth raglen y Post Cyntaf ar Radio Cymru.

"Ni wedi colli 拢28,000 yn barod o bookings na allwn ni hawlio yn 么l a dydy hynny ddim yn cynnwys yr hyn y gallwn ni gael oddi ar y stryd, y cerddwyr, y twristiaid, y part茂on, y priodasau ac yn y blaen.

"Dwi wedi bod drwy bob linc gan fy nghyfrifydd ond does dim byd allan yna i bobl fel ni. Oherwydd ein bod ni yn gwmni, yn fusnes teuluol yn cyflogi neb yn benodol, achos bod dim furlough, dim trethi VAT, does gen i hawl i ddim ar hyn o bryd."

Ffynhonnell y llun, Mair's B&B/Booking.com
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Huw Tudur yn rhedeg Mair's B&B ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Ychwanegodd: "Yn anffodus, rydym ni yn gweld busnesau tebyg o'n cwmpas ni, sy'n debyg i ni ond sydd ddim yn rhoi cymaint yn elwa er nad ydyn nhw'n rhoi cymaint yn 么l i'r economi, oherwydd pan mae'r gwely a brecwast yn llawn mae'r bariau, y bwytai, y siopau, y tacsis a'r trenau i gyd yn cael arian o ganlyniad i bobl yn aros gyda ni."

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn ariannu'r cynllun cefnogaeth fwyaf hael i fusnesau yn y DU.

"Rydym yn parhau i drafod gyda'n partneriaid am sut i ddefnyddio'r cyllid sy'n weddill i gefnogi'r rhai mewn angen, gan gynnwys busnesau nad ydym wedi llwyddo i gyrraedd hyd yma."