大象传媒

Ap锚l gan gymunedau gwledig mewn cyfnod o ansicrwydd

  • Cyhoeddwyd
Garry Williams
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Garry Williams ar ei fferm yn Sir Gaerfyrddin

"Peidiwch anghofio amdanon ni" - dyna'r ap锚l gan bobl sy'n byw a gweithio mewn cymunedau gwledig.

Daw hyn yn sgil rhybuddion bod economi cefn gwlad yn debygol o gael ei heffeithio waethaf gan y pandemig coronafeirws.

Mae'r undebau amaethyddol yn galw am fwy o gymorth gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus i gymunedau cefn gwlad.

Amaethu ac arallgyfeirio

Mae Garry Williams yn ffermio defaid yng nghysgod y Mynydd Du ar fferm Blaencennen ger Gwynfe yn Sir G芒r. Mae hefyd wedi arallgyfeirio i'r diwydiant twristiaeth ac yn cynnig llety hunan-ddarpar mewn adeiladau wedi eu troi yn fythynnod gwyliau.

Roedd yn golygu buddsoddiad o 拢350,000 ond y bwriad oedd ceisio sicrhau incwm mewn ardal anghysbell iddo fe a'i deulu.

Ond mae'r busnes ar gau oherwydd y cyfyngiadau presennol ac mae'n cyfaddef eu bod wedi colli miloedd o bunnoedd.

Mae 'na bryder hefyd am golli tymor yr haf - y cyfnod prysuraf i'r busnes lletygarwch.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Un o fythynnod gwyliau Garry Williams - ffrwd incwm sydd wedi dod i stop ers y pandemig

"Ni ar gau - ac i fod yn onest, s'dim problem gen i gyda hynny, ond ni ddim yn gwybod ble ni'n sefyll trwy'r haf - s'dim incwm gyda ni.

"Nethon ni golli tua 拢5,000 dim ond yn mis Ebrill ac mae dal morgais i dalu. Mas fan hyn y wlad, ma amaeth a twristiaeth - dyna be sydd fwya' pwysig.

"Neges fi i'r llywodraeth - ma' nhw angen cefnogi ni a peidio anghofio am gefn gwlad, peidio anghofio amaeth - heb amaeth a twristiaeth, s'dim byd gyda ni. Ma'r ddau mor bwysig i gefn gwlad Cymru."

Roedd nifer o fusnesau gwledig yn barod yn wynebu ansicrwydd ariannol sylweddol - wrth ychwanegu at hynny mae pryderon am Brexit, prisiau isel am gynnyrch bwyd a thywydd garw, gan gynnwys llifogydd gwael - mae yna ddadl y bydd effaith economaidd y pandemig yn bwrw yn galetach mewn cymunedau gwledig ac y bydd unrhyw adfywio economaidd yn cymryd yn hirach.

Dyfodol ansicr

Yn adroddiad Sefydliad Bevan yr wythnos hon, sy'n edrych ar effaith y pandemig ar economi Cymru, roedd darogan y bydd ardaloedd gwledig yn ogystal 芒 rhannau o gymoedd y de yn dioddef waethaf - ac yn tanlinellu bod y nifer fwyaf o fusnesau sydd wedi gorfod cau oherwydd y cyfyngiadau presennol, mewn ardaloedd gwledig.

Mae'r undebau amaethyddol yn galw ar y llywodraethau yng Nghaerdydd ac yn San Steffan i sicrhau bod cymunedau gwledig yn derbyn cymorth ariannol.

Maen nhw'n dweud nad yw nifer o fusnesau gwledig yn gymwys ar gyfer y Gronfa Cadernid Economaidd [Economic Resilience Fund].

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dylan Morgan o NFU Cymru

Er enghraifft, nid yw ffarmwr sydd wedi arallgyfeirio'r busnes yn gyfan gwbl i ffwrdd o amaeth yn gallu gwneud cais am gymorth.

Dylan Morgan yw pennaeth polisi NFU Cymru: "Ar hyn o bryd nid yw ffermwyr sy'n cynhyrchu bwyd yn gymwys i gael unrhyw help trwy'r grantiau wedi eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

"Ni'n gobeithio byddan nhw'n ail edrych ar hyn a ni wedi gofyn i Ken Skates, Gweinidog yr Economi i ail-edrych ar y peth. Ni jyst ishe cael sefydlogrwydd."

Cais am gymorth

Mae ffigurau gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod bron i 10,000 o fusnesau wedi gwneud cais am gymorth o'r Gronfa Cadernid Economaidd erbyn 11 Mai eleni.

Roedd hyn yn cynnwys bron i 7000 o 'feicro-fusnesau' sy'n niferus mewn ardaloedd gwledig. Mae'r galw mor uchel am gymorth, nes bod y broses wedi gorfod cael ei gohirio.

Mae 大象传媒 Cymru wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Golygfa tua'r Mynydd Du o fferm Garry Williams ger Gwynfe

Ond mae yna le am obaith hefyd - mae Dr Wyn Morris yn darlithio yn Ysgol Fusnes Prifysgol Aberystwyth - mae'n e'n teimlo y bydd cyfleoedd yn codi ar gyfer busnesau gwledig.

"Yr ansicrwydd yw'r pryder mwyaf, ond be ni wedi dysgu o hyn yw'r elfen o gyd-weithio - pwysigrwydd cymdeithas, dod at ein gilydd mwy a falle bod yna werthfawrogiad o wasanaethau lleol a bwyd lleol - felly ma hwnna yn elfen bwysig bydd rhaid i ni gefnogi yn y dyfodol.

"Ond dwi yn pryderu faint o fusnesau fydd ar 么l, faint bydd yn ail-ddechrau ar 么l y cyfnod yma".