Rosie yn cipio gwobr Prif Ddysgwr Eisteddfod T

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru

Disgrifiad o'r llun, Mae Rosie Jones yn gobeithio dysgu ieithoedd dramor mewn ysgol Gymraeg yn y dyfodol

Disgybl chweched dosbarth o Gaerdydd yw enillydd gwobr Prif Ddysgwr Eisteddfod T, sef prifwyl ddigidol yr Urdd yn niffyg digwyddiad torfol eleni.

Mae Rosina Catrin Jones, 18, sy'n cael ei nabod fel Rosie, yn ddisgybl Blwyddyn 13 yn Ysgol Uwchradd Caerdydd.

Roedd ei chais yn cyfeirio at ei chariad at eiriau a phwysigrwydd cynnal cysylltiadau yn nyddiau heriol yr argyfwng coronafeirws.

Dywedodd y beirniad, y gyflwynwraig Nia Parry: "Wrth wylio fideo Rosie, mi wnes i golli deigryn."

"Mi wnaeth ei neges gyffwrdd fy nghalon. Roeddwn yn gallu uniaethu gyda'r hyn roedd hi'n ei ddweud am "eiriau yn ei hudo".

Ychwanegodd: "Mae hi'n ein hannog i ddefnyddio 'geiriau' i gofnodi a rhannu ein teimladau yn y cyfnod yma - i ddweud wrth bobl ein bod ni'n eu caru nhw ac i ddiolch i bobl.

"Mae gweld person ifanc fel Rosie yn dysgu'r iaith i'r fath safon a'i chlywed yn s么n am fel mae hi'n caru'r Gymraeg a'n hanes a'n diwylliant ni wedi rhoi gobaith a phleser i mi."

Mae Rosie yn ymddiddori mewn ieithoedd yn gyffredinol ac yn ymarfer ei Chymraeg gyda'i thaid sy'n deall ychydig o Gymraeg a gyda'i ffrindiau ar-lein.

Yn y pen draw mae hi'n gobeithio bod yn athrawes ieithoedd tramor mewn ysgol Gymraeg.

"Hoffwn i astudio Ffrangeg ac Almaeneg ym mhrifysgol Bryste," meddai, "ond nawr 'dw i eisiau cymryd blwyddyn i ffwrdd llawn o ieithoedd, ysgrifennu, canu'r piano a git芒r, ioga a dringo os dw i'n gallu!"

Mae Rosie hefyd yn rhan o gr诺p sy'n helpu'r gymuned yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Luke Parfitt oedd yn ail yn y gystadleuaeth a Niomie Griffiths yn drydydd - y ddau'n ddisgyblion Ysgol Gyfun Aberpennar.

Roedd y tri chystadleuydd terfynol wedi ymuno 芒'r cyhoeddiad ar sgriniau o'u cartrefi wrth i Nia Parry gyhoeddi canlyniad y gystadleuaeth ar S4C a 大象传媒 Radio Cymru.