Galw am gyflymu canlyniadau profion cartrefi gofal

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae rheolwr sy'n gyfrifol am ddwsin o gartrefi gofal ar draws de Cymru yn galw am gyflymu'r gwaith o brosesu canlyniadau profion Covid-19.

Mae Matthew Jones, o gwmni Caron Group Care Homes, yn awyddus hefyd i weld mwy o brofion yn cael eu cwblhau o fewn y sector.

Yn 么l Iechyd Cyhoeddus Cymru mae tua 80% o brofion Cymru'n gysylltiedig 芒'r sector gofal.

Mae Llywodraeth Cymru'n addo prosesu'r rhan fwyaf o brofion o fewn tridiau.

'Profi, profi, profi'

Dywedodd Mr Jones wrth raglen Newyddion fod sicrhau profion yn haws erbyn hyn, ond mae'r oedi cyn derbyn canlyniadau'n achosi trafferthion a straen i staff a phreswylwyr.

Pan ofynnwyd beth oedd ei neges i Lywodraeth Cymru, atebodd Mr Jones: "Profi, profi a profi."

"Tydi unwaith y mis ddim digon, tydi unwaith yr wythnos ddim digon.

"Rhaid i ni brofi bron iawn bob dydd i 'neud si诺r bod ni'n edrych ar 么l y preswylwyr - dim jyst y preswylwyr sydd gyda Covid-19 ond y preswylwyr eraill sy'n byw yn y cartref gofal.

"Mae'n rhaid i ni 'neud yn si诺r bod nhw'n saff hefyd."

Disgrifiad o'r llun, Staff a phreswylydd cartref gofal Caron yng Nghaerdydd

Ychwanegodd fod y sefyllfa wedi "dechrau gwella".

"Mae'r cartrefi nawr yn gallu ca'l y profion yn reit sydyn, ond dydy y results ddim yn dod yn 么l am hir iawn, a ma' hynny'n gallu ca'l effaith mawr ar y staff ac ar y preswylwyr."

Er gwaethaf mesurau llym o fewn cartrefi gofal Caron, mae nifer o breswylwyr un o'u cartrefi, ym Mlaenau Gwent, wedi marw ar 么l cael coronafeirws.

"Mae wedi bod yn reit trawmatig," meddai Mr Jones.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ar draws Cymru, mae tua 89% o'r holl samplau prawf Covid-19 yn cael eu prosesu o fewn 48 awr a bron 96% yn cael eu prosesu erbyn 72 awr.

"Rydym yn gweithio gydag ein partneriaid yn Iechyd Cyhoeddus Cymru i gyflymu hysbysu canlyniadau profion."

Ychwanegodd: "Mae pob preswylydd ac aelod staff cartrefi gofal nawr yn gymwys i gael prawf, ac mae unedau profi symudol nawr ar waith ar draws Cymru i sicrhau fod hynny'n digwydd yn gyflymach."

Pwysau enfawr

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod yn "cydnabod y pwysau enfawr y mae staff cartrefi gofal yn eu hwynebu".

Ychwanegodd llefarydd: "Rydym yn cydnabod y gall yr amser y mae'n ei gymryd i gael canlyniadau profion coronafeirws fod yn rhwystredig, ond nid yw unrhyw oedi rhag derbyn canlyniadau profion yn effeithio ar y ffordd yr ydym yn ymateb i achosion mewn cartrefi gofal."