Ffrae wedi i gyngor hawlio n么l grant busnes Covid-19

Ffynhonnell y llun, Llun gwneud

Disgrifiad o'r llun, Mae perchennog Jackpot Amusements, Andrew Deakin, yn dweud na fydd yn gallu talu grant Covid-19 n么l
  • Awdur, Craig Duggan
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

Bedwar mis ar 么l i arc锚d hap-chwarae gael grant o 拢25,000 o bunnau - mae cynrychiolwyr y diwydiant yn dweud na ddylai'r ganolfan orfod talu'r arian n么l.

Mae Cyngor Ceredigion wedi dweud eu bod wedi rhoi grant Covid-19 i Jackpot Amusements yn Aberystwyth ar gamgymeriad, ac y dylai'r swm cyfan gael ei dalu n么l.

Ond mae'r corff sy'n cynrychioli canolfannau peiriannau hap chwarae, Bacta, yn pwyso ar y Prif Weinidog i ymyrryd gan ddweud bod sawl cyngor wedi darparu grantiau i gwmn茂au tebyg.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y camgymeriad yn un i Gyngor Ceredigion i'w ddatrys.

Fe gafodd Andrew Deakin - sy'n berchen ar Jackpot Amusements - grant o 拢25,000 ym mis Ebrill i'w helpu trwy'r cyfnod clo.

Ond nawr mae Cyngor Ceredigion wedi dweud na ddylai fod wedi derbyn y grant ac y dylai gael ei ad-dalu'n llawn. Mae'r Cyngor wedi rhoi wythnos i Mr Deakin wneud hynny ac yn disgwyl yr arian erbyn ddydd Mercher 22 Gorffennaf.

Dywedodd Mr Deakin: "Alla i ddim talu'r grant yn 么l oherwydd dwi wedi gwario llawer ohono. Er ein bod wedi cau ar hyn o bryd, mae biliau i'w talu o hyd ac mae'r grant wedi bod yn achubiaeth i helpu gyda hynny. Dw i ddim wedi cael unrhyw incwm ers mis Mawrth felly mae'r grant wedi bod yn help enfawr.

"Anfonodd y Cyngor e-bost ata i ym mis Mehefin i ddweud bod y grant wedi'i roi i fi trwy gamgymeriad ac y dylai gael ei ddychwelyd. Nawr dw i wedi derbyn anfoneb ac mae'r cyngor wedi rhoi saith diwrnod imi dalu'r 拢25,000 llawn yn 么l. Ond alla i ddim fforddio ei wneud."

Mae Jackpot Amusements yn cyflogi chwech o bobl yn Ffordd y M么r yng nghanol tref Aberystwyth. Bu'n rhaid iddo gau ar ddechrau'r cyfnod clo, a hyd yn hyn - fel arc锚ds eraill - dyw e ddim wedi cael dyddiad pryd y bydd yn cael ailagor.

Pwy sy'n gymwys am grant?

Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon mae'r canllawiau ar gyfer rhoi grantiau cymorth Covid-19 i'r sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch yn caniat谩u cefnogi arc锚ds peiriannau chwarae.

Yn Lloegr galwodd y Gynghrair Twristiaeth ar awdurdodau lleol i ystyried busnesau oedd heb gael eu crybwyll yn benodol yn y canllawiau, gan gynnwys arc锚dau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yng Nghymru mae'n ymddangos bod gan gynghorau fwy o ryddid wrth benderfynu pa fusnesau ddylai fod yn gymwys. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn dweud y dylai casinos, swyddfeydd betio a chlybiau gamblo gael eu heithrio.

Mae llawer o gynghorau yng Nghymru wedi darparu grantiau i arc锚dau ar y stryd fawr ac ar lan y m么r, tra bod rhai wedi penderfynu peidio.

Ond mae'r sefyllfa sy'n wynebu Andrew Deakin, lle mae grant wedi'i roi ac wedyn yn cael ei alw yn 么l, yn unigryw.

Cefnogaeth y diwydiant hap-chwarae

Mae Mr Deakin yn cael ei gefnogi gan Bacta - y corff sy'n cynrychioli'r diwydiant arc锚dau peiriannau chwarae ar draws y Deyrnas Gyfunol.

Dywedodd John White, Prif Weithredwr Bacta, "Mae'n warthus - mae'r cyngor lleol yno i gefnogi busnesau lleol a swyddi lleol, ac mae hwn yn fusnes lleol sy'n cyflogi pobl leol.

"Mae pob rhan arall o'r DG yn dyfarnu grantiau i fusnesau sydd yn y sector manwerthu, hamdden a lletygarwch. A dw i ddim yn gwybod sut y gall unrhyw un weld y safle yn Ffordd y M么r a pheidio 芒 dweud ei fod yn rhan o'r sector manwerthu, hamdden a lletygarwch. Mae Andrew yn gwerthu gweithgaredd hamdden i'w gwsmeriaid.

"Sut y gall y Cyngor wneud y datganiad bod yr arc锚dau hyn yn debyg i casino neu siop betio. Oherwydd pe byddech chi'n cerdded i mewn i'r arc锚d ac yna'n mynd i casino ac at bwci, byddech chi'n gweld eu bod nhw'n hollol wahanol.

"Ac os yw hyn yngl欧n a phobl dan ddeunaw yn gamblo, yna pam mae neuaddau bingo yn cael y grant?"

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn dweud y dylai casinos, swyddfeydd betio a chlybiau gamblo gael eu heithrio rhag derbyn grantiau Covid-19

Mae Bacta yn galw ar Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, i sicrhau bod galwad Cyngor Ceredigion am i'r grant gael ei dalu'n 么l yn cael ei wrthdroi.

'Mater i Geredigion'

Dywedodd Llywodraeth Cymru, gan fod yr awdurdod lleol wedi dyfarnu'r grant trwy gamgymeriad, mae'n fater iddyn nhw ei ddatrys.

Mewn datganiad dywedodd Cyngor Ceredigion "Nid yw Cyngor Sir Ceredigion yn cynnig sylwadau ar fanylion achosion unigol. Fodd bynnag, byddwn yn ystyried sylwadau ac yn ymchwilio iddynt fel y bo'n briodol."