Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Eisteddfod 1920: Faint sydd wedi newid mewn 100 mlynedd?
Faint oedd yn wahanol 100 mlynedd yn 么l a beth fyddai eisteddfodwyr 1920 wedi ei feddwl o ddigwyddiadau 2020 a'r Brifwyl wedi ei chanslo oherwydd pandemig dros y byd?
Mae archif ffilm British Path茅 yn dangos yr Archdderwydd Dyfed yn arwain seremoni agor Eisteddfod Genedlaethol 1920 oedd yn cael ei chynnal yn y Barri.
Ar wah芒n i rai o'r gwisgoedd traddodiadol a'r hetiau - ac ambell fwstash go nobl - does dim gymaint 芒 hynny wedi newid o ran y seremoni ei hun.
Tu hwnt i faes yr Eisteddfod, yn 1920 roedd y genedl yn dal i ddod dros colli rhwng 35,000 a 40,000 o ddynion ifanc yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac roedd na ddirwasgiad ar y gorwel.
Doedd bedd Tutenkamun heb ei ddarganfod eto, Iwerddon rydd heb ei sefydlu, mudiad yr Urdd ddim yn bodoli a doedd na ddim teledu na radio Cymraeg.
Beth arall oedd yn digwydd yn y byd ar y pryd?
Prif ddigwyddiadau hanesyddol 1920
- Dechrau'r syniad o'r Drydedd Reich yn Yr Almaen gyda Hitler yn ffurfio baner swastika i'w blaid newydd, Plaid Sosialaidd Genedlaethol Yr Almaen, sef y Blaid Nats茂aidd.
- Pob pwll ar gau wedi i'r glowyr bleidleisio dros streic.
- Lloyd George yn cael problemau oherwydd y penderfyniad i rannu Iwerddon yn ddwy, ac yn ffurfio'r garfan Heddlu Prydeinig Black and Tans i geisio cadw trefn. 'Roedd rhai o'i gefnogwyr yng Nghymru wedi eu siomi ganddo.
- Ffurfio Plaid Gomiwnyddol Prydain. Lenin yn ystyried mai glowyr De Cymru oedd byddin flaen y Chwyldro.
- Sefydlu'r Eglwys yng Nghymru.
- Sefydlu coleg y Brifysgol yn Abertawe.
- Y Cyfrifiad yn dangos fod 56% o bobl Llanddeiniolen yn methu siarad Saesneg.
- 'Doedd neb yn gallu siarad Saesneg ym Modferin, Ll欧n.
- Mwy am Eisteddfod 1920 ar ar wefan archif Canrif o Brifwyl
Yn 么l Alan Llwyd, awdur Canrif o Brifwyl, doedd beirdd yr Eisteddfod Genedlaethol heb eto ymateb yn llawn i'r rhyfel cyn 1920.
"Bu'n rhaid aros hyd Eisteddfod 1921 yng Nghaernarfon i weld bardd yn cyfleu yr holl brofiad o erchylltra, newid byd, siom, colli ffydd a dadrithiad a ddaeth yn sg卯l y Rhyfel pan enillodd y cyn-filwr Cynan y Goron gyda'i bryddest 'Mab y Bwthyn'," meddai ar wefan archif Canrif o Brifwyl 大象传媒 Cymru.
"Yng nghystadleuaeth y Goron yn Y Barri ym 1920 'roedd y testun, 'Trannoeth y Drin', yn gwahodd ymdrinaeth 芒'r Rhyfel a'i effaith, a chyfeiriodd yr enillydd James Evans at y meirw aflonydd,"
"Ond erbyn diwedd y gerdd 'roedd y bardd yn cyfleu optimistiaeth. Ond heddwch anniddig a gafwyd wedi'r drin.
"Hyd yn oed ym 1919, 'roedd cytundeb heddwch Versailles a'i gosb drom ar Yr Almaen yn paratoi'r ffordd ar gyfer rhyfel arall.
"'Roedd Rudderford wedi llwyddo i hollti'r atom, Mussolini wedi sefydlu'r Blaid Ffasgaidd yn Yr Eidal a gwrth-Semitiaeth yn dechrau lledaenu yn Yr Almaen.
"Erbyn Chwefror 1920 'roedd Adolf Hitler ac eraill wedi sefydlu plaid newydd gyda baner newydd, y swastika. Hon oedd y Blaid Nats茂aidd.
"Yng Nghymru daeth Ymreolaeth yn bwnc llosg eto gyda phobl fel E.T. John ac W. Llywelyn Williams, yr Aelod Seneddol dros fwrdeistref Caerfyrddin a Chadeirydd yr Eisteddfod, yn hybu'r ymgyrch yn ei blaen.
"'Roedd ymdeimlad fod angen i Gymru ddechrau o'r dechrau, a rhoi trefn ar ei th欧. Os oedd Cymru i oroesi mewn byd mor beryglus a mympwyol, byddai'n rhaid iddi dorri'n rhydd oddi wrth ymerodraeth a phwerau mawrion. 'Roedd datgysylltu'r Eglwys yn un cam ymlaen i'r cyfeiriad hwnnw."
Amser a ddengys lle bydd 2020 yn sefyll yn hanes yr Eisteddfod Genedlaethol, Cymru a'r byd.
Hefyd o ddiddordeb: