Bu'n rhaid aros hyd Eisteddfod 1921 yng Nghaernarfon i weld bardd yn cyfleu
yr holl brofiad o erchylltra, newid byd, siom, colli ffydd a dadrithiad a
ddaeth yn sg卯l y Rhyfel pan enilliodd y cyn-filwr Cynan y Goron gyda'i bryddest '
Mab y Bwthyn'.
Yng nghystadleuaeth y Goron yn Y Barri ym 1920 'roedd y testun, 'Trannoeth
y Drin', yn gwahodd ymdrinaeth 芒'r Rhyfel a'i effaith, a chyfeiriodd yr
enillydd James Evans at y meirw aflonydd. Ond erbyn diwedd y gerdd 'roedd y
bardd yn cyfleu optimistiaeth. Ond heddwvh anniddig a gafwyd wedi'r drin. Hyd
yn oed ym 1919, 'roedd cytundeb heddwch Versailles a'i gosb drom ar Yr
Almaen yn paratoi'r ffordd ar gyfer Rhyfel arall. 'Roedd Rudderford wedi llwyddo i
hollti'r atom, Mussolini wedi sefydlu'r Blaid Ffasgaidd yn Yr Eidal a gwrth-Semitiaeth yn dechrau lledaenu yn Yr Almaen. Erbyn Chwefror 1920 'roedd Adolf Hitler ac eraill wedi sefydlu plaid newydd gyda baner newydd,
y swastika. Hon oedd y Blaid Nats茂aidd.
Yng Nghymru daeth Ymreolaeth yn bwnc llosg eto gyda phobl fel E.T.John ac
W. Llywelyn Williams, yr Aelod Seneddol dros fwrdeistref Caerfyrddin a
Chadeirydd yr Eisteddfod, yn hybu'r ymgyrch yn ei blaen. 'Roedd ymdeimlad
fod angen i Gymru ddechrau o'r dechrau, a rhoi trefn ar ei thy. Os oedd
Cymru i oroesi mewn byd mor beryglus a mympwyol, byddai'n rhaid iddi dorri'n rhydd oddi wrth ymerodraeth a phwerau mawrion. 'Roedd datgysylltu'r
Eglwys yn un cam ymlaen i'r cyfeiriad hwnnw.
ymlaen...
|