Rygbi Pro14 yn 么l: 'Hir yw pob aros'

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Disgrifiad o'r llun, Barod i fynd: Liam Williams, Nick Tompkins, Josh Adams, Rhys Webb
  • Awdur, Gareth Charles
  • Swydd, Gohebydd Rygbi 大象传媒 Cymru

"Hir pob aros". Ie'r hen gneuen honno fydd yn cael ei hadrodd gan gefnogwyr rygbi Cymru (ac ambell sylwebydd mae'n si诺r!) y penwythnos hwn.

Mae natur y g锚m yn golygu ei bod hi'n anochel y byddai rygbi gyda'r ola o'r campau proffesiynol i ddychwelyd.

Ond o'r diwedd mae'r Pro14 yn dilyn esiampl Seland Newydd, Awstralia a Lloegr.

Efallai mai cyfyngiadau'r Covid oedd wrth wraidd y trefniadau, ond mewn gwirionedd does 'na ddim gwell ffordd o groesawu'r gystadleuaeth n么l na chyfres o gemau darbi - er mor rhyfedd bydd hi i chwarae'r gemau hynny mewn meysydd gwag.

Parc y Scarlets fydd y lleoliad cynta' yng Nghymru i gynnal g锚m o rygbi ers y cyfnod clo.

Ond yn anffodus i'r Scarlets mae cyfyngiadau'r Covid yn golygu mai dim ond dau d卯m o bob adran fydd yn mynd drwodd i'r gemau ail-gyfle yn hytrach na'r tri arferol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Fe gafodd Parc y Scarlets ei droi'n ysbyty yn ystod cyfnod y pandemig

O ganlyniad mae'n rhaid iddyn nhw ennill eu dwy g锚m nhw gyda phwyntiau bonws ac maen nhw angen i Munster gasglu un pwynt yn unig o'u dwy g锚m nhw.

Hyd yn oed yn y dyddiau gwallgo hyn dyw hynny ddim yn mynd i ddigwydd!

Ond gyda g锚m 8-ola Ewropeaidd i ddod yn erbyn Toulon mae'r gemau hyn y hollbwysig ym mharatoadau'r Scarlets sy'n dechrau ar gyfnod newydd arall.

Mae'r Kiwi carismataidd Brad Mooar wedi dychwelyd i feysydd cymharol ddi-Govid Christchurch, gyda'i gyd-wladwr Glenn Delaney yn ceisio cynnal y fflam.

Byddan nhw'n gweld ishe Kiwi arall, Hadleigh Parkes, ond bydd Tyler Morgan a Johnny Williams yn brwydro i lanw'i sgidiau. Mae'r digymar Liam Williams n么l hefyd felly mae'r disgwyliadau mor uchel ag arfer.

Ymarfer yng Ngerddi Soffia

Eu gwrthwynebwyr cynta fydd y Gleision, sydd wedi cael haf tawel.

Mae'u sefyllfa ariannol wedi'i gweld nhw'n gadael eu canolfan yn y Fro a pharatoi yng Ngerddi Soffia a hyd yn oed canolfan les gyhoeddus yn ardal Pentwyn yn y brifddinas.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Disgrifiad o'r llun, Prop Cymru, Dillon Lewis yn rhoi ei dymheredd cyn ymarfer Gleision Caerdydd

Mwy o ergyd na cholli'u cartref ymarfer yw ymddeoliad yr wythwr bytholwyrdd Nick Williams.

Yn ceisio llanw'r bwlch bydd Sam Moore, a gynrychiolodd Loegr dan-20 ond sy'n gobeithio dilyn 么l traed ei dad, Steve a'i ewythr, Andy i d卯m llawn Cymru.

N么l i'w gwreiddiau hefyd daw Rhys Carre a Cory Hill, a gyda Willis Halaholo yn holliach ac ar d芒n i brofi ei fod e'n haeddu'r cam lan i lefel ryngwladol ar 么l anaf anffodus, mae golwg mwy cytbwys ar uned Parc yr Arfau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae'r bytholwyrdd Alun Wyn Jones yn barod am dymor arall wedi misoedd o seibiant

Bydd y Gweilch yn falch i weld diwedd ar dymor gwbwl drychinebus.

Ond bydd yr hyfforddwr hirben newydd, Toby Booth a'i brofiad yng nghynghrair gystadleuol Lloegr yn dod ag agwedd ffres ond bragmataidd i Stadiwm Liberty.

Bydd y saib gorfodol wedi gwneud lles i debyg Alun Wyn Jones a Justin Tipuric sydd ddim yn gwybod sut mae rhoi llai na chant y cant beth bynnag y sefyllfa.

Mae'r mab afradlon Rhys Webb n么l o borfeydd brasach Toulon, ac er nad oedd llo pasgedig i'w gyfarch, mae'n braf gweld un o'r hoff feibion eraill James Hook yn cadw'r cysylltiad teuluol drwy ymuno 芒'r t卯m hyfforddi.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Disgrifiad o'r llun, Canolwyr Cymru, Jamie Roberts a Nick Tompkins yn ymarfer gyda'r Dreigiau

Does neb wedi denu mwy o sylw am eu gweithredoedd oddi ar y cae na'r Dreigiau.

Eiddigedd, atgasedd, anfodlonrwydd, ffafriaeth - mae'r gwaywffyn wedi bod yn hedfan at y rhanbarth sy'n rhannol dan berchnogaeth yr Undeb.

Ond mae Dean Ryan yn meddu ar groen rhino ac mae ganddo'r cymeriad a'r profiad i ddelio gyda'r cyfan ddaw i'w rhan.

Mae'r Dreigiau, fel y Scarlets, 芒'i golygon ar Ewrop i ddechrau ond y nod yn y pen draw bydd codi'r safon yn gyson i gyfiawnhau arwyddo Jamie Roberts, Nick Tompkins, Jonah Holmes a Joe Maksymiw i fynd gyda'r chwaraewyr ryngwladol arwyddwyd y llynedd.

Erbyn diwedd y tymor bydd y Dreigiau (ac ambell sylwebydd mae'n si诺r wrth edrych ar y tymor yn gyffredinol!) yn adrodd yr hen gneuen honno "yr olaf a fyddant flaenaf".