Y podlediadau gorau i fod yn gwmni i chi wrth fynd am dro

Ydych chi'n gwrando ar bodlediadau? Os ddim, pam ddim?!

Mae yna bodlediad at ddant pawb, ac mae'r rhestr o bodlediadau Cymraeg sydd ar gael yn tyfu bob dydd.

Yn 么l Aled Jones o wefan , mae 'na tua 30 podlediad newydd Cymraeg wedi lansio ers y cyfnod clo wrth i bobl droi at bodlediadau fel ffordd o fod yn greadigol.

Yma, mae Aled wedi dewis rhai o'i hoff bodlediadau, sy'n berffaith i wrando arnyn nhw yn ystod eich ymarfer corff dyddiol, neu pan ydych chi eisiau gwneud rhywbeth gwahanol i wylio'r bocs.

Dwy Iaith Un Ymennydd gyda Elis James

Dyma enillodd wobr y Podlediad Cymraeg Gorau yn y Gwobrau Podlediadau Prydeinig eleni.

Mae Elis James yn archwilio'r ffordd mae iaith yn gallu bod yn allwedd i ddiwylliant ac yn ffordd arall o weld y byd, yn ogystal 芒 phwysigrwydd dwyieithrwydd.

Yma, mae'n holi amryw o westeion diddorol am eu profiadau yn ei ffordd unigryw ei hun.

Y ddau arall ar restr fer y Podlediad Cymraeg Gorau oedd yr Haclediad a Siarad Secs.

Dewr

Ffynhonnell y llun, Dewr

Podlediad sydd newydd lansio yw fy ail ddewis. Mae Dewr yn gyfres o sgyrsiau am ups and downs bywyd, a sut mae'r celfyddydau a chreadigrwydd yn gallu helpu drwy gyfnodau heriol a hapus.

Arno, mae Tara Bethan yn sgwrsio gyda gwesteion dewr sydd yn rhannu profiadau ac emosiynau mewn ffordd onest iawn.

Podlediad newydd arall dwi wedi mwynhau gwrando arno yw Gwrachod Heddiw sydd yn dathlu merched Cymru.

Y Dihangiad

Ffynhonnell y llun, Y Dihangiad

Fel ffan mawr o seiclo mae'n braf cael gwrando ar bodlediad Y Dihangiad - y podlediad seiclo Cymraeg.

Mae brwdfrydedd Rheinallt ap Gwynedd a Dewi Owen am y gamp yn dod drosodd ac mae gwybodaeth y ddau am seiclo yn anhygoel. Os oes gyda chi ddiddordeb yn y byd seiclo gwrandewch ar y podlediad yma.

Dau bodlediad arall am chwaraeon dwi'n mwynhau yw'r un am b锚l-droed, Podligo, a'r podlediad treiathlon wythnosol, Nawr yw'r Awr.

Y Diflaniad

Y Diflaniad yw'r podlediad cyntaf yn yr iaith Gymraeg sy'n olrhain hanes trosedd go iawn. Os ydych chi'n hoffi true crime -genre sydd mor boblogaidd yn ddiweddar - bydd y podlediad yma yn plesio.

Yn Y Diflaniad mae Ioan Wyn Evans yn dilyn hanes dirgelwch diflaniad cyn-filwr o Wlad Pwyl, Stanislaw Sykut, o bentre' Cwmdu yn Nyffryn Tywi yn 1953.

Pedair pennod sydd i'r gyfres ac mae'r stori yn tynnu chi mewn - dwi'n si诺r y byddwch yn binjo ar y gyfres yma ac yn gwrando ar y cyfan mewn dim o dro!

Learn Welsh with Si芒n Davies

Ffynhonnell y llun, Learn Welsh with Si芒n Davies

Os ydych chi'n dysgu Cymraeg ac yn colli bod mewn dosbarth, mae podlediadau yn ffordd dda o ymarfer eich Cymraeg.

Mae Learn Welsh with Si芒n Davies yn un o nifer o bodlediadau gwych ar gyfer dysgwyr.

Mae Si芒n wedi bod yn dysgu Cymraeg am ddeng mlynedd ac wedi creu'r gyfres yma i helpu pobl i ddysgu Cymraeg o adref.

Hefyd o ddiddordeb: