Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Y Gymraes wnaeth gyhoeddi i'r byd mai Joe Biden oedd wedi ennill
Wrth i bawb edrych tuag at Washington DC i wybod pwy fyddai'n ennill y ras arlywyddol, Cymraes o Sir Benfro gafodd y wefr o gyhoeddi'r canlyniad i ddegau o filiynau o bobl ar draws y byd.
Jane O'Brien, fu'n siarad efo Cymru Fyw cyn yr etholiad am ei gwaith fel gohebydd a chyflwynydd i'r 大象传媒 yng ngogledd America, sy'n rhoi ei hargraffiadau o'r diwrnod hanesyddol.
"Roedd e fel disgwyl i disian, a hwnnw ddim yn dod."
Dydy darlledu ar un o straeon mwya'r flwyddyn a ras arlywyddol fydd yn aros yn y cof am hir ddim bob tro yn llawn cyffro.
Jane O'Brien, sy'n cyflwyno 大象传媒 World News America ar 大象传媒 World, oedd o flaen y camera pan daeth hi i'r amlwg ddydd Sadwrn mai Joe Biden oedd yn mynd i ennill talaith Pennsylvania.
Gyda degau o filiynau yn gwylio'r sianel ar draws y byd, ac ar 么l dyddiau o ddisgwyl, hi fyddai'n cael cyhoeddi mai'r Democrat ac nid Donald Trump a fyddai'n ennill y ras i'r T欧 Gwyn.
Ond er bod cyfnodau cyffrous iawn wrth weithio ar stori fawr fel hyn, mae yna hefyd gyfnodau hir o ddisgwyl i rywbeth ddigwydd.
"Roedden ni'n gwybod o'r cychwyn y bydde'n cymryd dyddiau os nad wythnosau i gael canlyniadau'r etholiad ond roedd yr ansicrwydd yn ei gwneud yn anodd iawn i wybod yn union pa bryd," meddai'r Gymraes o Drewyddel yn Sir Benfro, sy'n gyn-ddisgybl yn Ysgol y Preseli yng Nghrymych.
"Am bum diwrnod roedden ni'n mynd o ddiflastod llwyr - oherwydd doedd y stori ddim wir yn symud yn ei flaen - i gyfnod cyffrous iawn pan roedd canlyniad yn cael ei gyhoeddi neu ar y ffordd, ac wedyn yn 么l i ddiflastod."
Roedd y newyddiadurwr, sydd bellach yn byw yn New Hampshire, yn gweithio fel prif gyflwynydd yn y stiwdio yn Washington ar ddyddiau Mercher, Iau, Sadwrn a Sul yr wythnos ddiwethaf. Daeth s茂on mai ar y dydd Sadwrn fyddai'r niwl yn clirio a'r byd yn cael gwybod pwy fyddai yn y T欧 Gwyn am y pedair blynedd nesaf.
Roedd Jane O'Brien wedi dod i mewn i'r gwaith y bore hwnnw a thrafod gyda'i th卯m cynhyrchu beth oedd y ffordd orau i gyfleu'r newyddion mawr os byddai'n torri yn ystod eu shifft nhw. Ond dywed ei bod yn amhosib cynllunio yn iawn ar gyfer newyddion byw.
Y newyddion yn torri
Roedd hi'n cyfweld y Llysgennad Urszula Gacek pan glywodd gyffro ymysg y timau cynhyrchu yn America a Llundain - yn cynnwys ei chynhyrchydd yn Washington, Leo Sands, a oedd fel hithau yn arfer gweithio i 大象传媒 Cymru.
Meddai: "Roedd gen i bedwar person yn siarad efo fi yn fy nghlust ar yr un pryd ac roeddwn i'n ceisio gwrando ar y person roeddwn i'n ei gyfweld a meddwl beth i'w ddweud nesaf.
"Yn sydyn roedd Leo yn dweud yn fy nghlust bod CNN wedi dweud bod Pennsylvania yn mynd i Biden. Ro'n i'n gwybod wedyn bod y stori yn torri a bod Biden wedi ennill y ras.
"Tra bod rhan o'n ymennydd i yn meddwl 'oh my god, this is it', roedd rhan arall yn meddwl am y cyfweliad roeddwn i'n gwneud ar y pryd."
Ar 么l i'r t卯m cynhyrchu gael amser i gael y graffeg a'r sgript yn barod, fe ddaeth hi 芒'r cyfweliad i ben a chyhoeddi'r newyddion.
"Nes i sylweddoli pwysigrwydd beth oeddwn i am ei ddweud ond hefyd bod angen datgysylltu fy hun o'r stori, i wneud yn si诺r nad oeddwn i'n teimlo emosiwn yr holl beth - mae'n gydbwysedd anodd ei gael," meddai.
Ar ddiwedd y rhaglen, aeth draw i'r ardal tu allan i'r T欧 Gwyn i holi cefnogwyr y ddwy ochr - a chael braw o weld yr awyrgylch.
"Roedd pobl yn dathlu ar y strydoedd ac awyrgylch fel parti. Dyma'r tro cyntaf ers misoedd i mi weld torf fawr o bobl yn y ddinas oherwydd y feirws. Nes i weld cefnogwyr Trump hefyd a'u holi nhw - mae'n bwysig iawn adlewyrchu'r ffaith bod 70 miliwn o bobl America yn siomedig efo'r canlyniad."
Pwysigrwydd newyddion lleol
Yn ystod ei gyrfa mae Jane O'Brien wedi holi enwogion fel y Fam Teresa, Paul McCartney a chyn-arlywydd America Jimmy Carter, ond yn dweud mai dyma'r stori newyddion fwyaf iddi weithio arni.
Er hynny, a hithau wedi gweithio ar bapurau lleol yn ne Cymru cyn ymuno gyda 大象传媒 Cymru ac yna symud i'r Unol Daleithiau, mae'n dweud nad ydi hynny'n golygu o reidrwydd mai dyma'r stori bwysicaf iddi weithio arni.
Meddai: "Fe fydd yr arlywyddiaeth yn effeithio ar y byd am y pedair blynedd nesaf, felly mae'n stori fawr i'r byd cyfan - nid stori America yn unig ydi hi.
"Ond dylai neb byth danbrisio pwysigrwydd newyddion lleol. Mae rhai o'r straeon pwysicaf dwi erioed wedi eu gwneud yn rhai fues i'n gwneud pan oeddwn i'n gweithio efo 大象传媒 Cymru yn Abertawe neu efo'r South Wales Echo, oherwydd ar ddiwedd y dydd mae gan straeon lleol fwy o effaith ar fywydau bob dydd pobl."
Hefyd o ddiddordeb: