Cynllun fferm wynt arloesol oddi ar arfordir Penfro

Ffynhonnell y llun, Principle POwer

  • Awdur, Aled Scourfield
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

Fe allai fferm wynt gyntaf Cymru sydd yn arnofio ar wyneb y m么r gael ei chodi rhyw 45 cilomedr o arfordir Sir Benfro.

Mae'r cwmni ynni Total o Ffrainc yn un o bartneriaid cynllun Erebus i osod rhwng saith a deg o dyrbeini gwynt yn y M么r Celtaidd allai gynhyrchu 96MW o drydan i bweru bron i 90,000 o gartrefi.

Mae cynlluniau tebyg eisoes yn bodoli yn Yr Alban a Phortiwgal.

Y bwriad yw gosod cebl tanddwr o'r tyrbeini yn 么l at y lan yn Aberdaugleddau, cyn cysylltu gyda'r orsaf b诺er ym Mhenfro.

Ffynhonnell y llun, Erebus

Disgrifiad o'r llun, Y bwriad yw gosod cebl tanddwr i Aberdaugleddau

Mae cwmni Blue Gem Wind yn fenter ar y cyd rhwng Simple Blue Energy a Total.

Mae Yst芒d y Goron eisoes wedi caniat谩u prydles gwely'r m么r i'r cynllun.

Mae astudiaethau wedi awgrymu y gallai'r M么r Celtaidd gynhyrchu 50GW o drydan drwy ddefnyddio ynni gwynt.

Y gred yw y gallai'r cynlluniau sy'n cynhyrchu'r 1GW cyntaf greu 3,000 o swyddi yng Nghernyw a Chymru erbyn 2030, gyda hwb o 拢682m i gadwyni cyflenwi.

Dywedodd y Prif Weinidog, Boris Johnson, ei fod am weld Prydain yn cynhyrchu hyd at 1GW o drydan o ffermydd gwynt sydd yn arnofio erbyn 2030.

Mae cwmni Blue Gem newydd lansio ymgynghoriad ar-lein yngl欧n 芒'u cynlluniau.