Plant 'yn ffynnu' wrth i fwy gael eu haddysg adref
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y plant sydd wedi eu tynnu o'u hysgolion er mwyn cael eu haddysgu adref wedi cynyddu'n sylweddol ers dechrau'r pandemig.
Cafodd 806 eu tynnu o gofrestrau ysgolion rhwng Mawrth a Medi eleni - cynnydd o 70% o'i gymharu 芒 ffigyrau flwyddyn yn 么l.
Dywed Llywodraeth Cymru bod awdurdodau lleol wedi cael 拢400,000 eleni at helpu teuluoedd sy'n addysgu eu plant adref.
Ond mae rhai o'r rhieni'n galw am fwy o gefnogaeth.
Yn 么l ymchwil rhaglen 大象传媒 Wales Live, cafodd 552 o blant eu dadgofrestru yn 2019. 466 oedd y ffigwr yn 2018.
Mae'r gwir ffigwr yn uwch gan fod chwe chyngor sir heb ddarparu ystadegau.
Mae sawl rheswm dros ddadgofrestru plant, medd yr awdurdodau addysg, gan gynnwys gorbryder, y pandemig, a ffordd o fyw wahanol.
'Trafferthion cychwynnol - ond mae'r plant yn ffynnu'
Ar ddechrau'r clo cenedlaethol cyntaf, bu'n rhaid i Louise Dryland o'r Fenni warchod ei hun rhag coronafeirws - a cheisio rhoi gwersi i'w dau blentyn.
Roedd ei merch, Orlena, yn ei chael yn anodd, meddai.
"Roedd yn teimlo bod yna gymaint i'w wneud, a bod pethau ddim yn cael eu marcio, ond pan ddaeth hi'n bryd i ddychwelyd i'r ysgol ro'n i'n ofnus ac yn bryderus."
Mae Louise, 38, yn byw gyda chyflwr sy'n amharu ar ei himiwnedd, ac roedd y plant yn poeni ynghylch dal y feirws yn yr ysgol ac achosi salwch difrifol iddi petawn nhw'n ei heintio.
"Ddiwedd Awst fe benderfynon ni nad oedden nhw am ddychwelyd i'r ysgol am y tro," meddai.
Aeth ati i ddysgu'r plant ei hun gydag adnoddau ar-lein ar sail cwricwlwm yr oedrannau perthnasol.
Mae'r Orlena, 12, a Roy, sy'n naw, wedi addasu'n "rhyfeddol o dda", meddai, a'r profiad wedi amlygu pa wendidau sydd angen rhagor o waith.
"Mae'r ddau'n dweud nad ydyn nhw'n cael gymaint o sylw un-i-un gan athrawon sydd 芒 30 o blant i ddelio 芒 nhw.
"Maen nhw'n ffynnu nawr, gyda rhywun sydd 芒'r amser i eistedd gyda nhw a gwneud pethau.
"Gall bopeth fod yn wers. Mae cerdded i'r castell yn wers hanes, mae coginio'n ymwneud 芒 mathemateg... eu helpu i ddysgu mewn ffordd wahanol a bod yn hyblyg."
Y plant fydd yn penderfynu a ydyn nhw am ddychwelyd i'r ysgol "unwaith mae'n ddiogel iddyn nhw wneud hynny" ac maen nhw'n ystyried rhannu eu haddysg rhwng yr ysgol a'r cartref yn y pen draw.
Ond mae'n dweud mai'r "unig gefnogaeth" y mae wedi'i derbyn "yw cefnogaeth ar-lein gan rieni eraill sy'n addysgu yn y cartref".
Dywed Cyngor Sir Fynwy eu bod yn gweithio gyda rhieni sy'n addysgu eu plant adref "yn unol 芒 chanllaw Llywodraeth Cymru", a bod dim rhieni wedi cysylltu 芒 nhw i fynegi siom gyda lefel y gefnogaeth.
'Byddai mentora'n helpu'
Mae rhiant o Geredigion, Polly Ernest, yn addysgu ei merch 12 oed, Meg ers mis Medi.
Mae g诺r Polly yn y categori bregus ar 么l cael trawsblaniad aren.
"Dydw i heb gael unrhyw gefnogaeth swyddogol," meddai.
"Roedd Cyngor Ceredigion yn gefnogol iawn pan wnaethon ni dynnu hi o'r ysgol. Wnaethon nhw ddim gwrthwynebu a chawson ni ddim dirwyon, ac rwy'n meddwl cawson ni lythyr gyda linc i adnoddau ar-lein.
"Byddai rhyw fath o fentora wir wedi fy helpu - rhyw fath o ganllawiau."
Mae Cyngor Ceredigion wedi cael cais am ymateb.
Amlygodd atebion i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth fod 2,250 o blant yn cael eu haddysgu adref, o'i gymharu 芒 2,171 yn llynedd a 1,878 yn 2018.
Gan fod dim rhaid i rieni gofrestru plant sydd erioed wedi cael addysg mewn ysgol, mae'r gwir ffigwr yn debygol o fod un uwch.
'Agoriad llygad i rai'
Alastair Lawson yw rheolwr addysg yn y cartref y wefan adnoddau addysg Twinkl.
Dywedodd fod nifer yr addysgwyr cartref eisoes ar gynnydd cyn y pandemig ond bod yr argyfwng iechyd wedi creu'r cyfle i rieni roi cynnig arni.
Mae'r profiad, meddai, o'r dystiolaeth ar dudalen Facebook Twinkl, wedi bod yn "agoriad llygad" i rai, sy'n gweld manteision dysgu'u plant eu hunain ar 么l gorfod gwneud eleni.
"Ry'ch chi'n rhannu yn eu profiad o ddysgu," meddai. "Yn yr ysgol, ry'ch chi mewn gwirionedd ond yn cael cipolwg yn ystod nosweithiau rhieni, ond gydag addysg yn y cartref ry'ch chi'n cael cyfle i fynd yn ddyfnach i bethau a bod yn rhan ohono.
"Y brif her yw'r gynfas wag anferthol sy'n gallu llethu pobl yn y lle cyntaf. Mae rhai pobl yn dilyn cwricwlwm yr ysgol, mae eraill yn canfod eu ffordd eu hunain. Rhaid i rai pobl drefnu'r addysg o gwmpas eu gwaith."
Ym Mehefin oherwydd y pandemig.
Yn sgil hynny fe lansiodd y Comisiynydd Plant, Sally Holland adolygiad i reolau addysg yn y cartref.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn diweddaru taflen ar gyfer rhieni sy'n addysgu'u plant adref.
"Rydym yn ymwybodol bod rhai rhieni wedi penderfynu tynnu'u plant o'r ysgol oherwydd ofnau'r ymwneud 芒 Covid," meddai.
"Fodd bynnag, rydym yn annog ysgolion ac awdurdodau addysg i gydweithio 芒 theuluoedd mewn ffordd gefnogol i alluogi dychwelyd i'r ysgol yn y cyfnod heriol hwn."
Mae'r 拢400,000 i awdurdodau lleol er mwyn cefnogi teuluoedd yn "cydnabod costau ychwanegol y teuluoedd hyn wrth ddarparu adnoddau a chyfleoedd sydd fel arfer am ddim mewn ysgol".
Ychwanegodd fod y cyllid yma'n "unigryw i Gymru".
Wales Live, 大象传媒 One Wales, 22:35, 25 Tachwedd ac yna ar iPlayer.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd19 Mai 2020
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2019