Cyn brif-weithredwr Lerpwl eisiau helpu Wrecsam

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Peter Moore oedd prif weithredwr Lerpwl pan orffennodd y clwb ar frig yr Uwch Gynghrair dan Jurgen Klopp

Mae cyn-brif weithredwr Lerpwl Peter Moore yn dweud ei fod yn barod i weithio fel ymgynghorydd i glwb p锚l-droed Wrecsam mewn r么l wirfoddol.

Fe wnaeth Moore adael Lerpwl ym mis Gorffennaf ar 么l tair blynedd wrth y llyw.

Mae Moore, sydd wedi treulio 30 mlynedd yn yr Unol Daleithiau, hefyd wedi gweithio i gwmn茂au Sega, Microsoft a Reebok, yn cofio gwylio Wrecsam pan yn blentyn.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd: "Fe fyddaf yn cynnig help fel ymgynghorydd i glwb a roddodd gymaint o amseroedd gwych n么l yn y 70au ac i'r gymuned lle roeddwn yn byw cyn mynd i'r Unol Daleithiau, nid mewn r么l llawn amser, ond fel rhwyun sydd am roi rhywbeth yn 么l."

Dywedodd ei fod yn "hynod falch o allu helpu" Ryan Reynolds a Rob McElhenney, perchnogion newydd y clwb.