Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cartref gofal i Bwyliaid ym Mhenrhos ger Pwllheli yn cau
- Awdur, Alun Rhys
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Mae perchnogion newydd safle cartre'r Pwyliaid ym Mhenrhos yn Ll欧n wedi cadarnhau y bydd y cartref nyrsio yn cau ddydd Sul.
Bydd yr unedau hunan-ddarpar yn aros ar agor. Yn 么l Cymdeithas Dai Clwyd Alyn cafodd y penderfyniad i gau'r cartref nyrsio ei wneud ynghynt na'r bwriad gwreiddiol gan fod teuluoedd wedi symud eu hanwyliaid o'r cartref a'r staff wedi gadael.
Ers diwedd yr Ail Ryfel Byd mae cartre'r Pwyliaid ym Mhenrhos yn Ll欧n wedi darparu gofal i gannoedd o Bwyliaid yn ogystal 芒 phobl oedrannus Penrhyn Llyn a'r cyffiniau.
Ganol yr haf dywedodd y perchnogion, y Polish Housing Society, na allen nhw barhau i gynnal y safle ac fe benderfynodd Cymdeithas Dai Clwyd Alyn gymryd gofal o'r trigolion.
Roedd y Polish Housing Society eisoes wedi cyhoeddi y byddai'r cartref nyrsio yn cau, a ddydd Gwener cadarnhaodd Cymdeithas Dai Clwyd Alyn y byddai'r trigolion olaf wedi gadael erbyn dydd Sul.
'Diwedd cyfnod hapus'
Mae'r safle wedi bod yn rhan annatod o'r gymdeithas ar Benrhyn Ll欧n ers 1949, ac mae gan Eryl Williams o bentre'r Ff么r gysylltiad agos 芒'r cartref ers dros ddeugain mlynedd. Bu'n codi arian tuag at Gyfeillion y Cartref a bu ei g诺r Mike yn gweithio yno am dros dros ddeugain mlynedd.
"Mae o'n ddiwedd cyfnod, a chyfnod sydd wedi bod, ar y cyfan, yn hapus iawn," meddai.
"Mae yna gydweithio agos wedi bod rhwng y Pwyliaid a'r Cymry, ac roedd pob dim yn digwydd yno yn dairieithog bron - Cymraeg, Saesneg a Phwyleg.
"Mae'r Pwyliaid wedi cyfrannu at economi Pen Ll欧n gan fod sawl un wedi cael gwaith yno dros y blynyddoedd. Mi oedd o'n un o'r cartrefi gofal gorau yng Ngogledd Cymru. Mae o'n adeg trist, yn gyfnod sydd wedi para ers diwedd yr Ail Ryfel Byd.
"Dwi'n gobeithio y bydd yna gysylltiad yn parhau hefo Cartref y Pwyliaid gan ei fod o wedi bod yn rhan hanfodol o Ben Ll欧n ar hyd y blynyddoedd."
Cynllunio cartref gofal newydd
Mae'r cynghorydd lleol, Angela Russell, yn gobeithio y bydd modd cael cartref nyrsio newydd sbon ar y safle yn y dyfodol. Mae hi'n credu fod yna botensial enfawr i'r safle, sydd dros ugain erw, ac mae'n gobeithio cael cefnogaeth cynghorwyr Ll欧n i ddechrau ymgyrch i sicrhau gwelyau nyrsio ar y safle.
"Mae gynnon ni ugain acer yma yn Penrhos, mi ges i fy magu yma nes o'n i yn bump oed ac mae Penrhos yn agos iawn at fy nghalon i. Mi fydda i yn brwydro yn galed i gael nursing home gwerth ei weld sydd yn mynd i ateb y pryderon mawr sydd gynnon ni r诺an.
"Gan obeithio ar 么l y Nadolig y caf i gyfarfod hefo fy nghyd-gynghorwyr i drio cael y maen i'r wal a chwffio yn galed yn union i gael be rydan ni ishio i Ben Ll欧n, achos mae o yn bwysig i'r ardal i gyd."
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Dai Clwyd Alyn "eu bod wedi ymrwymo i sicrhau dyfodol i'r safle ym Mhenrhos a'u bod yn gweithio gyda phartneriaid eraill i adfywio'r safle.
"Mi fydd codi cartref gofal newydd yn rhan allweddol o'r cynlluniau hynny," meddai, "cyn belled 芒'n bod yn gallu sicrhau cyllid digonol."