Amgueddfa B锚l-droed Genedlaethol yn Wrecsam gam yn agosach
- Cyhoeddwyd
Mae'r cynllun i ddatblygu Amgueddfa B锚l-droed Genedlaethol yn Wrecsam gam yn agosach, yn 么l Llywodraeth Cymru.
Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd Dafydd Elis-Thomas AS, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth fod gr诺p llywio wedi ei sefydlu, ac fe fydd Cyngor Wrecsam yn gyfrifol am arwain y prosiect.
Dywedodd y datganiad y bydd yr amgueddfa yn "gweithio ochr yn ochr 芒 chymunedau i annog cyfranogiad ymwelwyr o bob cefndir a'u hysbrydoli.
"Bydd y prosiect yn ategu datblygiadau eraill yn Wrecsam gan gynnwys Canolfan Hyfforddi Genedlaethol Cymdeithas B锚l-droed Cymru ym Mharc Collier, Canolfan Hyfforddiant Proffesiynol Clwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Wrecsam yn y Groves, ac ailddatblygiad Porth Wrecsam ar faes y Cae Ras."
Mae cynllun busnes wedi ei baratoi gan ymgynghorwyr allanol ac mae eu hargymhellion yn cael eu hystyried ar hyn o bryd gan y gr诺p llywio.
Ychwanegodd y datganiad fod tendr dylunio yn cael ei hysbysebu ar gyfer cam nesaf y gwaith ac mae'r cyngor yn chwilio am ddau aelod newydd o staff i gefnogi'r prosiect.
Croesawu'r cyhoeddiad
Mae'r newyddion wedi ei groesawu gan wleidyddion yn yr ardal, gan gynnwys Llyr Gruffydd AS o Blaid Cymru, sydd wedi ymgyrchu i sefydlu'r amgueddfa yn y dref.
Dywedodd Mr Gruffydd: "Rydyn ni'n ddiolchgar am y gefnogaeth gychwynnol gan Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam a'i gadeirydd ar y pryd, Pete Jones, a oedd yno yn y lansiad ym mis Rhagfyr 2015.
"Bryd hynny roedd yn rhaid i ni argyhoeddi pobl bod angen amgueddfa b锚l-droed arnom, y dylai honno fod yn Wrecsam ac ar safle'r Cae Ras wedi'i ailwampio.
"Fe wnaethon ni ennill y dadleuon gyda'r ddwy elfen gyntaf ond bydd yr amgueddfa newydd yn cael ei lleoli yn Amgueddfa Wrecsam - efallai mewn blynyddoedd i ddod gellir ei hadleoli i'r Cae Ras wrth i'r Kop End gael ei ailddatblygu. Cawn weld beth sy'n digwydd pan fydd y perchnogion newydd yn gafael yn yr awenau - efallai y bydd yn rhan o'u cynlluniau."
Dywedodd yr AS Llafur lleol Lesley Griffiths: "Er gwaethaf yr heriau a gr毛wyd gan Covid-19, rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen 芒'i chynlluniau ac yn benderfynol o weld Amgueddfa B锚l-droed Genedlaethol yn dod yn realiti yn Wrecsam.
"Mae'r dref bob amser wedi bod yn gartref haeddiannol i b锚l-droed Cymru ond mae perchnogaeth newydd o Glwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Wrecsam gan Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi helpu i godi ein proffeil p锚l-droed ar raddfa fyd-eang.
"Ynghyd 芒 phrosiect Porth Wrecsam, mae cyfle i gyflawni rhywbeth gwirioneddol arbennig a thrawsnewidiol i'r dref. Byddai sefydlu'r amgueddfa a sicrhau'r buddsoddiad yn hwb mawr ac roeddwn i'n benderfynol o weld y prosiect hwn yn cael ei wireddu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd23 Medi 2020