Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dai Young yn dychwelyd i'r Gleision, Mulvihill yn gadael
Mae Gleision Caerdydd wedi cadarnhau bod y prif hyfforddwr John Mulvihill wedi gadael y rhanbarth, gyda Dai Young yn dychwelyd fel cyfarwyddwr rygbi dros dro.
Dywed y Gleision fod Mulvihill wedi gadael ei swydd ar unwaith oherwydd rhesymau personol.
Cafodd y g诺r o Awstralia ei benodi ym mis Mawrth 2018 i olynu Danny Wilson, ond mae'n gadael wrth iddo nes谩u at fisoedd olaf ei gytundeb tair blynedd.
Mae Young yn dychwelyd i'r Arms Park .
Collodd y Gleision 17-3 gartref i'r Gweilch yn y darbi Dydd Calan - eu chweched colled mewn 11 g锚m y tymor hwn.
Clywodd y chwaraewyr nad oedd Mulvihill ar gael yr wythnos hon am resymau personol, cyn y g锚m gartref yn erbyn y Scarlets ar 9 Ionawr.
Young yn 么l
Fe lywiodd Young y Gleision am naw mlynedd, ac arwain y rhanbarth i rownd gynderfynol Cwpan Heineken yn 2009, cyn colli g锚m gyfartal ar giciau cosb.
Bu hefyd yn llwyddiannus yn y Cwpan Eingl-Gymreig yn 2009.
Dechreuodd cyn-brop Cymru a'r Llewod ei yrfa gydag Abertawe ac yna Caerdydd cyn symud i chwarae rygbi'r gynghrair gyda Leeds yn 1990.
Aeth ymlaen i fod yn gyfarwyddwr rygbi yn Wasps am naw mlynedd, gan arwain y clwb i'r gemau ail gyfle yn yr Uwch Gynghrair dair gwaith rhwng 2016 a 2018, cyn gadael ar ddechrau 2020.
Bydd cyn-fewnwr Cymru a'r Llewod, Dwayne Peel, hefyd yn ymuno 芒 staff hyfforddi'r Gleision yr haf nesaf o Ulster.