Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ysgol Abersoch: 'Annheg cynnal ymgynghoriad' yn sgil Covid
- Awdur, Alun Rhys
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Wrth i Gyngor Gwynedd ddechrau'r broses ymgynghori ar ddyfodol Ysgol Gynradd Abersoch, mae cynghorydd yr ardal wedi dweud nad ydi'n bosib cynnal ymgynghoriad teg a chael barn y gymuned gyfan oherwydd y cyfyngiadau yn sgil y pandemig.
Dyma eildro i'r cyngor gynnal ymgynghoriad ar ddyfodol yr ysgol, sydd 芒 10 o blant, gan fod pwyllgor addysg wedi gofyn i gabinet y cyngor ail-ystyried y mater.
Ond dywed Cyngor Gwynedd eu bod yn dilyn gofynion Llywodraeth Cymru yngl欧n 芒'r Cod Trefniadaeth Ysgolion.
Mae swyddogion y cyngor yn dadlau nad ydy cynnal ysgol 芒 10 o blant ynddi yn ymarferol - yn addysgol nac yn ariannol - ac maen nhw'n awyddus i symud y plant i ysgol Sarn Bach rhyw filltir a hanner i ffwrdd.
Ond mae cymuned Abersoch yn awyddus i gadw'r ysgol yn agored.
Dywed is-gadeirydd y llywodraethwyr, Eifiona Woods fod yr ysgol wedi bod yn y pentref ers bron i 100 mlynedd.
"Mae wedi rhoi addysg arbennig i sawl cenhedlaeth yn yr ardal ac mae yna berthynas agos iawn rhwng yr ysgol a'r gymuned ac mae'r berthynas yma yn hanfodol er mwyn cryfhau'r iaith a'r diwylliant Cymraeg yn y pentre'," meddai.
Cost o addysgu'n ffactor
Mae hi'n costio 拢17,000 y flwyddyn i addysgu pob disgybl yn ysgol Abersoch tra bo'r cyfartaledd drwy'r sir yn ychydig dros 拢4,000.
Hefyd mae yna ddadl y byddai'r plant yn cael profiad cyfoethocach mewn ysgol fwy.
Anghytuno mae cyn-bennaeth ysgol Abersoch Anna Jones: "Maen nhw'n dweud yn yr ymgynghoriad nad ydy'r plant mewn ysgol fach yn cael yr un manteision yn gymdeithasol ond, i mi, maen nhw'n cael sylw unigol, maen nhw yn gwneud ffrindiau hefo pob un sydd yn y dosbarth a does dim un plentyn yn mynd trwy'r rhwyd.
"Mewn ysgol fach fel hyn maen nhw'n cael hanes lleol y pentre', ond wrth fynd i ysgol arall fyddan nhw ddim yn cael hynny.
"Mae'n warth fod yr ysgol fach yma mewn peryg o gael ei chau a hithau yn y pentref mwyaf yng Ngwynedd, a dyma'r ffordd i Gyngor Gwynedd ddangos [y ffordd]... miliwn o siaradwyr - dechreuwch yn Abersoch."
Dadl y cynghorydd lleol Dewi Wyn Roberts ydy ei bod yn gwbl annheg cynnal ymgynghoriad yng nghanol cyfnod clo gan na all pawb yn y gymuned fynegi barn.
"Mae bron yn amhosib i ni fel cymuned ddod at ein gilydd i drafod pethau dan amgylchiadau'r pandemig," meddai.
"Dwi hefyd yn pryderu sut mae'r cyngor yn mynd i ymgynghori hefo pob adran o'r gymuned, nid yn unig y rhai sydd 芒 chyswllt a'r ysgol."
'Dyletswydd i sicrhau'r addysg orau'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd fod swyddogion y Cyngor yn hyderus fod y broses ymgynghori yn cael ei chynnal yn unol 芒 gofynion Cod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru.
"Nid ar chwarae bach mae'r Cyngor yn ystyried dyfodol ysgol a chynnal ymgynghoriad statudol," meddai, "ond mae gan yr awdurdod ddyletswydd i sicrhau'r addysg a'r profiadau gorau i holl blant y sir."
Bydd y cyfnod ymgynghori yn dod i ben ar 16 Chwefror, cyn i gabinet y cyngor ystyried yr ymatebion.
Mae'r cyngor eisoes wedi datgan bwriad i gau'r ysgol ar ddiwedd tymor yr haf.