Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Rhywfaint o oedi i gynlluniau Metro De Cymru
Bydd "ychydig o oedi" yn y broses o gyflwyno Metro De Cymru oherwydd pandemig Covid, yn 么l pennaeth Trafnidiaeth Cymru.
Ond dywedodd James Price fod y prosiect wedi ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd a bod y gwaith paratoi eisoes wedi dechrau.
Ychwanegodd y bydd yr oedi yn "fisoedd yn hytrach na blynyddoedd" a'i bod yn rhy gynnar eto i ddweud faint o effaith fydd y pandemig wedi'i gael ar y gwasanaethau rheilffordd.
"Fe fydd hynny'n ddibynnol ar effaith hirdymor mesurau sydd wedi gorfodi pobl i weithio o adref," meddai.
"Y newyddion da yw bod dyfodol y metro wedi ei sicrhau drwy gyllid y llywodraeth, a thrwy gyllid yr Undeb Ewropeaidd ac mae hynny'n parhau.
"Rydym wedi bod yn gwneud llawer o waith trac ac yn paratoi ar gyfer trydaneiddio. Felly mae'r gwaith metro yn parhau.
"Mae'r trenau newydd wedi eu harchebu hefyd a bydd pobl yn gweld mai dim ond ychydig o oedi fydd yn amserlen y prosiect. Alla i ddim dweud yn union beth yw'r oedi hwnnw."
Trafnidiaeth Cymru, sy'n eiddo cyhoeddus, sydd bellach yn rhedeg gwasanaethau'r rheilffyrdd.
Fe ddaeth hynny i rym yn swyddogol ddydd Sul, 7 Chwefror gydag aelodau staff yn cael eu trosglwyddo i'r corff sy'n rhedeg gwasanaethau ar ran Llywodraeth Cymru.
Cafodd cytundeb gwerth 拢5 biliwn ei roi i KeolisAmey i redeg rheilffyrdd Cymru a'r Gororau yn 2018.
Ond ym mis Hydref 2020 dywedodd y cwmni na allai redeg y gwasanaeth gan fod Covid wedi golygu nad oedd y cytundeb yn ymarferol mwyach, a hynny yn dilyn cwymp sylweddol yn nifer y teithwyr.
Dywedodd James Price wrth Radio Wales fore Llun: "Trwy ddod 芒 gwasanaethau rheilffordd yn fewnol, byddwn ni'n gallu gwarchod yr holl swyddi, nid dim ond gyda'r Metro ond trwy redeg y gwasanaeth rheilffordd ar draws Cymru, cadw gwasanaethau teithwyr i fynd oherwydd roedden nhw mewn perygl, a chaniat谩u i ni barhau gyda'r Metro."
Bydd KeolisAmey yn parhau i fod 芒 rhan yn y gwaith gan gynnwys uwchraddio Llinellau Craidd y Cymoedd a darparu cerbydau rheilffyrdd.
Yr hyn sy'n aneglur yw effaith y pandemig ar wasanaethau rheilffordd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod am i 30% o bobl weithio o adref yn yr hirdymor.
'Angen i deithio fod yn fwy cynaliadwy'
Dywedodd Christine Boston, cyfarwyddwr yr elusen Sustrans Cymru sy'n annog cerdded a beicio, y bydd system drafnidiaeth gyhoeddus dda yn dal i fod yn hanfodol ar 么l y pandemig.
"Mae pobl eisiau cymysgedd," meddai. "Does neb eisiau gweithio o adref ar eu pennau eu hunain am byth ac rwy'n credu bod angen annog pobl, lle mae'n bosib, i weithio'n fwy lleol."
"Mae angen peidio rhoi pwysau ar y rhwydwaith ffyrdd ac ar drafnidiaeth gyhoeddus ar adegau prysur.
"Mae angen i bobl weithio mewn ffyrdd gwahanol i greu mwy o le ar drafnidiaeth gyhoeddus, fel y gall mwy o bobl deithio'n fwy cynaliadwy."
"Mae llawer o swyddi na ellir eu gwneud o adref ac mae llawer o bobl sy'n dal i fod eisiau mynd i safle gwaith, ond mae'n golygu bod llai o bobl yn cael eu gorfodi i wneud y teithiau yn ystod oriau brig."
Mae James Price yn cytuno y bydd y pandemig yn cael effaith ar drafnidiaeth ond nad oes neb yn gwybod yn union beth fydd y newid.
"Er bydd goblygiadau tymor byr ym mhatrwm teithio pobl credwn fod yr angen sylfaenol yno o hyd a daw'r galw yn 么l."