Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ymestyn ffyrlo a chodi budd-dal, ond trethi uwch hefyd?
- Awdur, Elliw Gwawr
- Swydd, Gohebydd Seneddol ´óÏó´«Ã½ Cymru
Wrth i'r Canghellor gyhoeddi ei gynlluniau ar gyfer gwariant a threthi, bydd iechyd y cyhoedd yn ogystal ag iechyd yr economi ar ei feddwl.
Mae Rishi Sunak wedi dweud y bydd hon yn gyllideb "i gefnogi unigolion a busnesau" wrth i'r cyfyngiadau Covid ddechrau codi, ond fe fydd yna bwyslais hefyd ar adfywio'r economi wrth i gyfnod gwaethaf y pandemig ddod i ben.
Gyda 178,000 o bobl, neu 12% o weithlu Cymru ar ffyrlo ar hyn o bryd, un o'r cyhoeddiadau pwysicaf y bydd y Canghellor yn ei wneud fydd ymestyn y cynllun sydd wedi talu 80% o gyflogau gweithwyr yn ystod y pandemig.
Roedd y cynllun i fod i ddod i ben fis Ebrill ond mae disgwyl cadarnhad y bydd yn para tan ddiwedd Medi.
Ym mis Gorffennaf bydd yn rhaid i gyflogwyr gyfrannu 10%, ac 20% ym misoedd Awst a Medi.
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges Twitter
'Da ni hefyd ar ddeall bydd y cynnydd wythnosol o £20 i'r budd-dal credyd cynhwysol yn cael ei ymestyn am chwe mis arall.
Mae AS Ceidwadol Preseli Penfro, Stephen Crabb, wedi bod yn pwyso ar y llywodraeth i'w ymestyn am 12 mis, ac i ystyried y posibilrwydd o'i wneud yn barhaol.
Mae bron i 280,000 o bobl yng Nghymru yn derbyn credyd cynhwysol, ac mae Mr Crabb yn dweud bod yr arian ychwanegol yma wedi bod yn "achubiaeth i deuluoedd".
Mae'n dadlau mai "nid nawr yw'r amser i leihau incwm rhai o bobl dlotaf y wlad hon o £20 yr wythnos".
Bydd Rishi Sunak hefyd yn cyhoeddi manylion cynllun i helpu gweithwyr hunangyflogedig ar draws y DU ar gyfer y tri mis rhwng dechrau Chwefror a diwedd Ebrill.
Yn ôl yr Ysgrifennydd Busnes, Kwasi Kwarteng, fe fydd y toriad mewn Treth ar Werth ar gyfer busnesau lletygarwch yn parhau.
Mae adroddiadau y bydd estyniad i'r gwyliau ardrethi busnes yn Lloegr hyd at yr haf.
Os daw'r cyhoeddiad, mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi awgrymu y bydd ei lywodraeth yn gwneud yr un peth yng Nghymru.
Mae Llywodraeth y DU wedi benthyg £270bn hyd yn hyn er mwyn brwydro yn erbyn y pandemig, ond mae'r Canghellor nawr yn dechrau meddwl sut y bydd o'n dechrau talu'r arian yn ôl.
Yn ôl Mr Sunak mae o'n bwriadu bod yn onest gyda'r cyhoedd ynglŷn â'r her sydd i ddod, ac mae adroddiadau ei fod yn bwriadu codi rhai trethi.
Mae sôn y gall godi y dreth gorfforaethol o 19% i 25%, yn ogystal â rhewi y trothwy treth incwm, sydd fel arfer yn cynyddu gyda chwyddiant.
Ond mae nifer o aelodau Ceidwadol yn gwrthwynebu codi trethi o gwbl, a'r arweinydd Llafur Syr Keir Starmer yn rhybuddio y byddai gwneud hyn nawr yn "tagu" unrhyw dwf yn yr economi.
'Angen bod yn uchelgeisiol'
Fe fydd hon hefyd yn gyllideb ar gyfer yr undeb yn ôl ffynhonnell o fewn y llywodraeth, a'u nod yw sicrhau y bydd yna gymorth i hybu'r economi ym mhob rhan o'r DU.
Felly maen nhw eisoes wedi dweud y bydd £93m ar gyfer prosiectau yng Nghymru i "hybu adferiad yr economi werdd".
Yn y gyllideb ddydd Mercher fe fydd y Canghellor yn cyhoeddi canolfan cynhyrchu hydrogen yng Nghaergybi, mwy o arian ar gyfer cytundebau twf yn y gogledd, y canolbarth ac Abertawe, yn ogystal â chymorth ariannol ar gyfer canolfan profi trenau yn ne Cymru.
Ond mae Ben Lake, llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, yn dweud bod angen iddyn nhw fod yn fwy "uchelgeisiol", gan alw ar Lywodraeth y DU i gynyddu'r swm y gall Llywodraeth Cymru ei fenthyg, fel bod modd buddsoddi mewn cynlluniau gwyrdd eu hunain.
Oherwydd datganoli, bydd nifer o gyhoeddiadau'r Canghellor mewn meysydd fel iechyd, diwylliant a chymorth i fusnesau ar gyfer Lloegr yn unig.
Fel arfer mae gwariant yn Lloegr yn arwain at arian cyfatebol i Lywodraeth Cymru wario fel maen nhw eisiau.
Ond oherwydd lefel anarferol o uchel y gwariant yn ystod y pandemig yma, mae'r Trysorlys wedi bod yn rhoi swm o flaen llaw i'r llywodraethau datganoledig.
Ym mis Chwefror fe gyhoeddwyd y byddai Llywodraeth Cymru yn derbyn £650m, ddaeth â chyfanswm y cyllid a drosglwyddwyd o San Steffan i Gaerdydd ers y pandemig i £5.85bn.