Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Llywodraeth yn 'awyddus i gefnogi' Eisteddfod yr Urdd
- Awdur, Garry Owen
- Swydd, Gohebydd Arbennig 大象传媒 Radio Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn "awyddus i gefnogi Eisteddfod yr Urdd wrth i'r mudiad gyrraedd ei ganmlwyddiant y flwyddyn nesaf".
Ond mae wedi gwrthod cadarnhau a fyddan nhw'n cadw addewid ym maniffesto Llafur Cymru i sicrhau bod mynediad am ddim i'r brifwyl yn 2022.
Roedd maniffesto'r blaid ar gyfer etholiad y Senedd ddechrau Mai yn dweud: "Byddwn yn... darparu mynediad am ddim i Eisteddfod yr Urdd 2022 ar ei phen-blwydd yn 100 oed".
Ni wnaeth y llywodraeth gadarnhau y bydd hynny'n digwydd, gan ddweud yn hytrach y byddai trafodaethau yn dechrau yn fuan.
Canmlwyddiant yr Urdd
Bydd Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yn Ninbych yn 2022 wedi i'r 诺yl orfod cael ei chanslo yn 2020 a 2021 oherwydd y pandemig.
Mae'r mudiad yn dathlu pen-blwydd arbennig bryd hynny, gyda chanmlwyddiant ei sefydlu gan Sir Ifan ab Owen Edwards yn 1922.
脗 hithau'n wythnos Eisteddfod T, dywedodd prif weithredwr yr Urdd ar Radio Cymru ddydd Sul ei bod yn gobeithio y bydd modd i'r brifwyl fod am ddim y flwyddyn nesaf, a hynny oherwydd ei fod yn rhan o faniffesto Llafur Cymru.
"Mae'r Prif Weinidog wedi datgan yn y maniffesto Llafur y bydd yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf am ddim, a dwi'n wir obeithio y bydd yr addewid yna yn parhau ar gyfer Eisteddfod Dinbych," meddai.
Yn 么l llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru maen nhw'n "parhau i gydnabod llwyddiant a phwysigrwydd Eisteddfod yr Urdd - un o'r gwyliau ieuenctid mwyaf yn Ewrop".
"Ein ffocws yr wythnos hon yw llwyddiant yr Eisteddfod T, ond mi fyddwn yn dechrau trafod Eisteddfod Dinbych 2022 yn fuan, wrth edrych ymlaen at y canmlwyddiant," meddai wrth raglen Dros Frecwast 大象传媒 Radio Cymru.
"Byddwn yn diweddaru'r trefnwyr ar 么l i unrhyw benderfyniad gael ei wneud."
Dywedodd yr Urdd nad oedd ganddyn nhw sylw pellach i'w wneud ar y mater.
Gwerthfawrogi cefnogaeth y llywodraeth
Y llynedd, dywedodd y mudiad mai dyma'r "cyfnod mwyaf heriol yn ei 98 mlynedd o hanes" gyda dros 160 wedi gadael allan o gyfanswm o 328 o aelodau staff.
Mae'r rhagolwg ariannol am y ddwy flynedd nesaf hefyd "yn dangos gostyngiad incwm sylweddol o 拢14m a cholledion o dros 拢3.4m" i'r mudiad.
Dywedodd Sian Lewis ddydd Sul fod pethau yn parhau i fod yn heriol ond fod yr Urdd wedi gwerthfawrogi'n fawr gefnogaeth Llywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn.
"'Dan ni ddim allan o'r d诺r dwfn ar hyn o bryd - 'dan ni'n symud ymlaen yn bositif," meddai.