大象传媒

Honiadau'n 'tanseilio awdurdod a hygrededd' AS Delyn

  • Cyhoeddwyd
Rob Roberts
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gall Rob Roberts ddychwelyd i San Steffan fel aelod annibynnol ar ddiwedd ei waharddiad

Mae cyn-gadeirydd Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus y Deyrnas Unedig wedi mynegi syndod nad yw aelod seneddol o ogledd Cymru wedi ymddiswyddo ar 么l iddo gael ei atal o'r senedd am chwe wythnos.

Daeth y gosb ar 么l i banel annibynnol ddarganfod bod AS Delyn, Rob Roberts, wedi aflonyddu'n rhywiol aelod o'i staff.

Yn ei unig ddatganiad cyhoeddus ar y mater ers i'r panel gyhoeddi ei adroddiad, ymddiheurodd Mr Roberts i'r achwynydd ond dywedodd y byddai'n "parhau i wasanaethu" ei etholaeth.

Fodd bynnag, dywedodd Syr Alistair Graham, a gadeiriodd y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus rhwng 2004-07, fod yr honiadau yn erbyn Mr Roberts yn tanseilio ei "awdurdod a'i hygrededd" fel AS.

Mae Mr Roberts wedi wynebu galwadau trawsbleidiol i ymddiswyddo gan gynnwys galwadau gan ddau weinidog Ceidwadol blaenllaw.

Ar 么l colli chwip y Tor茂aid, fel y mae pethau ar hyn o bryd bydd Mr Roberts yn rhydd i ddychwelyd i D欧'r Cyffredin fel AS annibynnol ar ddiwedd ei waharddiad.

Cafodd y g诺yn yn erbyn Mr Roberts ei asesu gan banel annibynnol a sefydlwyd i ymchwilio i gwynion yn erbyn ASau o aflonyddu a bwlio.

Nid yw'r broses yn cynnwys y p诺er i danio deiseb ad-alw a allai yn ei dro arwain at isetholiad, yn wahanol i pan fydd achosion yn cael eu hasesu gan Bwyllgor Safonau T欧'r Cyffredin.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae yna wendid yn y broses gwynion fel ag y mae, medd Syr Alistair Graham

Mae galwadau wedi bod i newid y rheolau fel bod y broses newydd ar gyfer ymchwilio i gwynion o fwlio a chamymddwyn rhywiol hefyd yn gallu arwain at ddeiseb ad-alw.

Wrth siarad 芒 rhaglen Politics Wales y 大象传媒 dywedodd Syr Alistair: "Mae'n wendid nad yw'n cyd-fynd 芒 threfniadau disgyblu eraill.

"Rwy'n synnu nad yw'r unigolyn dan sylw wedi dod i'r casgliad yn bersonol nad oes ganddo r么l yn y dyfodol mewn gyrfa wleidyddol nac fel aelod seneddol."

Ychwanegodd fod yr "honiadau yn ddifrifol iawn ac mae'n rhaid eu bod nhw'n tanseilio eich awdurdod a'ch hygrededd fel aelod seneddol".

Politics Wales, 大象传媒 One Wales, 10:00 ddydd Sul 6 Mehefin ac yna ar iPlayer