'Angen uned iechyd meddwl i famau a babanod yn y gogledd'

Disgrifiad o'r llun, "Roeddwn yn teimlo mor bell o fy ng诺r Tommy a Gwilym bach pan ym Manceinion," medd Nia Foulkes
  • Awdur, Elen Wyn
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

Mae mam o Sir Ddinbych yn galw am sefydlu uned iechyd meddwl arbenigol i famau a babanod yng ngogledd Cymru.

Roedd yn rhaid i Nia Foulkes, sy'n 40 oed, o Bentrecelyn ger Rhuthun gael gofal mewn uned yn Ysbyty Wythenshawe, Manceinion wedi genedigaeth ei mab yn 2019.

Dywed bod y profiad o fod mor bell o'i chartref a'i phlentyn yn hunllefus iddi hi a'i theulu.

Mae Llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi dweud eu bod am gryfhau gofal iechyd meddwl amenedigol yng ngogledd Cymru.

Roedd Nia wedi cael diagnosis o anhwylder deubegwn (bipolar) yn 2012 ac yn ystod ei beichiogrwydd roedd hi dan ofal ymgynghorydd gofal amenedigol (perinatal).

Disgrifiad o'r llun, Heb uned arbenigol sy'n agosach at adref dywed Nia ei bod hi a'i g诺r yn ansicr ynghylch cael ail blentyn

Cafodd Gwilym ei eni ym mis Mai 2019 yn Ysbyty Glan Clwyd, ond ar 么l ei eni fe gafodd ei anfon i uned gofal arbennig. O ganlyniad i hynny roedd Nia angen triniaeth iechyd meddwl.

Cafodd ei hanfon ar frys i uned iechyd meddwl arbenigol ar gyfer mamau newydd ym Manceinion - taith o dros awr a hanner.

Mae Nia sy'n rhedeg busnes cybiau c诺n ar fferm y teulu ym Mhentrecelyn yn awyddus i helpu mamau eraill sy'n mynd drwy'r un profiad.

Dywed Nia bod cael triniaeth mor bell oddi wrth ei theulu a'i ffrindiau ar 么l yr enedigaeth yn anodd iawn, ac mae hi'n credu y byddai ei hadferiad wedi bod yn wahanol ac yn llawer cyflymach pe bai uned ar gael yn nes at adref.

Dim ond canmoliaeth sydd gan Nia a'i theulu am y gofal ym Manceinion ond maen nhw'n pryderu am ddiffyg gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Roedd yr holl ofal a'r therapi a gafodd Nia yn Saesneg ac roedd hi'n teimlo na allai fynegi ei hun yn iawn.

"Dwi'n meddwl bod hi'n bwysig bod triniaeth ar gael yn Gymraeg - dwi'n meddwl bod hynna yn bwysig iawn. Pan ro'n i'n s芒l ro'n i'n teimlo bo fi mond yn gallu siarad yn Gymraeg am fy nheimladau," meddai Nia.

Mae hi bellach yn gofyn i bobl arwyddo yn galw am uned iechyd meddwl arbenigol i famau a babanod yng ngogledd Cymru.

Mae angen 10,000 o lofnodion cyn y gall y Senedd ystyried y mater.

'Y daith yn fy stopio rhag cael plentyn arall'

Wrth gynllunio i gael plentyn arall dywed Nia ei bod yn poeni y gallai'r hyn ddigwyddodd iddi wedi genedigaeth Gwilym ddigwydd eto.

"Y cyngor meddygol yw fy mod yn geni ail blentyn ym Manceinion - fel fy mod i yno'n barod petai cymhlethdod ond mae'r teimlad o orfod teithio i Fanceinion yn debygol o'n stopio rhag trio am blentyn arall oherwydd y pellter.

"Petai gofal o'r fath ar gael yng Nghymru fe fyddwn ni'n fwy tebygol o gynllunio i gael plentyn arall," meddai.

"Roedd hi'n sefyllfa anodd iawn i ni fel teulu," meddai mam Nia, Eirlys Evans. "Mae Manceinion mor bell i ffwrdd. Dwi mor prowd o Nia bod hi'n gwneud hyn. Mi fuasai'n dda cael uned arbenigol yng ngogledd Cymru."

Disgrifiad o'r llun, Dywed Eirlys Evans, mam Nia, ei bod mor falch o Nia yn trefnu'r ddeiseb

Y sefyllfa yng Nghymru

Er bod uned ar gyfer merched beichiog a mamau newydd sydd 芒 phroblemau iechyd meddwl wedi agor yn ddiweddar yng Nghastell-nedd Port Talbot, does yna ddim darpariaeth yng ngogledd Cymru.

'Uned Gobaith' ydi'r unig uned mamau a babanod yng Nghymru ar gyfer y rhai sydd 芒 phroblemau iechyd meddwl difrifol.

Gellir trin merched yno o wythnos 32 o feichiogrwydd nes bod eu babanod yn flwydd.

Yn 2013, yng Nghaerdydd mi gaeodd unig uned mam-a-babi seiciatryddol Cymru (MBU) - a oedd yn caniat谩u, ar y pryd, i ferched 芒'u babanod aros.

Disgrifiad o'r llun, Dywed y llywodraeth a'r bwrdd iechyd cynlluniau i gael gwell darpariaeth ar gyfer pobl yn yr un sefyllfa 芒 Nia a Gwilym

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru i gryfhau gofal iechyd meddwl amenedigol (perinatal) yng ngogledd Cymru."

Dywedodd Dr Alberto Salmoiraghi, Cyfarwyddwr Meddygol Iechyd Meddwl ac Anghenion Dysgu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran gwella'r gefnogaeth i iechyd meddwl amenedigol gan ehangu ein Gwasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol Cymunedol.

"Ry'n yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru i gryfhau gofal iechyd meddwl amenedigol ymhellach yng ngogledd Cymru."