Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Cwmni theatr amatur a oedd yn broffesiynol o'r dechrau'
- Awdur, Craig Duggan
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Mae cwmni theatr 'amatur' oedd ag agwedd broffesiynol at ei gynyrchiadau yn dathlu pen-blwydd arbennig eleni.
Cafodd Cwmni Theatr Maldwyn ei ffurfio ym 1981 i gynhyrchu sioe ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol ym Machynlleth.
40 o flynyddoedd yn ddiweddarach - a channoedd o bobl wedi bod yn rhan o'r cwmni - mae llyfr newydd yn cael ei gyhoeddi i adrodd ei hanes.
Mae 'Prydlondeb a Ffyddlondeb' wedi'i ysgrifennu gan un o gyfarwyddwyr a sylfaenwyr y cwmni theatr, Penri Roberts.
'Rhywbeth ar gyfer pobl ifanc'
Ar y cyd 芒'i gyfaill, y diweddar Derec Williams, fe sefydlodd Penri y cwmni ar 么l cael gwahoddiad gan bwyllgor drama'r Eisteddfod i wneud "rhywbeth ar gyfer pobl ifanc".
Fe ddaeth Linda Gittins i gwblhau'r triawd a fyddai'n arwain y cwmni.
Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach mae pobl o bob oed, o'r canolbarth a thu hwnt, wedi magu hyder ar lwyfan yn actio ac yn canu mewn cynyrchiadau o 'Y Mab Darogan' i 'Gwydion'.
Ac er yn gwmni theatr amatur, roedd cyflwyno cynyrchiadau o'r safon uchaf posib yn bwysig iawn o'r dechrau.
Dywedodd Penri Roberts: "Cyn i ni berfformio 'Y Mab Darogan' roedden ni wedi cael gwahoddiad i fynd i Lundain i weld sioe broffesiynol, a chael y cyfle i fynd gefn llwyfan i gwarfod pobl ar yr ochr cynhyrchu, y set, y goleuo a'r sain.
"A daeth y tri ohonom ni o 'na yn meddwl 'Allwn ni ddim fforddio miliwn o bunne i greu set ond medrith ein hagwedd ni fod yn broffesiynol i sicrhau y gorau fedrwn ni gael'. Ac mae hynny wedi bod yn rhan ohonom ni o'r dechrau."
Roedd y cwmni yn talu technegwyr proffesiynol i fod yn gyfrifol am y sain, y goleuo a'r set ond amaturiaid oedd yr actorion.
Ar 么l perfformio 'Y Mab Darogan' fe aeth y sioe gerdd ar daith trwy Gymru a chafodd y cynhyrchiad ei recordio ar gyfer S4C, un o raglenni cynharaf y sianel newydd.
Cafodd Y Mab Darogan ei lwyfannu ddwy flynedd ar 么l y refferendwm ym 1979, pan bleidleisiodd mwyafrif helaeth pobl Cymru yn erbyn sefydlu Cynulliad datganoledig.
Roedd y ddrama'n adrodd hanes Owain Glynd诺r, ac yn 么l Penri Roberts roedd yr ymateb iddi yn angerddol.
"Yn y perfformiad yn y Pafiliwn ym Machynlleth roedd hi'n drydanol yna," meddai. "Ar yr adeg hynny roedd tua 6,000 o bobl yn y pafiliwn - mae llawer iawn llai heddiw - ond roedd y teimlad ar ddiwedd y sioe yn angerddol.
"Dw i'n cofio roedd Gwynfor Evans yn eistedd yn y rhesi blaen a does dim dwywaith, o'r perfformiad hwnnw ac ar daith efo'r sioe, roedd 'Y Mab Darogan' yn sicr yn addas o ran y cyfnod, ac yn cyfleu y teimladau yngl欧n ag annibyniaeth."
Mae teitl y llyfr newydd yn deillio o arwyddair y cwmni - prydlondeb a ffyddlondeb. Yn 么l Sara Meredydd, a gafodd brif rannau mewn dwy sioe, 'Heledd' ac 'Ann!', roedd yn rhywbeth yr oedd y cyfarwyddwyr yn ei ddweud ym mhob ymarfer.
"Roedd Penri wastad yn dweud 'Prydlondeb!' a chyn dweud dim arall byddech chi'n clywed pobl yn y cast yn dweud 'ffyddlondeb'.
"Roedd yn rhywbeth oedd o'n deud o hyd - o'n nhw'n disgwyl i ni fod yn brydlon ac yn disgwyl ein bod ni'n ffyddlon.
"Mae pob un sy wedi bod yn aelod o'r cwmni yn gwybod hynny. Dyna gyd mae'n gofyn a chei di gymaint yn 么l trwy wneud y ddau beth yna."
Mae Barri Jones wedi bod yn rhan o bob cynhyrchiad ers ymuno 芒'r cwmni ar y dechrau un. Wrth bostio llythyr ym mhentre' Glantwymyn ym 1980 fe glywodd y cwmni newydd yn ymarfer yn y ganolfan gymunedol. Aeth i wrando wrth y drws a chael gwahoddiad i fynd i mewn.
"Fel o'n i'n sbio rownd y drws dyma un o'r cyfarwyddwyr, Derec Williams, yn fy ngweld i a dweud 'ti awydd ymuno 芒 ni? 'Dan ni'n brin o ddynion.' A dyna sut wnaeth yr hanes gychwyn i mi yn bersonol."
Yn lle mynd i Birmingham i ddilyn gyrfa fel cyfreithiwr, fel oedd ei fwriad, arhosodd Barri yn y canolbarth a pharhau fel aelod o'r cwmni hyd heddiw.
"Yn sicr fe wnes i newid [ar 么l ymuno 芒'r cwmni]. O'n i wedi dysgu Cymraeg yn yr ysgol gynradd, ond ddim yn gwneud fawr o ddefnydd ohoni yn yr ysgol uwchradd.
"Ond yn fwyfwy fe wnaeth ymwybyddiaeth godi yngl欧n 芒 pha mor bwysig oedd ein hiaith a'r diwylliant ac erbyn hyn 'dw i mor browd o'r hyn mae'r cwmni wedi cyflawni. O'n i wedi newid, a newid am y gorau hefyd."
Yn ogystal 芒'r agwedd broffesiynol tuag at gynhyrchu sioeau o safon, roedd ymarferion y cwmni'n gyfle i bobl o dros y canolbarth ddod at ei gilydd.
O ganlyniad fe wnaeth dwsinau o gyplau gwrdd am y tro cyntaf yn y cwmni theatr, priodi a gweld eu plant yn ymuno ag Ysgol Theatr Maldwyn flynyddoedd wedyn.
Fe wnaeth Sian ac Irfon Davies gwrdd wrth ymarfer ar gyfer 'Pum Diwrnod o Ryddid'.
Dywedodd Sian: "O'n i'n mwynhau'r gwmn茂aeth a'r cymdeithasu a dysgu'r caneuon, ac wedyn cwrdd ag Irfon ac y'n ni'n briod nawr ers 28 o flynyddoedd, sy'n anhygoel!
"A nawr mae ein mab ieuengaf wedi bod yn aelod o Ysgol Theatr Maldwyn, ac mae 'na nifer o gyplau sy'n gallu ailadrodd yr un hanes, sef cwrdd yn y cwmni a phriodi."
Wrth edrych yn 么l dros y 40 mlynedd, dywedodd Penri Roberts mai'r hyn sy'n rhoi'r pleser mwyaf iddo yw atgofion am y cydweithio gyda Derec Williams a Linda Gittings, a chyfraniad y cwmni at fywyd cymdeithasol yn y canolbarth.
"Y ffaith bod Derec a Linda a fi wedi medru cydweithio efo'n gilydd heb ffraeo unwaith, erioed - mae hynny'n rhoi mwy o bleser i fi na dim. A bod ni wastad wedi bod yn onest efo'n gilydd, ac yn mynnu y safonau gorau, hyd yn oed weithiau yn greulon efo'n gilydd trwy wrthod gwaith ein gilydd.
"Hefyd, ffyddlondeb y cwmni ei hun - amaturiaid yn gwneud pob math o swyddi gwahanol, yn rhoi eu hamser hamdden o'u gwirfodd i fod yn rhan o'r cwmni ac i roi 100% ym mhob un perfformiad ar hyd y blynyddoedd.
"Mae'n gwmni reit unigryw - 'da ni'n tynnu pobl o ardal eang iawn, a chefn gwlad ydy'n lle ni. Ac os yw'r cwmni wedi gwneud un peth pwysig dros y blynyddoedd, hynny ydy dod 芒 phobl cefn gwlad at ei gilydd i gymdeithasu, i berfformio ar lwyfannau ac i gael cwmni ei gilydd. Dwi'n meddwl bod hynny yn rhywbeth pwysig iawn i ni."
Fe fydd y llyfr yn cael ei lansio yn y Brigands Inn, Mallwyd nos Wener 30 Gorffennaf.