Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ardaloedd yn 'gwegian dan bwysau ymwelwyr'
- Awdur, Nia Cerys
- Swydd, Gohebydd Newyddion 大象传媒 Cymru
Wrth i'r gwyliau haf ddirwyn i ben, mae 'na rybudd bod angen ailedrych ar y model twristiaeth yn llwyr yng Nghymru ar 么l un o'r cyfnodau prysuraf erioed i sawl ardal.
Er yn hwb amlwg i fusnesau, mae'r cynnydd mewn ymwelwyr wedi rhoi straen ar adnoddau a chymunedau, ac mae galw r诺an am fuddsoddi mwy mewn isadeiledd.
Un o'r ardaloedd sydd wedi denu'r torfeydd mwyaf ydy Ynys M么n.
Mae'r gogledd yn hawlio lle ar frig rhestr o'r cyrchfannau mwyaf poblogaidd ar gyfer gwyliau eleni.
Mae busnesau mewn llefydd fel Biwmares yn sicr wedi elwa o'r ffaith nad ydy cymaint wedi gallu mynd dramor.
Ond tybed sut fydd hi pan fydd gwyliau tramor yn 么l ar yr agenda o ddifri?
Mae Nia Rhys Jones, o Gymdeithas Twristiaeth Ynys M么n, yn ffyddiog y bydd yr ymwelwyr yn parhau i ddod.
"Dwi'n meddwl bod y term 'staycation' yma i aros," meddai.
"Wrth gwrs mi rydan ni wedi denu ymwelwyr fydd 芒'u dewis cynta'r flwyddyn nesa' i fynd dramor.
"Ond dwi'n credu bydd gwyliau tramor yn ofnadwy o gostus y flwyddyn nesa'.
"Dwi'n si诺r bod ni wedi meithrin pobl newydd fydd yn driw gobeithio i'r ardaloedd maen nhw wedi ymweld 芒 nhw am y tro cynta' eleni," ychwanegodd.
'Dilema trwy'r pandemig'
Er yn amlwg yn croesawu'r hwb i fusnesau'r ardal, mae Nia Rhys Jones hefyd yn sylweddoli bod cael cydbwysedd rhwng y budd economaidd a diogelu cymunedau yn heriol.
"Mae'n ddilema sydd wedi bod hefo ni fel cymdeithas drwy'r pandemig, sef cadw'r cymunedau yn saff fwy na dim," dywedodd.
"Mae 'na waith i bawb ddod at ei gilydd - y cyngor a rhanddeiliaid eraill - a threfnu bod digwyddiadau'n digwydd mewn gwahanol lefydd ac ar wahanol ddyddiau.
"Hefyd bod ni'n edrych ar lle mae'r isadeiledd - er enghraifft, traethau dipyn bach distawach, lle mae 'na feysydd parcio distawach, a thrio annog a marchnata rheiny mewn ffyrdd dipyn yn wahanol," meddai.
Wrth i boblogaeth gogledd Cymru chwyddo dros yr haf, mae'r straen wedi bod yn amlwg ar yr awdurdodau.
Esboniodd Arolygydd Trystan Bevan o Heddlu'r Gogledd: "Mae'r ardaloedd dwi'n gyfrifol amdanyn nhw wedi bod yn brysur ofnadwy ac mae nifer y bobl sy' wedi dod yma i ogledd Cymru'n uwch na 'da ni wedi'i weld o'r blaen.
"'Da ni 'di gweld problemau gwrthgymdeithasol ac mae'r problemau parcio 'da ni 'di gweld mewn llefydd fel Ogwen a Llanberis, lle mae 'na lot o bobl yn dod i'r un lle er mwyn mwynhau eu hunain," dywedodd.
Er mwyn atal golygfeydd tebyg i'r rhai welson ni yn rhannau o Eryri'r llynedd, mae'r Awdurdod Parc Cenedlaethol wedi cyflwyno rhai newidiadau parcio.
Ym Mhen-y-Pass, lle mae rhai o lwybrau mwya' poblogaidd Yr Wyddfa yn cychwyn, mae 'na system archebu parcio o flaen llaw erbyn hyn.
Mae'n system gafodd ei threialu'r llynedd ac sydd wedi profi'n llwyddiant eto yr haf yma, yn 么l yr Awdurdod.
'Gwegian o dan bwysau ymwelwyr'
Ond mae pryder am gyfnod anoddach ar y gorwel - a bod angen ailedrych ar y model twristiaeth yng Nghymru drwyddi draw.
"Mae'r flwyddyn yma 'di bod yn wych i fusnesau dwi'n meddwl," meddai Helen Pye, Pennaeth Ymgysylltu Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
"Ond mae'r ardaloedd yn gwegian o dan bwysau ymwelwyr - ac ardaloedd sydd ddim o reidrwydd wedi cael y pwysau 'na o'r blaen."
Mae Helen Pye yn meddwl bod rhaid paratoi ar gyfer sialensiau'r dyfodol.
"Wrth i ni fynd i mewn i'r gaeaf r诺an mi fydd rhaid i ni feddwl - achos 'da ni'n disgwyl i flwyddyn nesa' fod yn brysur hefyd - ar hyn o bryd, efo'r niferoedd sy'n dod a'r diffyg o ran isadeiledd, mae ganddon ni broblemau mawr," meddai.
"Dwi'n meddwl bod ni angen cymryd cam yn 么l a gofyn 'be ydan ni angen allan o dwristiaeth?'
"Mae'n fwy pwysig i bobl bod nhw'n gallu byw yn eu hardal, bod nhw'n gallu mwynhau'r ardal a bod 'na barch tuag at yr ardal mwy na dim byd," meddai.
O'r mynydd i'r m么r - sydd hefyd wedi denu niferoedd uchel o ymwelwyr a phobl leol, gan gadw rhai fel Osian Roberts, sy'n gwirfoddoli efo'r criw bad achub ym Moelfre ar Ynys M么n, yn hynod brysur.
"'Da ni 'di bod yn cael amryw o alwadau," meddai.
"Yn bendant 'da ni'n gweld mwy o badlfyrddwyr, caiacs, cychod hamdden."
"Dydy o ddim jyst yn waith ar y d诺r chwaith - hefo cerddwyr, pobl yn syrthio oddi ar ddibyn neu rywbeth.
"Dwi'n teimlo bod llefydd fel hyn ar eu prysura' ers tua degawd," ychwanegodd.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor M么n: "Rydym yn gofyn i bob ymwelydd ail-ddarganfod Ynys M么n yn ddiogel dros 诺yl y banc ac yn y dyfodol,
"Mae gennym ni ddyletswydd i barchu ac edrych ar 么l ein gilydd."