Cwpan y Byd 2022: Belarws 2-3 Cymru
- Cyhoeddwyd
Fe sicrhaodd tair g么l Gareth Bale fuddugoliaeth i Gymru yn erbyn Belarws ddydd Sul yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd yn Kazan, Rwsia.
Cafodd ysbryd y Cymry ei godi yn y munudau cyntaf a hynny wedi i Bale sgorio trwy gic o'r smotyn.
Ond wedi 29 munud a chamgymeriadau amddiffyn gan Gymru roedd yna gic gosb i'r t卯m cartref a dyma Vitali Lisakovich yn unioni'r sg么r o ddeuddeg llath.
Funud yn ddiweddarach roedd Belarws ar y blaen wedi i Pavel Sedko sgorio'n hawdd.
Y sg么r ar hanner amser oedd Belarws 2, Cymru 1.
Caniat谩u cynnwys Twitter?
Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.
Roedd yna fwy o ysbryd yn chwarae Cymru ar ddechrau'r ail hanner gyda chroesiad gwych gan Rubin Colwill ac ergyd dda gan Brennan Johnson i gyfeiriad y g么l.
Ond ofer fu'r ymdrechion a bu arhosiad y ddau ddim yn hir ar y cae wrth i Robert Page roi cyfle i ddau eilydd - Mark Harris a Jonny Williams.
Wedi 69 munud fe unionodd Cymru'r sg么r wrth i Bale sgorio o'r smotyn unwaith eto - y tro hwn ar 么l trosedd yn erbyn Ben Davies yn y cwrt cosbi.
Roedd yna ymdrechion eraill - gan Bale, a gan Belarws - ar y g么l cyn y chwiban olaf ond fe ddaeth y fuddugoliaeth yn yr amser ychwanegol gyda Bale yn sicrhau hat-tric.
Y sg么r terfynol - Belarws 2, Cymru 3 a'r cochion yn bachu tri phwynt, er bod 13 o aelodau'r garfan yn absennol oherwydd anafiadau, rheolau Covid-19 neu drafferthion fisa.
Mae t卯m Robert Page wedi ennill dwy g锚m a cholli un hyd yma yng Ngr诺p E - dim ond un wlad sy'n cael mynd drwodd yn awtomatig i'r rowndiau terfynol yn Qutar yn 2022.
Bydd g锚m ragbrofol nesaf t卯m Cymru nos Fercher yn erbyn Estonia yng Nghaerdydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Medi 2021
- Cyhoeddwyd1 Medi 2021
- Cyhoeddwyd31 Awst 2021