大象传媒

Cwpan y Byd 2022: Cymru i herio Belarws yn Rwsia heb 13 chwaraewr

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Rubin Colwill: Belarws, Estonia a phrofiad bod yn yr Ewros

Bydd Cymru heb 13 chwaraewr ar gyfer g锚m ragbrofol Cwpan y Byd ddydd Sul yn erbyn Belarws yn Kazan, Rwsia.

Mae Aaron Ramsey a Kieffer Moore ymhlith saith chwaraewr i dynnu allan oherwydd anaf a Covid-19, tra bod tri arall yn absennol oherwydd materion fisa.

Roedd yr amddiffynwyr Connor Roberts a Ben Cabango eisoes wedi'u hanafu ac mae'r chwaraewr canol cae Harry Wilson wedi'i wahardd.

Bydd Cymru'n chwarae yn erbyn Estonia yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fercher mewn g锚m gystadleuol arall.

Mae t卯m Robert Page wedi ennill un a cholli un hyd yma yng Ngr诺p E, gyda dim ond un wlad yn mynd drwodd yn awtomatig i Qatar 2022.

Pwy sydd ar goll?

Pan enwodd Page ei garfan 28 dyn, dim ond Roberts a Cabango oedd ar goll o'r gr诺p o 26 a ddewiswyd ar gyfer Euro 2020 yr haf hwn.

Ond yna tynnodd Ramsey, Joe Rodon, David Brooks, Neco Williams a George Thomas i gyd allan oherwydd anaf.

Tynnodd y golwr Adam Davies yn 么l yn ddiweddarach ar 么l profi'n bositif am coronafeirws, cyn i'r ymosodwr Moore gael ei nodi fel cyswllt agos.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Harry Wilson yn methu'r g锚m ddydd Sul oherwydd ei fod wedi'i wahardd

Roedd Brandon Cooper ymhlith yr eilyddion a ddaeth i'r garfan ond, ynghyd ag Ethan Ampadu a Tyler Roberts, bydd yn colli'r g锚m yn erbyn Belarws oherwydd materion fisa.

Cafodd yr ornest ei symud i Kazan yn Rwsia oherwydd na all timau o'r Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd fynd i mewn i Belarws mewn awyren oherwydd sancsiynau yn erbyn llywodraeth y wlad.

Dywed Cymdeithas B锚l-droed Cymru nad oedd Cooper, Ampadu a Roberts wedi gallu cael cymeradwyaeth fisa Rwsieg mewn pryd cyn teithio i'r Ffindir ar gyfer g锚m gyfeillgar ddydd Mercher diwethaf.