'Cyngor yn annheg 芒 phlant ag anghenion arbennig'

Disgrifiad o'r fideo, 'Diffyg cefnogaeth' i rieni plant sydd gydag awtistiaeth
  • Awdur, Owain Evans
  • Swydd, Newyddion S4C

Mae mam i blentyn awtistig yn dweud nad yw plant gydag anghenion arbennig yn cael eu trin yn deg gan Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae plant tair oed yn gallu dechrau addysg meithrin yn y sir ond yn 么l Rebecca Davies dyw hynny ddim yn addas i bob plentyn sydd ag anghenion arbennig.

Mae'n dweud bod ei mab tair oed, Jack "ddim yn gallu ymdopi mewn dosbarth o 30 o blant felly yr unig ddewis eleni oedd cadw fe mewn meithrinfa breifat".

Dywed y cyngor bod pecynnau arbenigol yn cael eu darparu a'u monitro'n gyson yn achos rhai plant ble nad yw addysg meithrin llawn amser yn ateb addas i'w gofynion penodol.

Cost o 拢200 y mis

Er bod y cyngor yn talu am 12 awr a hanner o ofal yr wythnos mae'r teulu'n talu am y gweddill, sy'n tua 拢200 y mis.

Yn ogystal, dyw'r teulu ddim yn gallu gwneud cais trwy gynllun 'Cynnig Gofal Plant Cymru' Llywodraeth Cymru am fod Ms Davies wedi rhoi'r gorau i'w gwaith er mwyn hyfforddi i fod yn athrawes.

Disgrifiad o'r llun, Ni all Jack ymdopi 芒 bod mewn dosbarth 芒 nifer fawr o blant, medd ei fam, Rebecca Davies

"Un o'r pethau ddylen nhw 'neud yw sicrhau bod nhw'n gallu rhoi addysg i blant oedran Jack pan mae ganddyn nhw'r anghenion yma," meddai, "achos mae'n teimlo fel disability discrimination bod ni'n gorfod talu oherwydd y ffaith fod Jack yn awtistig.

"Os na fydde fe'n awtistig yna bydde fe mewn ysgol mainstream a fyddai ddim rhaid i ni dalu dim byd."

Bu'r teulu'n aros am 15 mis cyn cael diagnosis ac maen nhw'n dal i aros am y gwaith papur i'w gadarnhau'n ffurfiol.

Maen nhw'n poeni nad ydyn nhw wedi gallu manteisio ar gefnogaeth yn y cyfamser.

"Ni dal yn teimlo ar goll," meddai Ms Davies wrth Newyddion S4C. "Ni ddim 'di cael unrhyw gymorth ychwanegol, ac mae'n anodd ni jest yn gwneud ymchwil ein hun."

Disgrifiad o'r llun, Mae profiadau plant fel Jack yn gyfarwydd i'r Gymdeithas Awtistiaeth yng Nghymru

Roedd ymuno 芒'r gangen leol o Gymdeithas Awtistiaeth Cymru'n help mawr, medd y teulu. Yn 么l Chris Haines o'r gymdeithas dyw profiad teulu Jack ddim yn anghyffredin.

"Mae rhieni ar hyd a lled y wlad yn dweud wrthon ni eu bod nhw wedi cael trafferth am flynyddoedd i gael y gefnogaeth gywir," meddai.

"Mae hyn wedi bod hyd yn oed yn waeth yn ystod y pandemig, sydd wedi effeithio'n waeth ar bobl awtistig a'u teuluoedd.

"Mae'n bwysig fod plant awtistig yn cael cefnogaeth yn y blynyddoedd cynnar ac mae angen i gynghorau roi blaenoriaeth i hynny."

Disgrifiad o'r llun, Mae gorfod brwydro am gefnogaeth i blentyn ag anghenion yn gwaethygu profiad sydd eisoes yn ddirdynnol i rieni, medd Dr Catrin Ellis Williams

Un sy'n ategu'r neges honno yw'r meddyg teulu Catrin Ellis Williams, sy'n fam i blentyn awtistig.

"Mae o'n brofiad dirdynnol iawn i deuluoedd sylweddoli fod yna broblem efo datblygiad eu plentyn nhw," meddai.

"Mae hynny'n rhywbeth sydd angen cefnogaeth ynddo'i hun. Os ydy rhywun yn gorfod cwffio i gael y gefnogaeth honno mae hynny'n gwneud sefyllfa ddrwg hyd yn oed yn waeth.

"Os nad ydy diagnosis yn digwydd yn gynnar mae o'n golygu fod yna wahaniaethu, a dweud y gwir, i blant sydd angen gofal a mewnbwn ychwanegol felly mae o'n annheg, a dweud y lleia'."

Pecynnau arbenigol - a grant ychwanegol

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr: "Mae'r awdurdod lleol yn cynnig addysg llawn amser i rai disgyblion meithrin ag anghenion addysgol ychwanegol mewn dosbarthiadau prif ffrwd neu drwy adnoddau arbenigol ynghlwm ag ysgolion prif ffrwd.

"Fodd bynnag, nid yr addysg meithrin llawn amser yn addas i bob disgybl meithrin ag anghenion dysgu ychwanegol, cymhleth ac felly mae pecynnau arbenigol, wedi'u teilwra mewn ymateb i anghenion unigol, yn cael eu cynnig.

"Mae pob pecyn arbenigol yn cael eu monitro'r gyson i sicrhau eu bod yn ymateb i anghenion pob plentyn."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod, ar ben y cynnig gofal plant, yn cynnig "rhyw 拢1.5m o bunnoedd i awdurdodau lleol ar ffurf grant ychwanegol i helpu gyda chostau gofal plant ychwanegol".

Mae'r arian hwnnw hefyd 芒'r nod o "sicrhau fod plant cymwys, sydd ag anghenion arbennig, yn cael yr un cynnig gofal plant 芒 phlant eraill".