大象传媒

Nodi pum safle posib ar gyfer ysbyty newydd y gorllewin

  • Cyhoeddwyd
ysbytai
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y bwriad yw israddio gwasanaethau yn ysbytai Glangwili a Llwynhelyg pan fydd yr ysbyty newydd yn barod

Am y tro cyntaf, mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cyhoeddi manylion pum safle posib ar gyfer ysbyty newydd i orllewin Cymru.

Mae'r bwrdd iechyd eisoes wedi cyflwyno achos busnes i Lywodraeth Cymru ar gyfer ysbyty gofal brys a gofal wedi ei gynllunio.

Y bwriad yw israddio gwasanaethau yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili pan fydd y gwaith wedi ei gwblhau, a defnyddio'r ysbytai hynny fel rhai cymunedol lleol - gyda gwasanaethau triniaeth ddydd, therapi a gwelyau dan arweiniad nyrsys.

Mae yna fwriad hefyd i sefydlu unedau m芒n anafiadau yn Llwynhelyg a Glangwili, os ydy'r ysbyty newydd yn cael ei adeiladu.

Daw'r cyhoeddiad wythnos cyn y bydd y Senedd yn trafod deiseb i warchod gwasanaethau brys 24 awr yn Llwynhelyg.

Mae dros 10,000 wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r newidiadau arfaethedig i wasanaethau ysbytai'r gorllewin.

Ble mae'r safleoedd?

Y pum safle posib sydd wedi eu clustnodi gan y bwrdd iechyd ydy:

  • Tir amaethyddol ac adeiladau sy'n rhan o Fferm Kiln Park sydd i'r gogledd o orsaf drenau Arberth ac wrth ymyl yr A478, tua chilomedr i'r gogledd-ddwyrain o ganol tref Arberth;

  • Tir amaethyddol i'r gogledd-ddwyrain o ganol tref Hendy-gwyn ar Daf sydd rhwng yr A40 i'r gogledd, Clwb Rygbi Hendy-gwyn ar Daf i'r dwyrain a Gerddi'r Ffynnon i'r de;

  • Tir amaethyddol ac adeiladau sy'n rhan o Fferm T欧 Newydd, sydd i'r dwyrain o safle Hufenfa Hendy-gwyn ar Daf a chanol tref Hendy-gwyn ar Daf;

  • Tir amaethyddol ac adeiladau sy'n rhan o Penllyne Court rhwng Hendy-gwyn ar Daf a Sancl锚r ychydig y tu allan i Bwll-Trap. Mae'r safle rhwng llinell rheilffordd Abertawe-Hwlffordd i'r gogledd a'r A40 i'r de;

  • Tir amaethyddol sydd wrth ymyl cyffordd yr A40 a'r A477 yn Sancl锚r, rhwng yr A4066 (Ffordd Dinbych-y-pysgod) i'r de, pentref Pwll-Trap i'r gogledd a'r A40 i'r gorllewin.

Ddim yn barod tan 2029

Yr wythnos nesaf bydd pobl o gymunedau ar draws y tair sir yn cael y cyfle i "sgorio'r" pum safle posib ar gyfer ysbyty newydd.

Y gweithdy ar ddydd Mawrth 28 Mehefin fydd yr ail o ddwy sesiwn dechnegol gydag aelodau o'r cyhoedd, staff a phartneriaid.

Pwrpas y gweithdy cyntaf, ym mis Mai, oedd llunio saith maen prawf technegol i'w defnyddio yn y broses sgorio.

Mae'r bwrdd iechyd wedi gwneud cais busnes am 拢1.3bn ar gyfer yr ysbyty newydd ac at welliannau ar safleoedd eraill.

Does dim disgwyl i'r ysbyty newydd agor cyn 2029.

Llywodraeth Cymru a'r bwrdd iechyd fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol yngl欧n 芒 safle'r ysbyty newydd.

Pynciau cysylltiedig