Logan Mwangi: Carcharu mam, llystad a llanc am lofruddiaeth

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Disgrifiad o'r llun, Mae Angharad Williamson, 31, Craig Mulligan, 14, a John Cole, 40 wedi eu dedfrydu

Mae mam, llystad a bachgen 14 oed wedi cael dedfrydau oes am lofruddiaeth bachgen pum mlwydd oed ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Cafodd Logan Mwangi ei ladd ddiwedd Gorffennaf y llynedd gan Angharad Williamson, 31, John Cole, 40, a Craig Mulligan, sy'n cael ei enwi am y tro cyntaf yn dilyn her gyfreithiol yn y llys.

Clywodd yr achos bod corff Logan wedi ei roi mewn bag, a bod Cole wedi ei gario a'i adael yn Afon Ogwr gyda Mulligan.

Pan gafwyd hyd i gorff Logan ger ei gartref yn Sarn, roedd ganddo 56 o anafiadau allanol, a niwed mewnol difrifol i'w abdomen.

Clywodd y rheithgor y byddai gan Logan siawns 80% o oroesi'r anafiadau pe bai wedi ei gludo i'r ysbyty heb oedi, ac y gallai fod wedi cymryd oriau i farw.

Bydd Williamson dan glo am o leiaf 28 o flynyddoedd, a Cole am isafswm o 29 mlynedd.

Cafodd Craig Mulligan hefyd ddedfryd oes, a bydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf 15 mlynedd yn y ddalfa.

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Logan Mwangi ei ladd ddiwedd Gorffennaf y llynedd

Yn dilyn y ddedfryd fe gafwyd cadarnhad gan y barnwr, Mrs Ustus Jefford, fod modd enwi'r llanc 14 oed - Craig Mulligan - am y tro cyntaf.

Ni chafodd ei enwi drwy gydol yr achos llys o dan ddeddf sy'n caniat谩u i unrhyw berson ifanc sy'n ymwneud ag achos troseddol i aros yn anhysbys tan iddo droi'n 18 oed.

Dywedodd Mrs Ustus Jefford fod "bwlch sylweddol mewn unrhyw ddealltwriaeth o'r achos hwn" heb allu enwi Mulligan.

Clywodd y llys nad oedd Mulligan yn fab biolegol i Cole, ond roedd wedi bod dan ei ofal ers iddo fod yn naw mis oed.

Symudodd i gartref y teulu yn Sarn ar 26 Gorffennaf y llynedd - bum diwrnod cyn marwolaeth Logan.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Disgrifiad o'r llun, Clywodd yr achos llys fod Craig Mulligan wedi dweud ei fod eisiau lladd Logan ar fwy nag un achlysur

Wrth ddedfrydu'r tri, dywedodd Mrs Ustus Jefford eu bod "i gyd yn gyfrifol am farwolaeth Logan" a bod ei farwolaeth yn "drasiedi".

Dywedodd fod yr ymosodiad ar y bachgen pump oed "diamddiffyn", oedd yn 3 troedfedd 5 modfedd a 3 st么n 1 pwys, yn "arswydus".

Disgrifiodd hefyd benderfyniad y cwpl i gadw Logan dan glo yn ei ystafell gyda Covid fel un "eithafol".

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Disgrifiad o'r llun, Yn ystod yr achos, aeth y rheithgor i weld yr ystafell ble cafodd Logan ei gadw - y tu 么l i gi芒t ar y drws - yn y dyddiau cyn iddo farw

Dywedodd Mrs Ustus Jefford nad oedd yn derbyn honiad Williamson bod ymosodiad ar y dydd Iau wedi achosi anafiadau angheuol i Logan.

Ond dywedodd ei bod yn derbyn bod yr "ymosodiad corfforol wedi ei gyflawni gennych chi John Cole a'r diffynnydd yn ei arddegau [Craig Mulligan]".

"Rydych yn ddyn 40 oed ac fe wnaethoch chi ymosod ar blentyn bach diamddiffyn," meddai, gan wrthod y syniad nad oedd Cole wedi bwriadu lladd Logan.

Dywedodd y barnwr wrth Williamson ei bod hi'n "sicr na allai'r ymosodiad ffyrnig hwn fod wedi digwydd heb i chi wybod".

Dywedodd Mrs Ustus Jefford wrth Craig Mulligan ei bod yn derbyn ei fod wedi "ymosod yn gorfforol ar Logan" a'i fod wedi gwneud "fel y dywedodd John Cole wrthych neu i adlewyrchu ei weithredoedd".

Disgrifiad o'r llun, Cafwyd mam Logan, Angharad Williamson a'i lystad, John Cole, ynghyd 芒 Craig Mulligan, yn euog o lofruddiaeth

Roedd y llys yn llawn i'r ddedfryd, gan gynnwys aelodau o deulu Logan Mwangi, perthnasau'r diffynyddion ac aelodau'r rheithgor a eisteddodd trwy'r achos.

Roedd Angharad Williamson yn crio drwy gydol y ddedfryd, gan ddal ei phen i lawr.

Ni ddangosodd John Cole na Craig Mulligan unrhyw emosiwn wrth iddyn nhw gael eu dedfrydu.

'Ni fydd yr atgofion yn pylu'

Cyn y dedfrydu clywodd y llys gan dad Logan, Ben Mwangi, a ddywedodd bod y byd yn le "oerach a thywyllach" heb w锚n ac egni ei fab.

"Logan oedd y bachgen mwyaf annwyl a phrydferth, a chafodd ei fywyd ei dorri'n drasig," dywedodd.

"Fydd yr atgofion arbennig sydd gen i o fy mab byth yn pylu; fe fyddan nhw yn fy nghalon a'm enaid am byth.

"Ro'n i'n ei garu gymaint, a rhywsut, mae'n rhaid i fi fyw fy mywyd gan wybod na fydda' i'n ei weld yn tyfu i fod y dyn arbennig y byddai wedi bod".

Fe wnaeth Mr Mwangi ddiolch i swyddogion yr heddlu, t卯m yr erlyniad a'r rheithgor am "weithio'n ddiflino i ddod 芒'r rheiny sy'n gyfrifol am lofruddiaeth fy mab i'r llys".

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Disgrifiad o'r llun, Cafodd corff Logan ei ganfod 250 metr o'r fflat yr oedd yn rhannu gyda'i deulu

'Un o'r achosion mwyaf ers blynyddoedd'

Dywedodd Iwan Jenkins, cyfreithiwr gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Nghaerdydd, bod hwn yn un o'r achosion mwyaf yng Nghymru ers rhai blynyddoedd.

"O ran nifer y bobl oedd ynghlwm 芒 fe roedd e'n enfawr - nifer o bapurau, manylion yr achos - oedd e'n un o'r achosion mwya' ni wedi delio gydag e yma yng Nghymru am sawl blwyddyn," meddai.

"Roedd yr achos yn un manwl iawn oherwydd roedd y celwyddau oedd yn cael eu rhoi yn atal pobl [rhag] deall yn gwmws beth ddigwyddodd o fewn y t欧."

Mae gwasanaeth erlyn y goron yn cydnabod bod cael gafael ar luniau camer芒u diogelwch oedd ar dai cyfagos yn allweddol i erlyniad llwyddiannus.

"Wrth lwc roedd yna deledu cylch cyfyng oedd wedi dangos bod yna ddau yn gadael y t欧 yn cario beth oedd yn edrych fel - ac a brofodd i fod - corff Logan ar y pryd," meddai Mr Jenkins.

Disgrifiad o'r llun, Y ditectif arolygydd Lianne Rees a thad Logan, Ben Mwangi, tu allan i'r llys

Mewn datganiad y tu allan i'r llys yng Nghaerdydd, dywedodd Huw Griffiths, ymchwilydd gyda Heddlu De Cymru, bod y dedfrydau i'w croesawu ond "na all unrhyw gyfiawnder ddod 芒 Logan yn 么l".

"Mae'n amhosib meddwl bod bywyd Logan wedi cael ei dorri mor fyr dan amgylchiadau mor drasig gan y bobl hynny a ddylai wedi bod yno i'w amddiffyn," dywedodd.

"Mae Ben [tad Logan] a'i deulu wedi dangos cryfder anhygoel drwy gydol yr ymchwiliad a'r broses gyfreithiol.

"Gan wybod bod cyfiawnder wedi ei weinyddu yn achos Logan, gobeithio nawr y gallan nhw ailadeiladu eu bywydau a dathlu'r llawenydd y roddodd iddyn nhw yn ystod eu hamser gwerthfawr gyda Logan.

"Ar ran y ditectif arolygydd Lianne Rees, hoffwn dalu teyrnged i broffesiynoldeb swyddogion yr heddlu a chydweithwyr yn y gwasanaethau brys a wynebodd y golygfeydd mwyaf trawmatig posibl fis Gorffennaf diwethaf."