Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ffoaduriaid o Wcr谩in yn uno yng ngogledd Cymru
- Awdur, Liam Evans
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Lai na chwe mis ers dechrau'r rhyfel yn Wcrain - a miloedd o bobl wedi ffoi i Gymru - mae teuluoedd sydd wedi ymgartrefu yn y gogledd wedi cael cyfle i ddod ynghyd.
Roedd pryder nad oedd rhwydwaith hawdd i Wcraniaid yng Nghymru gysylltu 芒'i gilydd, yn enwedig yn ne Gwynedd gyda nifer ar wasgar ers symud.
Dyna pam aeth Gareth Roberts o Drawsfynydd ati, a rhai o'i deulu sydd o Wcr谩in, i drefnu diwrnod yn Yr Ysgwrn, cartref y bardd Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd, er mwyn rhoi'r cyfle i'r ffoaduriaid gwrdd 芒'i gilydd a dysgu am hanes a threftadaeth yr ardal.
Yn 么l Mr Roberts, mae 'na bryder y gallai pobl anghofio am sgil effaith y rhyfel wrth i straeon eraill ddominyddu'r penawdau.
Wrth gyrraedd Yr Ysgwrn fe gafodd y teuluoedd eu croesawu gyda bwyd traddodiadol gan wraig Gareth Roberts, Nataliia, sy'n wreiddiol o Wcr谩in.
Roedd yn gyfle i gael sgwrs anffurfiol gyda theuluoedd eraill a thrafod eu profiadau ers cyrraedd Cymru.
Wrth i'r oedolion drafod, fe gafodd yr ardd gyfagos ei llenwi 芒 chwerthiniad plant fu'n taflu p锚l a chwarae gemau, cyfle am ysbaid.
Mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn newid byd i bob un o'r teuluoedd sydd wedi gwneud y daith hir a phell o Wcr谩in i Gymru.
Gobaith Gareth Roberts ydy gwneud ymgartrefu yma rywfaint yn haws.
"Mae gena' i deulu sydd wedi ffoi o Wcr谩in yn byw efo fi yma a doedd dim llawer o bethau oedd yn digwydd yn ne Gwynedd i groesawu ffoaduriaid felly y bwriad oedd dod 芒 rhai at ei gilydd yma i'r Ysgwrn," meddai.
"Mae'n anodd iddyn nhw dwi'n si诺r, alla i ddim dychmygu yn union sut mae pethau iddyn nhw".
Mae Mr Roberts yn dweud bod ei wraig weithiau'n "ddigalon" ac wrth ofyn pam, mae'n clywed hanesion ffrindiau'r teulu sydd yn dal i wynebu erchyllterau'r rhyfel yn Wcr谩in.
"Rhaid inni fod yn sensitif iawn a dyna pam 'dan ni yma yn Yr Ysgwrn wrth gwrs."
Ers dechrau'r rhyfel mae'r straeon personol wedi ennyn sylw'r byd ond yn 么l Mr Roberts, wrth i straeon eraill fel effaith costau byw ddomiynyddu'r penawdau, mae 'na bryder fe allai pobl yng Nghymru anghofio yr hyn sy'n digwydd yn nwyrain Ewrop.
"Mae 'na bosibrwydd fydd pethau'n gwaethygu," meddai.
"Mae'n bosib fydd pobl yn y wlad yn newid eu safbwynt tuag at ffoaduriaid ond dyna pam mae'n bwysig i ni beidio anghofio, i ni godi ymwybyddiaeth o'r ffaith bod y rhyfel yn parhau a bod y bobl yma yng Nghymru yn dibynnu arnom ni i'w cefnogi nhw."
Wedi cyfle i ddod i adnabod ei gilydd, fe gafodd y teuluoedd y cyfle i fynd draw am Yr Ysgwrn a chael eu tywys o gwmpas hen d欧 Hedd Wyn sydd hyd heddiw yn yr un cyflwr ag y gafodd ei adael.
Wrth gyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg, ac o'r Saesneg yna i'r Wcraneg, fe gafodd y teuluoedd y cyfle i glywed am hanes y bardd Hedd Wyn a chlywed hanes y Gadair Ddu.
Yn 么l Mr Roberts, mae'r Ysgwrn a Hedd Wyn ei hun yn gynrychiolaeth o heddwch; heddwch mae bob teulu o Wcr谩in yn ymbil am weld yn eu mamwlad sydd ar brydiau, yn teimlo'n bell iawn i ffwrdd.