Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Heddlu Gwent: Gwahardd tri wrth lansio ymchwiliad ymddygiad
Mae tri o swyddogion Heddlu Gwent wedi eu gwahardd dros dro yn dilyn honiadau o gamymddwyn.
Daw ar 么l i gorff gwarchod yr heddlu gyhoeddi ymchwiliad i ymddygiad swyddogion Heddlu Gwent wedi honiadau o negeseuon hiliol a homoffobig, a chasineb at fenywod.
Mae'n dilyn adroddiadau bod negeseuon wedi'u darganfod ar ff么n plismon wedi ymddeol, Ricky Jones, a laddodd ei hun yn 2020.
Dywedodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) fod nifer o swyddogion yn destun ymchwiliad ac y byddai'n parhau i adolygu swyddogion eraill.
A dywedodd Heddlu Gwent y byddai'n gweithio gyda'r IOPC "i sicrhau proses lawn a thryloyw i fynd i'r afael ag unrhyw ymddygiad annerbyniol gan swyddogion".
Ychwanegodd Heddlu Gwent: "Rydym wedi gwahardd dros dro dri o swyddogion mewn perthynas 芒 honiadau o gamymddwyn.
"Yn dilyn honiadau a gyhoeddwyd yn The Sunday Times ar ddydd Sul 13 a 20 Tachwedd rydym wedi gweithio i adnabod y swyddogion dan sylw ac i gymryd y camau priodol.
"Mae ein gwaith i herio unrhyw gamymddwyn gan swyddogion presennol yn parhau."
Cafodd y negeseuon eu darganfod gan deulu y diweddar Ricky Jones.
Adroddodd erthygl y Sunday Times fod negeseuon WhatsApp a Facebook yn dangos swyddogion Heddlu Gwent yn trafod aflonyddu cydweithwyr benywaidd iau yn rhywiol yn ogystal 芒 hiliaeth, cam-drin homoffobig a misogynistaidd, gollwng deunydd heddlu sensitif a llygredd.
Dywedodd adroddiad dilynol fod cyn-heddweision wedi cellwair am Jimmy Savile yn achub y bechgyn ysgol o Wlad Thai oedd yn gaeth mewn ogof, ac wedi cyfnewid lluniau noeth o b锚l-droediwr benywaidd.
'Peri gofid mawr'
Dywedodd cyfarwyddwr IOPC Cymru, Catrin Evans: "Ar sail ein hasesiad o'r atgyfeiriadau o ran ymddygiad a dderbyniwyd hyd yn hyn, rydym wedi penderfynu bod ymchwiliad annibynnol yn hanfodol i gynnal hyder y cyhoedd."
Ychwanegodd Ms Evans: "Rwy'n cydnabod y bydd y negeseuon sydd wedi eu cyhoeddi, gafodd eu rhannu - mae'n ymddangos - ymhlith swyddogion heddlu, yn peri gofid mawr i lawer o bobl".
Ymatebodd merch Ricky Jones, sydd ddim eisiau rhoi ei henw, fod y teulu'n "ddig" eu bod wedi clywed am ymchwiliad yr IOPC a'r gwaharddiadau gan y cyfryngau yn hytrach na Heddlu Gwent, Heddlu Wiltshire neu'r IOPC.
Meddai: "Mae'n drueni ein bod ni wedi gorfod mynd yn gyhoeddus er mwyn i hyn ddigwydd.
"Dylai hyn fod wedi digwydd flynyddoedd yn 么l pan godwyd y mater yn wreiddiol gennym."
Ychwanegodd ni ddylid fod wedi "achosi poen pellach" i "deulu camdriniwr trwy eu gorfodi i godi'r mater yn gyhoeddus... er mwyn i'r heddlu wneud y peth iawn".
'Dim hyder'
Yn gynharach yr wythnos hon roedd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, wedi dweud nad oes ganddo hyder yn arweinyddiaeth Prif Gwnstabl Heddlu Gwent Pam Kelly a chomisiynydd heddlu a throseddu'r rhanbarth, Jeff Cuthbert.
Fe wnaeth Mr Jones ymddeol o Heddlu Gwent yn 2017. Bu farw drwy hunanladdiad ar Bont Tywysog Cymru yn 2020.
Ond yn 么l ei wraig a'i ferch roedd yn rheoli ac yn cam-drin adref.
Dywedodd yr IOPC y byddai Heddlu Wiltshire yn parhau i edrych ar y modd yr ymdriniodd Heddlu Gwent 芒'u hymchwiliad i farwolaeth Mr Jones, a chysylltiad swyddogion 芒 pherthnasau.