Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Uwch aelod o staff Plaid Cymru yn wynebu honiad ymosodiad rhyw
- Awdur, Teleri Glyn Jones
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Mae honiad o ymosodiad rhyw wedi'i wneud yn erbyn uwch aelod o staff Plaid Cymru.
Mae 大象传媒 Cymru yn deall bod y cyhuddiad yn ganolog i'r ymchwiliad gan gwmni allanol i honiadau o gamymddwyn o fewn y blaid.
Dywedodd cyn-aelod o staff bod y digwyddiad honedig wedi digwydd tua phedair blynedd yn 么l, pan oedden nhw'n gweithio i'r blaid.
Dyw Plaid Cymru ddim wedi gwneud sylw am yr honiadau.
Mae person arall wedi dweud bod yr un uwch aelod o staff wedi gwneud iddyn nhw deimlo yn anghyfforddus ar sawl achlysur.
Mewn datganiad blaenorol dywedodd Cadeirydd Plaid Cymru, Marc Jones, ei fod eisiau "rhoi sicrwydd i holl aelodau Plaid Cymru fy mod yn cymryd y materion a phrosesau hyn o ddifri'".
Dyw'r 大象传媒 ddim wedi gallu cysylltu 芒'r aelod o staff sydd wedi'i gyhuddo.
Mae'r honiadau yma ar wah芒n i'r honiadau yn erbyn Aelod o'r Senedd Rhys ab Owen.
'Dim lle i droi'
Dywedodd y cyn-aelod o staff wrth y 大象传媒 bod y digwyddiad honedig wedi gwneud iddyn nhw deimlo "nad oedd ganddyn nhw unrhyw le i droi".
"Roedd yn teimlo fel lle, ble y dylen i fod yn saff, ond roeddwn i wastad yn teimlo ar bigau'r drain, ychydig fel plentyn yn y gwely yn cael hunllef.
"Roedd yna ddeuoliaeth ryfedd rhwng teimlo nad oeddwn i'n gallu gwneud dim ond hefyd eisiau cael fy nghynnwys."
Ychwanegodd y cyn-aelod o staff nad oedden nhw eisiau "corddi'r dyfroedd" a dweud wrth eraill be ddigwyddodd "gan ei fod yn deulu hapus, ond un gyda chyfrinach".
Fe ddywedon nhw nad oedden nhw'n gwybod sut neu at bwy i wneud cwyn.
Mae 大象传媒 Cymru hefyd wedi clywed honiadau gan ail unigolyn.
Maen nhw'n honni i'r uwch aelod o staff wneud iddyn nhw deimlo'n anghyfforddus iawn ar nifer o achlysuron, a'u bod wedi derbyn negeseuon awgrymog ganddyn nhw.
Maen nhw'n dweud nad oedden nhw wedi dweud wrth unrhyw un beth ddigwyddodd am eu bod ofn yr uwch aelod o staff a'r goblygiadau posib iddyn nhw eu hunain.
"Ar y pryd fe deimlais nad oedd o'n werth yr ymdrech i wneud cwyn swyddogol yn erbyn ffigwr mor bwerus o fewn y blaid, yn enwedig gan na fuaswn i'n ymddiried yn arweinyddiaeth y blaid i ddelio efo hyn yn iawn ac i warchod fy lles i.
"Mae nifer o aelodau, staff a gwleidyddion Plaid yn teimlo yn lwcus iawn i fod yn rhan o'r llinach hanesyddol yma sy'n mynd yn 么l mor bell a ddim eisiau bod yn gyfrifol am niweidio'r blaid sydd wedi chwarae r么l mor allweddol yn siapio Cymru fodern.
"Wrth gwrs, nid y rheiny sy'n gwneud honiadau sy'n niweidio'r blaid, yn hytrach mae'n glir mai'r troseddwyr a'r rheiny sy'n eu galluogi yw'r broblem go iawn."
Fe wrthododd Plaid Cymru 芒 gwneud sylw am y pryderon penodol yma.
Yn hytrach fe gyfeiriwyd 大象传媒 Cymru at ddatganiad wnaed mewn ymateb i'r adroddiadau bod cwmni adnoddau dynol allanol yn cael eu penodi i edrych ar honiadau o gamymddwyn.
'Cymryd y materion o ddifri'
Yn y datganiad yna, dywedodd cadeirydd y blaid Marc Jones: "Yn naturiol ar y pwynt yma, nid ydym yn gallu rhannu unrhyw wybodaeth am unrhyw achosion unigol neu honiadau, ond dwi eisiau rhoi sicrwydd i holl aelodau Plaid Cymru fy mod yn cymryd y materion a phrosesau hyn o ddifri'.
"Rydym wedi penodi arbenigwyr adnoddau dynol allanol i helpu gyda'n gwaith.
"Rydym yn cynnig cymorth i bob aelod o staff, wrth i ni flaenoriaethu eu lles. Rydym yn cynnal arolwg o brofiadau staff fydd yn sail i'n penderfyniadau yn y dyfodol.
"Heb ragfarnu canlyniad unrhyw ymchwiliad sydd ar waith, fe fyddwn mor agored ag y gallwn fod wrth i ni barhau i sicrhau bod ein holl brosesau mewnol yn cael eu dilyn yn drylwyr bob amser."
Mae'r honiadau yn dilyn honiadau eraill o ddiwylliant tocsig o fewn y blaid a gwaharddiad Rhys ab Owen, AS Canol De Cymru o gr诺p y blaid.
Deallir iddo gael ei wahardd yn sgil honiad difrifol am ei ymddygiad, tra eu bod yn aros am gasgliad ymchwiliad gan Gomisiynydd Safonau'r Senedd.
Mae 大象传媒 Cymru wedi siarad 芒 sawl ffynhonnell sy'n dweud bod yna anesmwythder sylweddol o fewn y blaid yngl欧n 芒'r ffordd y cafodd yr honiadau eu trin, a bod pryderon wedi'u mynegi am ymddygiad Rhys ab Owen flwyddyn yn 么l.
Fe gyfeiriodd un ffynhonnell at "ddiwylliant ofnadwy" yn y blaid a "diffyg arweinyddiaeth".
Pan gafodd Mr ab Owen ei wahardd, dywedodd llefarydd ar ran gr诺p Plaid Cymru yn y Senedd: "Mae Rhys ab Owen, Aelod o'r Senedd dros Ganol De Cymru o Blaid Cymru, a gr诺p Plaid Cymru yn y Senedd wedi cytuno ar y cyd i'w atal dros dro o gr诺p Plaid Cymru.
"Mae hon yn weithred niwtral, heb ragfarn, tra'n aros am gasgliad ymchwiliad gan Gomisiynydd Safonau'r Senedd i achos honedig o dorri'r cod ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Senedd."
Roedd y 大象传媒 wedi gofyn i Mr ab Owen am sylw, ond ni chafwyd ymateb.