Hyfforddwr 'wedi ymosod ar ddyfarnwr' mewn g锚m merched

Ffynhonnell y llun, FAW/Nik Mesney

  • Awdur, Iolo Cheung
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

Mae Cymdeithas B锚l-droed De Cymru a'r heddlu yn ymchwilio i honiadau fod hyfforddwr wedi taro dyfarnwr yn ystod g锚m merched ddydd Sul.

Cafodd yr ornest rhwng Merched Tredegar a Merched Lido Afan ei chanslo yn dilyn adroddiadau bod hyfforddwr Lido Afan wedi taro un o'r swyddogion.

Dywedodd CPD Merched Lido Afan wrth 大象传媒 Cymru eu bod yn cydweithio ag ymchwiliad Cymdeithas B锚l-droed De Cymru, ond nad oedden nhw am wneud sylw pellach ar hyn o bryd.

Mewn datganiad dywedodd Cymdeithas B锚l-droed De Cymru eu bod yn "ymwybodol o ymosodiad honedig ar ddyfarnwr".

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi cael gwybod fore Llun am y digwyddiad ddydd Sul, a'u bod hwythau yn ymchwilio i'r digwyddiad ble gafodd un dyn "anfiadau i'w wyneb".

Mae'r 大象传媒 yn deall fod y digwyddiad yn ymwneud 芒 dau ddyn.

'Annerbyniol'

Dywedodd Cymdeithas B锚l-droed De Cymru: "Yn unol 芒 chanllawiau CBDC, mae'r troseddwr honedig wedi cael eu gwahardd o bob agwedd o b锚l-droed tra'n bod ni'n aros am wrandawiad llawn. Allwn ni ddim gwneud sylw pellach ar hyn o bryd."

Wrth ymateb i'r honiadau ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd prif weithredwr CPDC Noel Mooney eu bod "yn ymwybodol o'r digwyddiad".

"Mae nawr yn mynd i'r broses sydd yn rhaid i ni ei barchu, a chael ffydd y bydd cyfiawnder yn cael ei sicrhau," meddai.

"Dylai gwarchod a chefnogi ein swyddogion gemau wastad fod ar flaen ein meddwl... dim dyfarnwr, dim g锚m."

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd CPD Lido Afan, sy'n cynrychioli t卯m y dynion, nad oedd ganddyn nhw "berthynas o gwbl" gyda CPD Merched Lido Afan, yn dilyn "digwyddiad ar y cae" dros y penwythnos.

Ychwanegodd y clwb: "Mae CPD Lido Afan yn condemnio unrhyw drais corfforol neu eiriol ac amarch tuag at swyddogion y g锚m. Hoffwn ddymuno gwellhad buan i'r swyddog oedd yn rhan o'r digwyddiad heddiw."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd cadeirydd CPD Tredegar, Andrew Evans wrth 大象传媒 Cymru Fyw fod y clwb yn "mynegi eu pryder ac ymddiheuriadau" i'r dyfarnwr.

"Allwn ni ddim caniat谩u'r math yma o ymddygiad yn ein camp ar unrhyw lefel," meddai.

"Rydyn ni i gyd yn deall bod penderfyniadau anghywir yn gallu cael eu gwneud, a bod pobl yn teimlo rhwystredigaeth, ond ddylai hynny fyth olygu ymosodiad ar ddyfarnwr."

Dywedodd fod digwyddiadau o'r fath yn "annerbyniol", a'i fod yn poeni y gallai'r digwyddiad olygu bod llai o bobl yn awyddus i ddyfarnu.

"Fel clwb 'naethon ni anfon tair o ferched 15 oed ar gwrs dyfarnu ddoe, a nawr maen nhw'n gofyn i mi ai dyma'r peth iawn iddyn nhw. Does gen i ddim ateb i hynny," meddai.

"Mae angen dyfarnwyr ar y g锚m, ond pwy yn eu iawn bwyll fyddai eisiau dyfarnu pan mae pethau fel hyn yn digwydd?"

Ychwanegodd fod y clwb yn "condemnio'r math yma o ymddygiad" a'i fod yn gobeithio y bydd y dyfarnwr yn dychwelyd yn fuan.

Digwyddiad 'digalon' i'r merched

Dywedodd capten Merched Tredegar, Darcey Taylor, fod gweld digwyddiadau o'r fath o fewn p锚l-droed merched yn "ddigalon iawn".

"Mae'n frawychus i'r chwaraewyr sy'n rhan o'r peth, yn enwedig ar adeg pan 'dyn ni'n ceisio magu hyder merched i chwarae p锚l-droed," meddai.

"Gyda merched sy'n dod drwy'r oedrannau ifanc ac eisiau chwarae i'r timau h欧n, mae camu lan yn 15-16 oed yn brofiad nerfus i chwaraewyr beth bynnag heb fod pethau fel hyn yn digwydd."

Ychwanegodd nad oedd "unrhyw drafferth" wedi bod rhwng chwaraewyr y ddau d卯m, a'u bod yn "hynod siomedig" fod y g锚m wedi gorfod cael ei stopio.