Cymru: Pedwar heb gap yng ngharfan Robert Page

Ffynhonnell y llun, Getty Images/FAW

Disgrifiad o'r llun, S锚r y dyfodol? (O'r chwith i'r dde) Jordan James, Nathan Broadhead, Luke Harris ac Oli Cooper

Mae pedwar chwaraewr sydd heb ennill cap rhyngwladol wedi eu cynnwys yng ngharfan Cymru i wynebu Croatia a Latfia fis yma.

Mae gan Jordan James, Nathan Broadhead, Luke Harris ac Oli Cooper siawns o ennill eu capiau cyntaf wrth i Gymru chwarae eu gemau agoriadol yn ymgyrch ragbrofol Euro 2024.

Mae ymosodwr Millwall, Tom Bradshaw, hefyd wedi'i gynnwys yn y garfan am y tro cyntaf ers pum mlynedd.

Dyma'r tro cyntaf i'r rheolwr Rob Page enwi garfan ers i Gareth Bale, Joe Allen, Chris Gunter a Jonny Williams ymddeol o'r t卯m cenedlaethol.

Mae chwaraewr ganol cae Nice, Aaron Ramsey, yn holliach ac ef hefyd sydd wedi'i enwi'n gapten, gyda Ben Davies yn is-gapten.

Mae Cymru yn dechrau eu hymgyrch gyda thaith i Croatia ar 25 Mawrth, cyn croesawu Latfia i Stadiwm Dinas Caerdydd ar 28 Mawrth.

Y nod i Gymru fydd cyrraedd eu trydedd Bencampwriaeth Ewropeaidd yn olynol, fydd yn cael ei chynnal yn yr Almaen yr haf nesaf.

Ffynhonnell y llun, Rex Features

Disgrifiad o'r llun, Mae cyn-chwaraewr Aberystwyth, Tom Bradshaw, yn mwynhau tymor i'w gofio gyda Millwall

Mae Bradshaw, 30, wedi sgorio 13 g么l y tymor hwn i Millwall ac yn bumed prif sgoriwr y Bencampwriaeth, ar 么l cael ei enwi'n chwaraewr y mis ym mis Chwefror.

Mae deuawd Nottingham Forest, Brennan Johnson a Wayne Hennessey, ill dau wedi'u henwi yn y garfan er gwaethaf pryderon am anafiadau.

Dioddefodd Johnson anaf i'w goes yn dilyn y g锚m yn erbyn Tottenham Hotspur brynhawn Sadwrn, gyda'r rheolwr Steve Cooper yn dweud nad oedd "yn gwybod pa mor ddrwg" oedd ei anaf.

Ymysg yr enwau anghyfarwydd mae chwaraewr canol cae Birmingham, Jordan James, 18, yn fab i gyn-amddiffynnwr Casnewydd Tony James ac Oli Cooper o Abertawe, 23, yn fab i gyn-chwaraewr canol cae Caerdydd, Kevin Cooper.

Mae Nathan Broadhead, sy'n dod o Fangor, hefyd yn cael ei wobrwyo yn dilyn tymor llewyrchus gydag Ipswich.

Ond nid yw Rubin Colwill, Mark Harris, Dylan Levitt na Matt Smith wedi'u henwi.

Y garfan yn llawn

Wayne Hennessey, Danny Ward, Adam Davies, Ben Davies, Neco Williams, Ben Cabango, Oliver Cooper, Tom Lockyer, Joe Rodon, Chris Mepham, Ethan Ampadu, Connor Roberts, Sorba Thomas, Jordan James, Nathan Broadhead, Wes Burns, Joe Morrell, Aaron Ramsey, Harry Wilson, Daniel James, Kieffer Moore, Luke Harris, Brennan Johnson, Tom Bradshaw.