笔锚濒-诲谤辞别诲: Chris Gunter yn ymuno 芒 staff hyfforddi Cymru

Ffynhonnell y llun, FAW/John Smith

Disgrifiad o'r llun, Mae Chris Gunter (dde) yn ymuno 芒 Robert Page (chwith), Alan Knill ac Eric Ramsay

Mae cyn-amddiffynnwr Cymru, Chris Gunter, wedi ymuno 芒 staff hyfforddi p锚l-droed Cymru ar gyfer gemau rhyngwladol mis Mawrth.

Fe gyhoeddodd Gunter, sy'n 33 oed, ei ymddeoliad o'r g锚m ryngwladol yn gynharach yn y mis.

Bu'n rhan allweddol o garfan Cymru ers dros 15 mlynedd, gan ennill 109 o gapiau - y dyn cyntaf i ennill 100 o gapiau.

Mae'n parhau i chwarae ar lefel clwb gyda AFC Wimbledon yn Adran Dau ond bydd yn colli'r ddwy g锚m nesaf.

Dywedodd Cymdeithas B锚l-droed Cymru fod r么l Gunter yr wythnos hon yn "cael ei ystyried fel rhan o symud tuag at waith hyfforddi yn y dyfodol".

Wrth gadarnhau y bydd yn colli eu dwy g锚m nesaf, dywedodd Wimbledon ei fod wedi ei gytuno y bydd Gunter yn cael "gwireddu ei ddymuniad i gymryd cyfleoedd hyfforddi gyda Chymru".

Ffynhonnell y llun, FAW

Disgrifiad o'r llun, Fe gyhoeddodd Chris Gunter ei ymddeoliad o gemau rhyngwladol yn gynharach yn y mis

Mae Page wedi ychwanegu staff eraill i'w d卯m yn ddiweddar hefyd gydag Eric Ramsay o Manchester United a Nick Davies o West Ham yn ymuno ar gytundebau rhan amser.

Fe adawodd Kit Symons ei r么l fel is-reolwr Cymru fis Ionawr yn dilyn canlyniad siomedig Cwpan y Byd Qatar 2022.

Cyhoeddodd Gunter ei ymddeoliad o gemau rhyngwladol tua'r un pryd 芒 Gareth Bale a Joe Allen.

Bydd Cymru'n dechrau ar eu hymgyrch i ennill eu lle yn Euro 2024 ddydd Sadwrn 25 Mawrth yn erbyn Croatia, cyn croesawu Latfia i Gaerdydd ar 28 Mawrth.

Yn y cyfamser mae Liam Cullen a Mark Harris wedi ymuno 芒'r garfan gyda Wayne Hennessey yn tynnu allan.

Mae disgwyl i Brennan Johnson ymuno 芒'r chwaraewyr ddydd Iau i gael asesiad pellach gan y t卯m meddygol.