拢330,000 yn ychwanegol i golwg360 ar 么l diflaniad Corgi Cymru

Ffynhonnell y llun, Golwg

Disgrifiad o'r llun, Golwg360

Mae gwefan golwg360 wedi sicrhau 拢330,000 o arian ychwanegol gan Gyngor Llyfrau Cymru.

Daw'r arian ychwanegol ar 么l i wasanaeth newyddion Corgi Cymru ddod i ben ddiwedd 2022, dim ond chwe mis ers ei lansio.

Mae'r arian yn deillio o'r taliad blynyddol o 拢100,000 gafodd ei roi i Corgi Cymru, a'r arian oedd dal yn weddill o grant y flwyddyn gyntaf ar 么l i'r cwmni roi'r gorau iddi.

Bydd yr arian ychwanegol yn cael ei dalu dros gyfnod o dair blynedd.

Y Cyngor Llyfrau sy'n gyfrifol am weinyddu'r grant ar ran Llywodraeth Cymru.

'Cynulleidfaoedd newydd'

Yn Awst 2020, fe lwyddodd Corgi Cymru i sicrhau grant o 拢100,000 gan y Cyngor Llyfrau ar 么l proses dendro.

Ar y pryd, fe olygodd hynny bod grant gwefan newyddion golwg360 wedi ei haneru o'r 拢200,000 y flwyddyn roedden nhw'n arfer ei dderbyn.

Dywedodd y Cyngor Llyfrau fod yr arian ychwanegol i golwg360 eleni wedi ei ddyfarnu "yn dilyn proses tendr agored dros y gaeaf".

Dywedodd Arwel Jones, Pennaeth Datblygu Cyhoeddi'r Cyngor Llyfrau: "Mae'n braf gweld bod gwasanaeth newyddion golwg360 yn mynd o nerth i nerth, ac edrychwn ymlaen at weld yr arian ychwanegol hwn yn caniat谩u iddo ddatblygu dulliau o gyrraedd cynulleidfaoedd newydd."

Dywedodd Owain Schiavone, Prif Weithredwr Golwg Cyf: "Rydyn ni wrth gwrs yn falch iawn o'r buddsoddiad ychwanegol tuag at golwg360, ac yn edrych ymlaen at ddatblygu nifer o brosiectau cyffrous dros y tair blynedd nesaf.

"Mae'r buddsoddiad yma'n helpu i atgyfnerthu'r gwasanaeth presennol, sy'n gwneud gwaith arbennig o ystyried yr adnoddau, ond mae hefyd yn cynnig cyfle i ni nawr ategu'r gwasanaeth craidd trwy arbrofi a cheisio datblygu elfennau newydd."

Cwmni Newsquest oedd y tu cefn i'r fenter Corgi Cymru, a oedd yn chwaer gyhoeddiad i The National Wales, a ddaeth i ben hefyd yn 2022.