Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Dylai Jonathan Edwards gael dychwelyd i Blaid Cymru'
Dywed cyn-arweinydd Cyngor Ceredigion y dylai Jonathan Edwards AS gael dychwelyd i Blaid Cymru.
Cafodd ei wahardd o'r blaid ym Mai 2020 wedi iddo dderbyn rhybudd heddlu am ymosod ar ei wraig. Mae e bellach yn AS annibynnol.
Wrth siarad ar raglen Bore Sul ar Radio Cymru dywedodd Ellen ap Gwynn o'r blaid y dylai Mr Edwards gael "ail gyfle".
Dywed llefarydd ar ran Plaid Cymru eu bod yn canolbwyntio ar y dyfodol a chyflwyno polis茂au blaengar.
Ym mis Ionawr dywedodd Mr Edwards ei fod yn ystyried sefyll yn erbyn ei gyn-blaid yn yr etholiad nesaf gan fod ganddo gefnogaeth yn lleol.
Yn 2022 fe gafodd Mr Edwards, AS sy'n cynrychioli Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn San Steffan hawl i ailymuno 芒 Phlaid Cymru gan banel disgyblu - gan ysgogi dadl a ddylai gael cynrychioli Plaid Cymru yn San Steffan.
Fe wnaeth y rhan fwyaf o bwyllgor gweithredol y blaid argymell na ddylai gael ailgydio yn ei waith fel AS Plaid Cymru.
'Angen derbyn barn y panel disgyblu'
"Yn fy marn i, ma' gan y blaid bolisi o 'restorative justice', a dwi yn credu y dyla fo fod wedi cael ail gyfle. Dwi yn gwybod fod y drefn o ddisgyblu wedi ei dilyn, a'i dilyn yn gywir," meddai Ellen ap Gwynn.
"Fe gafodd o gosb, fe gafodd ei ddiarddel am flwyddyn, ac wedyn wnaethon nhw ailystyried a mi benderfynon nhw y bydde fo yn gallu ailymuno.
"Ond, am ryw reswm, roedd yna deimlad digon annifyr yn yr achos yma na ddyla fo ddim cael ei aildderbyn i'r blaid."
Wrth gael ei holi a ydi'n iawn i ddweud ei fod wedi cael cam o ystyried ei fod wedi cael rhybudd heddlu dywedodd Ellen ap Gwynn: "Fe gafodd o ei gosbi, a does 'na ddim s么n fod unrhyw beth tebyg wedi digwydd cyn nac ar 么l hynny, felly bydden ni yn derbyn barn y pwyllgor disgyblu sydd yn gwybod mwy am gefndir yr achos na neb."
Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Mae holl sylw Plaid Cymru ar y dyfodol, ar barhau i weithredu polis茂au radical trwy'r Cytundeb Cydweithio sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl a chyflwyno syniadau blaengar sy'n mynd i'r afael聽芒'r argyfwng costau byw."聽