Cyhoeddi Liz Saville Roberts yn Llywydd Eisteddfod 2023

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Disgrifiad o'r llun, Dysgodd Liz Saville Roberts Gymraeg tra yn y brifysgol yn Aberystwyth

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi mai Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, fydd Llywydd y Brifwyl eleni, wedi iddi gael ei gwahodd gan y pwyllgor gwaith.

Wedi byw ym Mhen Ll欧n ers 1993, Liz oedd AS benywaidd cyntaf Plaid Cymru pan gafodd ei hethol yn 2015, a hi bellach yw Arweinydd Seneddol Plaid Cymru yn San Steffan.

Fe fydd hi'n annerch y gynulleidfa o lwyfan y pafiliwn mawr ar faes y brifwyl, sy'n cael ei chynnal ym Moduan rhwng 5 a 12 Awst, ac fe fydd hefyd yn un o feirniaid cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni.

Yn wreiddiol o Lundain, fe wnaeth Ms Roberts ddysgu Cymraeg tra ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan dreulio cyfnod fel darlithydd addysg bellach gyda Choleg Meirion Dwyfor, lle bu'n datblygu addysg Gymraeg.

Nid dyma'r tro cyntaf i aelod o Blaid Cymru gymryd yr awenau, gyda'r AS Ben Lake yn Llywydd y llynedd.

Mae Cymry amlwg eraill wedi bod yn llywyddion yr 糯yl dros y blynyddoedd, gan gynnwys y cyflwynydd a'r DJ, Huw Stephens, yr hanesydd Elin Jones a chyn-reolwr cynorthwyol t卯m p锚l-droed dynion Cymru, Osian Roberts.