Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Aelod o fwrdd undeb rygbi yn beirniadu ymchwiliad 大象传媒
Mae aelod o fwrdd Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi beirniadu 大象传媒 Cymru am yr ymchwiliad wnaeth dynnu sylw at bryderon am "ddiwylliant gwenwynig" o fewn yr undeb.
Fe wnaeth Henry Engelhardt, y biliwnydd a gyd-sefydlodd cwmni yswiriant Admiral, ei sylwadau yn beirniadu'r gorfforaeth ar bodlediad 大象传媒 Walescast.
Dywedodd Mr Engelhardt ei fod wedi "clywed am bethau sydd ddim yn rhoi'r 大象传媒 mewn goleuni da, am na wnaethon nhw wrando".
Fe ddefnyddiodd y gair "cyffrogarwch" (sensationalism) i ddisgrifo rhaglen 大象传媒 Wales Investigates ar y mater, gan ychwanegu nad oedden nhw "eisiau gwybod" ar 么l cael eu "siarad drwy bethau" gan URC.
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran y 大象传媒 eu bod nhw'n parhau i gredu yng "nghywirdeb a chryfder" eu newyddiaduraeth yn ymwneud 芒'r stori.
Honiadau 'ddim yn gywir'
Fe wnaeth ymchwiliad 大象传媒 Wales Investigates ddatgelu honiadau o "ddiwylliant gwenwynig", rhywiaeth a chasineb o fewn Undeb Rygbi Cymru.
Arweiniodd hynny at ymddiswyddiad y prif weithredwr, Steve Phillips, ac mae tasglu annibynnol nawr wedi cael ei sefydlu i edrych ar y ffordd mae'r sefydliad wedi gweithredu.
Fe wnaeth y prif weithredwr dros dro, Nigel Walker, hefyd gydnabod i bwyllgor Senedd fod yr undeb "wedi bod yn gwadu maint y broblem" sy'n eu hwynebu.
Ond wrth siarad ar y podlediad, dywedodd Mr Engelhardt fod rhai pethau yn y rhaglen "ddim yn gywir", ac yn "gwneud i bethau edrych yn llawer gwaeth na beth wnaeth ddigwydd, neu hyd yn oed ddim digwydd".
Dywedodd bod hynny wedi dysgu llawer iddo am "newyddiaduraeth, cyffrogarwch a diffyg atebolrwydd".
Mewn ymateb fe gyfeiriodd cyflwynydd y podlediad, Felicity Evans at sylwadau Mr Walker oedd yn cydnabod bod methiant wedi bod yn y ffordd roedd URC wedi delio gyda chyhuddiadau o rywiaeth.
Ychwanegodd Mr Engelhardt bod rygbi dan straen economaidd yng Nghymru, ond bod Stadiwm Principality yn fantais oedd yn dod ag arian i mewn i URC, ac y byddai'r undeb yn "dod allan yn well" wrth i newidiadau gael eu gwneud ar lefel bwrdd.
Dywedodd llefarydd ar ran y 大象传媒: "Mae'r 大象传媒 yn parhau i gredu yng nghywirdeb a chryfder ei newyddiaduraeth yn rhaglen 大象传媒 Wales Investigates - 'Welsh Rugby Under the Spotlight'.
"Fe ddatgelodd bryderon difrifol am y ffordd y gwnaeth URC ddelio gydag honiadau o rywiaeth, aflonyddu rhywiol, casineb at fenywod, sylwadau hiliol a homoffobaidd, a bwlio gan gyn-aelod o staff."