Gohirio streic nyrsys Cymru wedi cynnig trafodaethau

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Bu nyrsys yn streicio ar 6 a 7 Mehefin, ond mae streic ar gyfer 12 a 13 Gorffennaf wedi'i ohirio

Mae streic gan nyrsys wedi cael ei ohirio yn dilyn cynnig trafodaethau pellach gydag undeb gan Lywodraeth Cymru.

Roedd y streic gan aelodau'r Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN Cymru) yn wreiddiol wedi'i chynllunio ar gyfer 12 ac 13 Gorffennaf.

Mi wnaeth aelodau RCN Cymru wrthod y cynnig tal diweddaraf gan y llywodraeth a chynnal streic ym mis Mehefin.

Cafodd y cynnig hwnnw ei dderbyn gan y rhan fwyaf o undebau iechyd, gyda'r nyrsys felly hefyd yn derbyn y taliadau ychwanegol a gynigwyd er eu bod yn parhau i streicio.

Y cynnig oedd 5% o godiad cyflog i'r staff iechyd perthnasol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, a thaliad un-tro ychwanegol ar gyfer llynedd o rhwng 拢900 a 拢1,190.

Mae'r llywodraeth wedi cynnig trafodaethau ymhellach yngl欧n ag elfennau o'r cytundeb nad sy'n ymwneud 芒 th芒l.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd cyfarwyddwr RCN Cymru, Helen Whyley, ei bod yn obeithiol y bydd trafodaethau'n arwain at "ganlyniadau cadarnhaol sylweddol"

Dywedodd cyfarwyddwr RCN Cymru, Helen Whyley: "Mae ein streic ym Mehefin yn amlwg wedi bod yn effeithiol gan fod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar leisiau aelodau'r RCN yngl欧n 芒 materion sy'n wynebu nyrsio yng Nghymru.

"Mae gweithredu diwydiannol yn parhau i fod yn ddewis olaf i staff nyrsio, ac rwyf wedi clywed straeon am yr aberth personol maent yn ei wneud bob dydd wrth ymladd am ofal diogel i'w cleifion gwnaeth eu gwthio i bleidleisio am streic.

"Rydym yn obeithiol y bydd y trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol sylweddol i staff nyrsio'r GIG yng Nghymru a fydd yn gwella telerau ac amodau eu gwaith yn ogystal 芒'r taliad ychwanegol sydd wedi cael ei dderbyn."

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn falch fod y gweithredu diwydiannol wedi'i ohirio er mwyn trafod "cryfhau elfennau o'r cynnig sydd ddim yn ymwneud 芒 th芒l".