Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Miloedd yn heidio i gartref newydd Tafwyl er y glaw
Mae miloedd o bobl wedi heidio i 诺yl Gymraeg fwyaf Caerdydd, er gwaethaf cyfnodau o dywydd gwael.
Mae Tafwyl yn cael ei chynnal ar gaeau parc Bute am y tro cyntaf eleni, wedi penderfyniad bod angen symud i leoliad mwy na'i chartref blaenorol ar dir Castell Caerdydd.
Hefyd am y tro cyntaf eleni mae S4C yn darlledu'n fwy o'r digwyddiad, gan gynnwys perfformiad llawn Bwncath, prif act arlwy nos Sadwrn.
Roedd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford yn rhan o seremoni agoriadol yr 诺yl ddydd Sadwrn.
Cyfeiriodd Mr Drakeford at nod Llywodraeth Cymru o geisio sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, gan ddweud bod yna "uchelgais arall... i ddyblu defnydd y Gymraeg".
"Mae'n un peth i ddysgu - mae'n rhywbeth arall i ddefnyddio'r Gymraeg a dyna pam mae Tafwyl yn bwysig" dywedodd.
"Mae'n rhoi cyfle i bobl i ddefnyddio'r Gymraeg, yn anffurfiol, gyda phobl eraill sy'n defnyddio'r Gymraeg - nid jyst yn yr ysgol, ond y tu fas o'r ysgol... pob agwedd o fywydau pobl yma yng Nghymru."
Dywedodd Heulyn Rees, Prif Weithredwr Menter Caerdydd: "Y'n ni'n sylweddoli os y'n ni am dyfu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru ma' rhaid i ni dynnu pobl aton ni a dyna yw rhan o gennad Tafwyl.
"Y'n ni yn sicr yn trio tynnu pobl aton ni o ymylon y Gymraeg a cael nhw i fwynhau g诺yl, fi'n gobeithio, sydd mor gynhwysol 芒 phosib."
Mae trefnwyr Tafwyl wedi disgrifio manteision symud y digwyddiad i leoliad newydd, gan gynnwys lle ar gyfer mwy o ymwelwyr a thair mynedfa.
Roedd yna groeso ymhlith ymwelwyr i'r penderfyniad i symud i Barc Bute.
Dywedodd Catrin a ymwelodd 芒'r 诺yl gyda'i mab: "Fi'n hapus bod e wedi symud eleni. Mae'n neis bod e mwy yng nghanol y dre ond ddim yn y castell.
"'Dan ni'n dod bob blwyddyn. 'Dw i'n gweithio yng Nghaerdydd yn rhedeg Cylch Meithrin a ma' jyst yn neis cael g诺yl ar gyfer yr iaith Gymraeg... lot o hwyl i gael yma."
Dywedodd Siriol ei bod wedi dod i'r 诺yl "i glywed y gerddoriaeth Gymraeg", a'i bod yn edrych ymlaen at fwynhau "peint a dawnsio" nos Sadwrn.
"Mae'n digon agos, tr锚n lawr a digon central i bawb. Mae'n neis bod e yn y ddinas ac yn central."
Ymhlith y stondinwyr yn yr 诺yl eleni mae'r cynhyrchydd gemwaith Elin Mair Roberts - dylunydd Coron yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
"Tro dwytha i mi fod 'ma oedd n么l yn 2016 yn y castell, felly mae'n neis iawn i ddod n么l i Gaerdydd a'i weld ar ei newydd wedd ar safle lot mwy," dywedodd.
"Mae'n bwysig iawn i ddathlu bob dim sydd ynghlwm 芒 Cymru a busnesau bach Cymru.
"Mae'r tywydd yn gaddo yn eithaf anffafriol drwy'r penwythnos. Mae'n job deud os 'di o'n mynd i amharu, ond yn enwedig yng Nghymru ma' pawb mor gefnogol fel arfer so gobeithio deith pawb allan yng nghanol y glaw."
Mae Lleu a Kirsty ar ddyletswydd yn yr 诺yl ar ran Prifysgol Bangor.
"Ni'n dod i Tafwyl i weithio ar stondin y Brifysgol ond hefyd i fwynhau ar 么l y gwaith," dywedodd Lleu.
"Mae digwyddiadau fel hyn yn ofnadwy o bwysig yn enwedig gyda'r iaith Gymraeg," meddai Kirsty. "Ma' cael gweld Dafydd Iwan ddim yn gyfle sy'n dod yn aml. 'Dan ni wrth ein bodd yma."