Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Heriau' rhwng Llafur y DU a Chymru medd Syr Keir Starmer
Mae Syr Keir Starmer wedi cyfaddef na all "smalio" nad oes heriau yn ei berthynas 芒 Llywodraeth Lafur Cymru.
Wrth siarad cyn cynhadledd y blaid Lafur, gwrthododd Syr Keir ailadrodd ei sylw blaenorol mai Llafur Cymru oedd ei "lasbrint" ar gyfer grym.
Dywedodd fod llawer am Gymru y mae'n "falch ohono".
Mae deddf 20mya diweddar Llafur Cymru wedi denu beirniadaeth ffyrnig, a deiseb a dorrodd record yn galw am ei dileu.
Glasbrint?
Gofynnwyd i Syr Keir ai Llywodraeth Lafur Cymru oedd y "glasbrint o hyd ar gyfer yr hyn y gallai Llafur ei wneud mewn llywodraeth ar draws y DU".
Roedd yn ymadrodd a ddefnyddiodd yng nghynhadledd Llafur Cymru yn Llandudno y llynedd.
Dewisodd beidio 芒'i ailadrodd, gan ddweud: "Mae llawer o bethau'n digwydd yng Nghymru yr wyf yn falch ohonynt, y mae Llywodraeth Cymru yn falch iawn ohonynt."
Mae dyfyniad Syr Keir yn Llandudno wedi cael ei ailadrodd gan y Ceidwadwyr sydd wedi rhybuddio - ymysg pethau eraill - y gallai arwain at gyflwyno deddf 20mya ar draws Lloegr, pe bai Llafur yn ennill yr Etholiad Cyffredinol nesaf.
Dywedodd Syr Keir: "Nid wyf yn credu y byddai unrhyw un sy'n gwylio hyn yn awgrymu nad oes heriau.
"Wrth gwrs mae yna heriau. Y cwestiwn yw sut ydyn ni'n ymateb i'r heriau hynny? A oes ffyrdd gwahanol o wneud hyn?
"Byddai llywodraeth Lafur newydd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i oresgyn yr heriau.
"Yr hyn sydd gennym ni ar hyn o bryd yw llywodraeth San Steffan sydd mewn gwrthdaro cyson 芒 Llywodraeth Cymru.
"Yn y diwedd, nid yw hynny'n helpu unrhyw un mewn gwirionedd.
"Felly dwi'n meddwl y byddai'n feddylfryd gwahanol, os ydyn ni'n gallu ennill yr etholiad cyffredinol."
'Gwallgofrwydd'
Mae nifer o ASau Llafur Cymru wedi mynegi pryderon yn breifat am y gyfraith 20mya.
Dywedodd un ei fod "yn achubiaeth" i'r Tor茂aid oedd yn "boddi".
Galwodd un arall y gyfraith newydd yn "wallgofrwydd".
Beirniadodd Syr Keir y Ceidwadwyr am ei disgrifio fel deddf sy'n ei gwneud hi'n 20mya ym mhobman.
Mae gan gynghorau lleol yng Nghymru y p诺er i eithrio ffyrdd o'r terfyn newydd.
Roedd hefyd yn ymddangos yn ddryslyd ynghylch y term a ffefrir gan Lywodraeth Cymru, sef "cyfraith ddiofyn", gan ddweud wrth 大象传媒 Cymru fod hynny'n anghywir.
Dywedodd Syr Keir fod 20mya yn "fater i brif weinidog Cymru".
Ychwanegodd mai "awdurdodau lleol" a "phobl leol" yn Lloegr ddylai benderfynu ble y dylai parthau 20mya fod.
Datgelodd hefyd fod ei "swyddfa" mewn cysylltiad cyson 芒 phrif weinidog Cymru, ac wrth gael ei holi ymhellach, ei fod ef a Mr Drakeford yn siarad "yn eithaf aml".
Mae Mr Drakeford wedi bod yn feirniad cyson o'r hyn y mae hi'n ei weld fel diffyg cyfathrebu gan Lywodraeth Geidwadol bresennol y DU.
'Newid ei feddwl eto'
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, fod y sylwadau diweddaraf yn enghraifft arall o Syr Keir yn newid ei feddwl.
"Yn amlwg, mae'r sylw ar Gymru gan wasg y DU wedi mynd yn rhy boeth iddo, ac mae wedi newid ei feddwl eto," meddai.
"Gobeithio, yn Lerpwl y penwythnos yma, y gall Mark a Keir gael sgwrs a sicrhau fod GIG Cymru yn flaenoriaeth i Lafur - nid mwy o wleidyddion na therfyn cyflymder 20mya ym mhobman."